Showing 31 results

Archival description
Papurau Alarch Ogwy,
Print preview View:

Cyfrol a ddefnyddiwyd yn wreiddiol fel cofrestr lletya aelodau o Gymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd yn Sgiwen a'r cylch, ond a ddefnyddiwyd ...,

Cyfrol a ddefnyddiwyd yn wreiddiol fel cofrestr lletya aelodau o Gymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd yn Sgiwen a'r cylch, ond a ddefnyddiwyd hefyd i gynnwys torion papur newydd ac eitemau printiedig eraill fel a ganlyn: fo. 1. Rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Trelawnyd (Newmarket), Sir y Fflint, 1 Awst 1904; f.o 1v. Toriad o erthygl gan James Clement, 'Alarch Ogwy', o'r Goleuad yn dwyn y teitl "Y perygl i'n diddordeb yng ngwaith y Cyfundeb leihau"; fo. 2. Toriad papur newydd, dyddiedig dydd Sadwrn, [31 Mai 1902], yn amlinellu telerau heddwch Rhyfel y Boer, De Affrica; fo. 2v. Toriad o gerdd 'Wel - Dyna' o waith James Clement, 'Alarch Ogwy'; ff. 3, 4v-5, 7v. Torion o feirniadaeth J. J. Williams ar y farwnad i'r diweddar 'Esyllwg', yn Eisteddfod Aberpennar, Llun y Pasg 1904, a gyhoeddwyd yn Tarian y Gweithiwr. Gweler hefyd rhif 2, ff. 48-54 uchod; fo. 3v. Toriad papur newydd, dyddiedig 19 Chwefror 1894, yn trafod "Sefyllfa y Fasnach Lo"; ff. 5v, 6v-7, 9r-v. Llythyrau at olygydd Tarian y Gweithiwr, 29 Awst-3 Medi 1891, gan James Clement, 'Alarch Ogwy' ac Isaac Evans, Sgiwen, ynglyn â diwrnod gwaith wyth awr i'r glowyr; ff. 7v-8v. Toriadau papur newydd yn cynnwys beirniadaeth 'Trisant', [Hugh Jones, (1845-1903)] ar y bryddest yn Eisteddfod y Temlwyr Da, Lerpwl, 1901; fo. 10. Llythyr printiedig, dyddiedig 12 Mawrth 1894, oddi wrth James Clement ['Alarch Ogwy'], at lowyr Dosbarth Castell-nedd, Abertawe a Llanelli.

[J.] Gwili [Jenkins], Caerdydd. Trafod cystadleuaeth eisteddfodol y bu yn ei beirniadu gydag Ifano [Jones] a Beriah [Gwynfe Evans]. Mae ...,

[J.] Gwili [Jenkins], Caerdydd. Trafod cystadleuaeth eisteddfodol y bu yn ei beirniadu gydag Ifano [Jones] a Beriah [Gwynfe Evans]. Mae ei feirniadaeth ef gyda 'Vinsent', [E. Vincent Evans, (1851-1934)]. Mae'n cofio am dair drama 'Alarch Ogwy' - roedd un yn nodedig iawn a doeth fyddai cyhoeddi'r tair ynghyd. [Gweler Y Gobaith Lofruddiwyd (Morriston, 1908)]. Bydd cyfrol cyfansoddiadau Eisteddfod Llundain yn ymddangos cyn hir.

Ffeil o gyfansoddiadau eisteddfodol o waith James Clement, 'Alarch Ogwy': ff. 1-5. Pryddest: "Brwydrau Bywyd" ar gyfer Eisteddfod Penclawdd, Nadolig ...,

