Showing 22 results

Archival description
Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd file
Advanced search options
Print preview View:

Pwyllgor Gwaith,

Papurau’n ymwneud â gweithgareddau'r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys: ceisiadau am grantiau ymchwil y Gymdeithas, ac adroddiadau a phapurau eraill am brosiectau ymchwil i mewn i blanhigion, adar ac anifeiliaid; gohebiaeth gyda masnachwyr, ac yn arbennig gyda Gwasg Carreg Gwalch am gynhyrchu cyfrolau teithiau; fersiwn drafft o'r holiadur aelodau; rheolau sefydlog Is-Bwyllgorau; llythrau gan swyddogion y Gymdeithas at y Pwyllgor Gwaith ac at aelodau; costau teithio swyddogion y Gymdeithas; taflenni; a thorion o'r wasg am faterion amgylcheddol. Ceir hefyd nifer sylweddol o bapurau'n ymwneud â’r cysylltiad rhwng y Gymdeithas a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn cynnwys ceisiadau gan y Gymdeithas am grantiau’r Cyngor, copiau drafft o gynllun datblygu’r Gymdeithas, manylion ariannol am gyhoeddiadau’r Gymdeithas, ac anfonebau a gohebiaeth gysylltiedig, ynghyd â dogfennaeth y Cyngor ynghylch ei pholisi dwyieithrwydd, siarter ar gyfer dehongli amgylchedd a diwylliant Cymru, seminarau a drefnwyd gan neu gyda chymorth y Cyngor, a rhaglen waith ynghylch llwybrau cyhoeddus; yn ogystâl â hyn, y mae papurau’n ymdrin â sefydlu fforwm Cwlwm gan y Cyngor, yn cynnwys cyfansoddiad, agendau a chofnodion cyfarfodydd, nod ac amcanion, llythyrau, a ffurflen gais ymaelodi.

Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau (a nabyddid hefyd fel yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau Cyfnodol, yr Is-Bwyllgor Cyfnodolion, a'r Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau Monograffig), ynghyd â gohebiaeth, nodiadau a deunydd cyhoeddusrwydd perthynol, yn ymwneud yn arbennig â'r 'Naturiaethwr', y cylchlythyr a chyhoeddiadau eraill y Gymdeithas, aelodaeth, marchnata, grantiau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ac eisteddfodau.

Is-Bwyllgor yr Amgylchedd,

Cofnodion cyfarfodydd Is-Bwyllgor yr Amgylchedd, ynghyd â gohebiaeth rhwng y Gymdeithas a chyrff cyhoeddus (Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn bennaf), mudiadau cyhoeddus, gwleidyddion a gweision sifil. Ymgyrchoedd i ddiogelu amgylchedd cefn gwlad Cymru yw prif bwnc yr ohebiaeth, gyda phwyslais ar effeithiau niweidiol chwareli, y diwydiant olew, ffermydd gwynt a phrosiectau ynni dŵr, yn arbennig mewn Parciau Cenedlaethol. Ceir hefyd gohebiaeth am brosiectau ymchwil a grantiau ymchwil, a phabell amgylcheddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â deunydd perthynol yn cynnwys papurau trafod, dogfennau ymgynghorol, taflenni, cylchlythyr y Gymdeithas, a thoriadau o'r wasg.

Is-Bwyllgor Marchnata,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Marchnata, ynghyd â chyfrifon, gohebiaeth, adroddiad, taflenni a thorion o'r wasg yn ymwneud â deunydd hysbysrwydd, nwyddau i'w gwerthu, a gwaith y Pwyllgor yn gyffredinol.

Is-Bwyllgor Enwau a Thermau - 'Llên y Llysiau',

Cofnodion yr Is-Bwyllgor Enwau a Thermau yn ymwneud â phrosiect 'Llên y Llysiau', a drafododd lle planhigion ym mywyd a syniadau'r Cymry ar hyd yr oesoedd, gan gynnwys agendau a chofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth, papur trafod, canllawiau, tudalennau o'r cylchlythyr, taflenni, a deunydd am brosiect tebyg yn yr Alban ('Flora Celtica').

