Dangos 27 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Aelodaeth,

Papurau yn ymwneud â holiadur swyddogol y Gymdeithas a lenwyd gan aelodau i fynegi eu diddordebau, eu cefndir, a'u barn am weithgareddau'r Gymdeithas.

Anfonebau, derbynebion a threuliau,

Anfonebau, derbynebion a biliau masnachwyr am eitemau a gwasanaethau a brynwyd gan y Gymdeithas (yn cynnwys argraffu, llyfrau, llety, lluniaeth, dillad, bathodynnau, postio, galwadau ffôn, yswiriant, cyfarpar a gwasanaethau gweinyddol swyddfa ac eisteddfod, ac ati), ac hefyd rhoddion gan y Gymdeithas, ynghyd â ffurflenni treuliau swyddogion y Gymdeithas, ffurflenni cais am grantiau ymchwil neu astudiaeth, a gohebiaeth gysylltiedig.

Cofnodion ariannol,

Cofnodion ariannol y Gymdeithas, yn cynnwys anfonebau, derbynebion, treuliau swyddogion y Gymdeithas, manylion am gyfrifon banc, yswiriant a nwyddau marchnata.

Cofnodion cyfarfodydd amrywiol,

Llyfr cofnodion cyntaf y Gymdeithas, yn cynnwys cofnodion ac agendau cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau, cyfarfodydd Pwyllgorau Arbennig, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, Cyfarfodydd Arbennig a Chyfarfodydd Cyffredinol Arbennig, ynghyd ag adroddiadau ariannol.

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd

  • GB 0210 CYMEDLLW
  • fonds
  • 1981-2002

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnwys: cyfansoddiad y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd blynyddol; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, yr Is-bwyllgor Monograffig, yr Is-bwyllgor Marchnata, yr Is-bwyllgor Enwau a Thermau, ac Is-bwyllgor yr Amgylchedd; gohebiaeth; ceisiadau am grantiau; papurau ariannol; a phapurau aelodaeth. = Records of Cymdeithas Edward Llwyd (the Edward Llwyd Society), including: the Society's constitution; minutes of annual meetings; records of the Working Committee, the Monographic Sub-Committee, the Marketing Sub-Committee, the Names and Terms Sub-Committee, and the Environment Sub-Committee; correspondence; applications for grants; financial papers; and membership papers.

Cymdeithas Edward Llwyd

Cyfansoddiad y Gymdeithas,

Copi teipysgrif o Gyfansoddiad y Gymdeithas a gytunwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym 1985, a chopi teipysgrif o'r Cyfansoddiad diwygiedig a gytunwyd mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ym 1993.

Dadansoddi holiadur aelodau,

Dogfen ystadegau a dynnwyd o'r holiadur aelodau gyda dadansoddiad manwl ar ffurf tablau a graffau, ac hefyd disg cyfrifiadur a llythyr at Ysgrifenyddes y Gymdeithas yn trafod canlyniadau'r holiadur a sut y gellid eu dadansoddi.