Ffeil o gyfansoddiadau eisteddfodol o waith James Clement, 'Alarch Ogwy': ff. 1-5. Pryddest: "Brwydrau Bywyd" ar gyfer Eisteddfod Penclawdd, Nadolig 1908. Beirniad: 'Gwilym Myrddin' [William Jones, (1863-1946), Rhydaman]. Ffugenw: 'Un tyner dan y tonau'. 200 llinell; ff. 6-10. Pryddest: "Ac o'r bobl nid oedd un gyd â mi" ar gyfer Eisteddfod Treforys, Pasg 1902. Beirniad: 'Gwili' [John Gwili Jenkins, (1872-1936)]. Ffugenw: 'Simeon'. 150 llinell; ff. 11-12. Marwnad i'r diweddar Mr Thomas Jones, Ystradgynlais. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'; ff. 13-17. Marwnad i'r diweddar Mr William Punter, Brynmenyn; ff. 18-22. Marwnad i'r diweddar Mr John Evans, Llanfair, ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Llanfair. Beirniad: 'Elfed' [Howell Elvet Lewis, (1860-1953)]. Ffugenw: 'Gwlith Hermon'; ff. 23-6. Pryddest: "A'r olew a beidiodd" ar gyfer Eisteddfod Bodringallt, Nadolig 1903. Beirniad: Y Parchedig J. Lewis. Ffugenw: 'Simeon'. 100 llinell; ff. 27-8. Marwnad i'r diweddar Mr David Jeffreys, Ystradgynlais. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'; ff. 29-33. Marwnad i'r diweddar Mr Thomas Williams, Rhos, ar gyfer Eisteddfod y Rhos, 19 Tachwedd 1898. Beirniad: Y Parchedig David Jenkins, 'Urbanus'. Ffugenw: 'Adwaenydd y brawd anwyl'. 100 llinell; ff. 34-5. Marwnad i'r diweddar Mr Rees Thomas, Ystradgynlais. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'. (Gweler hefyd f. 52 isod); ff. 36-7. Cerdd: "Y Weddi Ddirgel" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Abertawe, 27 Ionawr [1898]. Ffugenw: 'Credadyn'; ff. 38-42. Marwnad i'r diweddar John Thomas, ysw., Cwrt Herbert, ar gyfer Eisteddfod yr Onllwyn, 1897. Beirniad: Y Parchedig B[en] Davies. Ffugenw: 'Trist ei ysbryd'. 150 llinell; ff. 43-51. Pryddest: "Anerchiad Paul i'r Atheniaid" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Pontneddfechan, 1901. Beirniad: [E.] Gurnos Jones. ?Anghyflawn; f. 52. Marwnad i'r diweddar Mr Rees Thomas, Ystradgynlais. (Gweler ff. 34-5 uchod). 26 llinell yn unig; ff. 54-5. Darn adrodd: "Petr a Ioan ger bron y Cyngor" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Bodringallt, Nadolig 1913. Beirniad: J. Bodfan Anwyl. Ffugenw: 'Galilead'; ff. 56-61. Traethawd: "Buddioldeb Cystadleuaeth" ar gyfer Eisteddfod Abertawe, 27 Ionawr 1898. Beirniad: Y Parchedig E. Edmunds. Ffugenw: 'Cystadleuydd'; ff. 62-8. Ysgrif: "Uchelgais" ar gyfer cystadleuaeth yng Nghyfarfod Llenyddol Gilfach Goch, 29 Mehefin 1880. Beirniad: Y Parchedig E. Gurnos Jones. Ffugenw: 'Omega'; ff. 69-75. [Stori fer]: "Penod o Fywyd Cymreig - Y Dydd Hwnnw"; ff. 76-99. Traethawd: "Hanes y gwahanol enwadau yn Sciwen" ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Calfaria, Sciwen, 1901. Beirniad: Thomas Powell, Glais; ff. 100-5. [Stori fer]: "Penod - Ty a Theulu y Dolau"; ff. 106-116. Araith: "A all chwedloniaeth fod yn allu er daioni?".

J[oseph] Ll[ewelyn] Thomas, Ficer Aberpergwm, Pontneddfechan. Diolch am lythyr caredig - derbyniodd amryw ohonynt. Tebyg y bydd yn ymddeol ryw ...,

J[oseph] Ll[ewelyn] Thomas, Ficer Aberpergwm, Pontneddfechan. Diolch am lythyr caredig - derbyniodd amryw ohonynt. Tebyg y bydd yn ymddeol ryw ddydd, gan obeithio cael seibiant i ysgrifennu ei atgofion. Derbyniodd Raglen y Gynhadledd Flynyddol ac y mae'n bwriadu dod i Bontypridd. Nid oedd ei enw ymhlith y tanysgrifwyr gan na chafodd ei atgoffa i dalu.

Results 1 to 20 of 31