Showing 37 results

Archival description
Papurau Theatr Garthewin,
Print preview View:

Copi anghyflawn o sgript 'Y Teganau Tlysion' gan F Sladen-Smith (cyfieithiad Leslie Harries, Yr Wyddgrug); dalen yn rhoi crynodeb Saesneg ...,

Copi anghyflawn o sgript 'Y Teganau Tlysion' gan F Sladen-Smith (cyfieithiad Leslie Harries, Yr Wyddgrug); dalen yn rhoi crynodeb Saesneg o hanes Blodeuwedd; copi printiedig o'r gomedi Awel Dro gan Ieuan Griffith (Aberystwyth, 1934) yn cynnwys nodiadau cynhyrchu mewn pensel, a dalennau amrywiol eraill.

Pymtheg o raglenni dramâu, 1947-85 a dim dyddiad, a gyflwynwyd gan gwmnïau amrywiol, yn cynnwys Cymdeithas Ddrama Sir Ddinbych, Chwaryddion ...,

Pymtheg o raglenni dramâu, 1947-85 a dim dyddiad, a gyflwynwyd gan gwmnïau amrywiol, yn cynnwys Cymdeithas Ddrama Sir Ddinbych, Chwaryddion y Genhinen, Cwmni Cofio, Cwmni Drama Maelog, Chwaraewyr Coleg y Gogledd, Chwaraewyr Colwyn, Cymdeithas Ddrama Abergele, a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Llythyrau at Morris Jones, Hen Golwyn, oddi wrth: William Armstrong, cyfarwyddwr, Liverpool Repertory Theatre Ltd, 1933 (24/1); J Kitchener Davies ...,

Llythyrau at Morris Jones, Hen Golwyn, oddi wrth: William Armstrong, cyfarwyddwr, Liverpool Repertory Theatre Ltd, 1933 (24/1); J Kitchener Davies 1947 (24/2); Huw Lloyd Edwards 1961-63 (24/3-5); Griff J Evans, Pen-y-groes, 1959 (24/6); Albert Evans-Jones ('Cynan') 1949 (24/7); F George Fisher 1953 (24/8-9); Maxwell Fraser 1963-77 (24/10-11); J T Jones (Porthmadog) 1964-75 (24/12-13); Edward Rees (Rhuthun) 1948 (24/24); a Kate Roberts 1963 (24/25).

Results 1 to 20 of 37