Gohebiaeth ynglŷn â materion ariannol,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas ac argraffwyr, cwmniau dillad, banciau, cyrff cyhoeddus ac eraill, ynglŷn ag agweddau ariannol cynhyrchu cyhoeddiadau'r Gymdeithas ('Anifeiliaid asgwrn cefn' ac 'Enwau creaduriaid a phlanhigion' yn arbennig), offer swyddfa, nwyddau marchnata, cyfrifon banc y Gymdeithas, llogi ystafelloedd, aelodaeth a materion ariannol eraill, gyda phapurau perthynol yn cynnwys anfonebau a ffurflen gais am daliad grant.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth y Gymdeithas gydag aelodau, masnachwyr a chyrff a mudiadau eraill, ynglŷn â phob agwedd o weithgareddau'r Gymdeithas.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, cymdeithasau eraill, cyrff a mudiadau cyhoeddus, masnachwyr, aelodau'r Gymdeithas ac eraill, ynglŷn â gweinyddiaeth y Gymdeithas, asesiad a grant gan Gyngor Llyfrau Cymru, teithiau cerdded, llwybrau cyhoeddus, cyrsiau addysgiadol, llyfrynnau natur, cynlluniau Parc Cenedlaethol Eryri, strategaeth amygylchedd Cyngor Sir Gwynedd, ffordd osgoi Bethesda, gwobr eisteddfodol, rhestrau enwau Cymraeg ar fywyd gwyllt a byd natur a'r posibilrwydd o gael grant Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyfer eu cyhoeddi, prosiect 'Flora Britannica', enwau Cymraeg ar blanhigion yn archif y botanegydd Arthur Dallman, hysbysebion yn y wasg ac ar y teledu, dysgwyr Cymraeg, mudiadau a phrosiectau amygylcheddol a gwladgarol yng Nghymru ac yn Ewrop, ac aelodaeth y Gymdeithas, gyda phapurau perthynol yn cynnwys llungopiau, ffurflenni cais, torion o'r wasg, taflenni, a nodiadau.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, cymdeithasau eraill, cyrff a mudiadau cyhoeddus (yn arbennig Cyngor Cefn Gwlad Cymru), masnachwyr, aelodau'r Gymdeithas ac eraill, ynglŷn â gweinyddiaeth y Gymdeithas, cydweithio rhwng grwpiau a chyrff amgylcheddol, cynlluniau Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, cyfarfodydd a seminarau, gwaith ymchil a chyhoeddiadau newydd ym maes byd natur a'r amgylchedd (yn arbennig 'Flora Britannica'), ymgyrchoedd amgylcheddol, nawdd ariannol gan y Gymdeithas ac i'r Gymdeithas, gwasanaethau a allai fod o fudd i'r Gymdeithas, yr iaith Gymraeg a gwaith y Gymdeithas, gweithgareddau cyrff a mudiadau eraill o ddiddordeb i aelodau'r Gymdeithas, llwybrau cyhoeddus, teithiau cerdded, datblygiad arfaethedig llinell trydan, polisi cynllunio yng Nghymru, cau cyfleusterau cyhoeddus gan awdurdodau lleol, ac aelodaeth a nwyddau marchnata'r Gymdeithas, gyda phapurau perthynol yn cynnwys cylchlythyrau, adroddiadau, pecyn gwybodaeth, labeli, ffurflenni, torion o'r wasg, a chofnodion cyfarfod Panel y Gymdeithas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau (a nabyddid hefyd fel yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau Cyfnodol, yr Is-Bwyllgor Cyfnodolion, a'r Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau Monograffig), ynghyd â gohebiaeth, nodiadau a deunydd cyhoeddusrwydd perthynol, yn ymwneud yn arbennig â'r 'Naturiaethwr', y cylchlythyr a chyhoeddiadau eraill y Gymdeithas, aelodaeth, marchnata, grantiau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ac eisteddfodau.

Is-Bwyllgor Enwau a Thermau - 'Llên y Llysiau',

Cofnodion yr Is-Bwyllgor Enwau a Thermau yn ymwneud â phrosiect 'Llên y Llysiau', a drafododd lle planhigion ym mywyd a syniadau'r Cymry ar hyd yr oesoedd, gan gynnwys agendau a chofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth, papur trafod, canllawiau, tudalennau o'r cylchlythyr, taflenni, a deunydd am brosiect tebyg yn yr Alban ('Flora Celtica').

Is-Bwyllgor Enwau a Thermau,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Enwau a Thermau, ynghyd â gohebiaeth, nodiadau a chyhoeddiadau perthynol, yn ymwneud ag enwau anifeiliaid, planhigion a lleoedd Cymru, ac yn arbennig y gwaith o baratoi cyhoeddiadau am y rhain.

Is-Bwyllgor Marchnata,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Marchnata, ynghyd â chyfrifon, gohebiaeth, adroddiad, taflenni a thorion o'r wasg yn ymwneud â deunydd hysbysrwydd, nwyddau i'w gwerthu, a gwaith y Pwyllgor yn gyffredinol.

Is-Bwyllgor yr Amgylchedd,

Cofnodion cyfarfodydd Is-Bwyllgor yr Amgylchedd, ynghyd â gohebiaeth rhwng y Gymdeithas a chyrff cyhoeddus (Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn bennaf), mudiadau cyhoeddus, gwleidyddion a gweision sifil. Ymgyrchoedd i ddiogelu amgylchedd cefn gwlad Cymru yw prif bwnc yr ohebiaeth, gyda phwyslais ar effeithiau niweidiol chwareli, y diwydiant olew, ffermydd gwynt a phrosiectau ynni dŵr, yn arbennig mewn Parciau Cenedlaethol. Ceir hefyd gohebiaeth am brosiectau ymchwil a grantiau ymchwil, a phabell amgylcheddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â deunydd perthynol yn cynnwys papurau trafod, dogfennau ymgynghorol, taflenni, cylchlythyr y Gymdeithas, a thoriadau o'r wasg.

Canlyniadau 1 i 20 o 27