Gohebiaeth ynglŷn â materion ariannol,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas ac argraffwyr, cwmniau dillad, banciau, cyrff cyhoeddus ac eraill, ynglŷn ag agweddau ariannol cynhyrchu cyhoeddiadau'r Gymdeithas ('Anifeiliaid asgwrn cefn' ac 'Enwau creaduriaid a phlanhigion' yn arbennig), offer swyddfa, nwyddau marchnata, cyfrifon banc y Gymdeithas, llogi ystafelloedd, aelodaeth a materion ariannol eraill, gyda phapurau perthynol yn cynnwys anfonebau a ffurflen gais am daliad grant.

Ynni gwynt,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, masnachwyr, gweision sifil, cyrff cyhoeddus, gwleidyddion, papurau newydd, a grwpiau ac unigolion yr oeddynt yn erbyn melinau gwynt, ynghylch prosiectau arfaethedig ynni gwynt yng Nghymru, gyda phapurau perthynol yn cynnwys datganiadau, ceisiadau am ganiatâd i adeiladu fferm gwynt, cylchlythyrau, ymgynghoriad cyhoeddus, cofnodion cyfarfodydd Clymblaid Hiraethog, holiadur, taflenni, posteri, torion o'r wasg, a chofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas ac Is-Bwyllgor yr Amgylchedd.

Anfonebau, derbynebion a threuliau,

Anfonebau, derbynebion a biliau masnachwyr am eitemau a gwasanaethau a brynwyd gan y Gymdeithas (yn cynnwys argraffu, llyfrau, llety, lluniaeth, dillad, bathodynnau, postio, galwadau ffôn, yswiriant, cyfarpar a gwasanaethau gweinyddol swyddfa ac eisteddfod, ac ati), ac hefyd rhoddion gan y Gymdeithas, ynghyd â ffurflenni treuliau swyddogion y Gymdeithas, ffurflenni cais am grantiau ymchwil neu astudiaeth, a gohebiaeth gysylltiedig.

Cyfansoddiad y Gymdeithas,

Copi teipysgrif o Gyfansoddiad y Gymdeithas a gytunwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym 1985, a chopi teipysgrif o'r Cyfansoddiad diwygiedig a gytunwyd mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ym 1993.

Cofnodion cyfarfodydd amrywiol,

Llyfr cofnodion cyntaf y Gymdeithas, yn cynnwys cofnodion ac agendau cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau, cyfarfodydd Pwyllgorau Arbennig, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, Cyfarfodydd Arbennig a Chyfarfodydd Cyffredinol Arbennig, ynghyd ag adroddiadau ariannol.

Pwyllgor Gwaith,

Agendau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, cofnodion cyfarfodydd blynyddol a chyfarfodydd arbennig, a phapurau eraill ym ymwneud â phob agwedd o weithgareddau'r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys cyfrifon, cyfansoddiad y Gymdeithas, cofnodion yr Is-Bwyllgorau, rheolau sefydlog Is-Bwyllgorau, adroddiadau, canllawiau diogelwch, canllawiau teithiau cerdded, cynllun cydweithrediad trwy gymhorthdal rhwng y Gymdeithas a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, a chofnodion cyfarfod rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a mudiadau gwirfoddol Cymraeg eu hiaith, gyda gohebiaeth gysylltiedig rhwng y Gymdeithas a chymdeithasau, masnachwyr, cyrff cyhoeddus a mudiadau eraill, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn bennaf, ac hefyd swyddogion ac aelodau'r Gymdeithas.

Is-Bwyllgor Enwau a Thermau,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Enwau a Thermau, ynghyd â gohebiaeth, nodiadau a chyhoeddiadau perthynol, yn ymwneud ag enwau anifeiliaid, planhigion a lleoedd Cymru, ac yn arbennig y gwaith o baratoi cyhoeddiadau am y rhain.

