
Dangos 37 canlyniad
Disgrifiad archifol- 7.
- Ffeil
- 1934 a dd.
Copi anghyflawn o sgript 'Y Teganau Tlysion' gan F Sladen-Smith (cyfieithiad Leslie Harries, Yr Wyddgrug); dalen yn rhoi crynodeb Saesneg o hanes Blodeuwedd; copi printiedig o'r gomedi Awel Dro gan Ieuan Griffith (Aberystwyth, 1934) yn cynnwys nodiadau cynhyrchu mewn pensel, a dalennau amrywiol eraill.
- 4.
- Ffeil
- 1968.
Copi yn llaw J T Jones, Porthmadog, o 'Marsiandwr Fenis', ei drosiad o The Merchant of Venice (Shakespeare) ynghyd â chopi teipysgrif a llythyr, 1968, oddi wrth J T Jones at Morris Jones yn amgau cywiriadau.
- 1.
- Ffeil
- 1947-49.
Copïau o bum llythyr at Morris Jones oddi wrth Saunders Lewis, 1947-48 a dd, a Chynan, 1949, ynglyn â chyflwyniadau o'u gwaith gan Gwmni Garthewin.
- 11.
- Ffeil
- dd.
Cynlluniau dyfrlliw (6) gan J Owen o'r gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad cyntaf 'Blodeuwedd'; tri chynllun dyfrlliw ar gyfer set 'Gan Bwyll'; cynlluniau pensel ar gyfer gwahanol olygfeydd yn 'Hamlet'; a dwy set o gynlluniau llwyfan pensel ar gyfer 'Marsiandwr Fenis'.
- 20.
- Ffeil
- 1960-73.
Deuddeg o raglenni a thri thocyn, 1960-73, ar gyfer cynyrchiadau Cwmni Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Llandudno a'r Cylch yn Theatr Arcadia, Llandudno pan oedd Morris Jones yn cynhyrchu.
- 8.
- Ffeil
- 1946-50.
Ffeil amrywiol yn ymwneud â hanes y perfformiadau a fu yn Theatr Garthewin rhwng 1946 a 1950, yn cynnwys tocynnau, posteri, hysbysebion, biliau, gohebiaeth, cofnodion a hanes y theatr a'r actorion.
Ffeil o bapurau cyffredinol, 1946-62, yn ymwneud â Theatr Garthewin,
- 17.
- Ffeil
- 1946-62.
Ffeil o ohebiaeth, 1946-54 a dim dyddiad, ynglyn â Theatr Garthewin a Chwaraewyr Garthewin,
- 15.
- Ffeil
- 1946-54 a dd.
- 23.
- Ffeil
- 1939-60.
Llythyrau at Morris Jones, Hen Golwyn, cynhyrchydd cwmni Chwaraewyr Garthewin, oddi wrth Saunders Lewis, c. 1947-52 (23/1-11) ac Albert Evans-Jones ('Cynan') 1949 (23/12) ynglyn â chyflwymadau o'u gwaith gan Gwmni Garthewin (gw hefyd rhif 1 yn y rhestr flaenorol); Ben Bowen Thomas 1939 (23/13); a Griff J Evans, Pen-y-groes, sir Gaernarfon, 1960, yn amgáu copi teipysgrif o gyfieithiad Syr John Morris-Jones o benillion Omar Khayyam (23/14).
- 24.
- Ffeil
- 1933-77.
Llythyrau at Morris Jones, Hen Golwyn, oddi wrth: William Armstrong, cyfarwyddwr, Liverpool Repertory Theatre Ltd, 1933 (24/1); J Kitchener Davies 1947 (24/2); Huw Lloyd Edwards 1961-63 (24/3-5); Griff J Evans, Pen-y-groes, 1959 (24/6); Albert Evans-Jones ('Cynan') 1949 (24/7); F George Fisher 1953 (24/8-9); Maxwell Fraser 1963-77 (24/10-11); J T Jones (Porthmadog) 1964-75 (24/12-13); Edward Rees (Rhuthun) 1948 (24/24); a Kate Roberts 1963 (24/25).
- GB 0210 GARWIN
- fonds
- 1933-1994 /
Llythyrau at Morris Jones, 1933-1977, oddi wrth Saunders Lewis ac eraill; copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu gan Saunders Lewis. Huw Lloyd Edwards, F. Sladen-Smith ac Ieuan Griffith, a chyfieithiadau o ddramâu Shakespeare gan J. T. Jones, Porthmadog,[1934]-[1968]; posteri ar gyfer dramau a berfformiwyd gan Gwmni Garthewin neu yn Theatr Garthewin,1946-1958; cynlluniau mewn dyfrlliw a phensil o wisgoedd a setiau, [1948]-[1959]; cynlluniau llwyfan,[1968]; ffotograffau o berfformiadau, [c. 1947]-[c.1980]; tocynnau, raglenni ac effemera arall, 1946-1977; gohebiaeth ynglŷn â'r theatr a'r cwmni,1946-1954; llyfrau cofnodion, 1949-1989 (ynghyd â nodyn, 1994); papurau ariannol,1946-1985; papurau cyffredinol,1946-1971; torion papur newydd,1946-1977; a rhaglenni'n ymwneud â chwmnïau theatrig eraill,1947-1984 = Letters to Morris Jones, 1933-1977, from Saunders Lewis and others; manuscript and typescript copies of plays by Saunders Lewis, Huw Lloyd Edwards, F. Sladen-Smith, and Ieuan Griffith, and translations of Shakespeare plays by J. T. Jones, Porthmadog, [1934]-[1968]; posters of plays performed by Cwmni Garthewin or at Theatr Garthewin, 1946-1958; watercolour and pencil designs of costumes and sets, [1948]-[1959]; stage plans, [1968]; photographs of performances, [c.1947]-[c.1980]; tickets, programmes and other ephemera, 1946-1977; correspondence concerning the theatre and company, 1946-1954; minute books, 1949-1989 (with a note, 1994); financial papers, 1946-1985; general papers, 1946-1971; newspaper cuttings, 1946-1977; and programmes relating to other theatre companies, 1947-1985.
Theatr Garthewin.