Pwyllgor Gwaith,

Agendau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, ac hefyd cofnodion cyfarfodydd blynyddol, cynhadledd flynyddol a chyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas, ynghyd ag adroddiadau a llythyrau. Ymysg y rhain y mae canllawiau teithiau, polisi'r amgylchedd a pholisiau eraill, dogfennau'n nodi prif feysydd gwaith a thargedau'r Gymdeithas, syniadau am nwyddau'r Gymdeithas, cais gan y Gymdeithas am gymhorthdal oddi wrth Cyngor Cefn Gwlad Cymru, taflen ddrafft yn holi am wybodaeth ynglŷn â bele'r coed, a llythyrau oddi wrth yr Ysgrifennydd at aelodau'r Pwyllgor Gwaith, aelodau'r Gymdeithas, Merched y Wawr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Amgueddfa Werin Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Cwmni Teledu Telesgôp a chyfranwyr at gyhoeddiadau'r Gymdeithas. Ffeil yw hon o ddogfennau a argraffwyd oddi wrth gyfrifiadur ac a drefnwyd wedyn gan y Gymdeithas.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, cymdeithasau eraill, cyrff a mudiadau cyhoeddus, masnachwyr, aelodau'r Gymdeithas ac eraill, ynglŷn â gweinyddiaeth y Gymdeithas, asesiad a grant gan Gyngor Llyfrau Cymru, teithiau cerdded, llwybrau cyhoeddus, cyrsiau addysgiadol, llyfrynnau natur, cynlluniau Parc Cenedlaethol Eryri, strategaeth amygylchedd Cyngor Sir Gwynedd, ffordd osgoi Bethesda, gwobr eisteddfodol, rhestrau enwau Cymraeg ar fywyd gwyllt a byd natur a'r posibilrwydd o gael grant Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyfer eu cyhoeddi, prosiect 'Flora Britannica', enwau Cymraeg ar blanhigion yn archif y botanegydd Arthur Dallman, hysbysebion yn y wasg ac ar y teledu, dysgwyr Cymraeg, mudiadau a phrosiectau amygylcheddol a gwladgarol yng Nghymru ac yn Ewrop, ac aelodaeth y Gymdeithas, gyda phapurau perthynol yn cynnwys llungopiau, ffurflenni cais, torion o'r wasg, taflenni, a nodiadau.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, cymdeithasau eraill, cyrff a mudiadau cyhoeddus (yn arbennig Cyngor Cefn Gwlad Cymru), masnachwyr, aelodau'r Gymdeithas ac eraill, ynglŷn â gweinyddiaeth y Gymdeithas, cydweithio rhwng grwpiau a chyrff amgylcheddol, cynlluniau Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, cyfarfodydd a seminarau, gwaith ymchil a chyhoeddiadau newydd ym maes byd natur a'r amgylchedd (yn arbennig 'Flora Britannica'), ymgyrchoedd amgylcheddol, nawdd ariannol gan y Gymdeithas ac i'r Gymdeithas, gwasanaethau a allai fod o fudd i'r Gymdeithas, yr iaith Gymraeg a gwaith y Gymdeithas, gweithgareddau cyrff a mudiadau eraill o ddiddordeb i aelodau'r Gymdeithas, llwybrau cyhoeddus, teithiau cerdded, datblygiad arfaethedig llinell trydan, polisi cynllunio yng Nghymru, cau cyfleusterau cyhoeddus gan awdurdodau lleol, ac aelodaeth a nwyddau marchnata'r Gymdeithas, gyda phapurau perthynol yn cynnwys cylchlythyrau, adroddiadau, pecyn gwybodaeth, labeli, ffurflenni, torion o'r wasg, a chofnodion cyfarfod Panel y Gymdeithas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Nwyddau marchnata,

Lliain sychu llestri a gynhyrchwyd gan Lyfrgell Bodley, Rhydychen, yn dwyn lluniau a thestun botanegol o'r Llyfrgell. 'Roedd y Gymdeithas yn gwerthu eitemau tebyg.

Results 1 to 20 of 22