Showing 68 results

Archival description
Emrys Bennett Owen Papers
Print preview View:

Aberbiga

Copi o rhentol rhwng Syr W. W. Wynn ac Arthur Bennett Owen yn ymwneud ag Aberbiga ym mhlwyf Trefeglwys. Nodir enwau caeau Aberbiga sydd bellach o dan Llyn Clywedog.

Alawon fy ngwlad

Papurau yn ymwneud â chyhoeddi Alawon fy ngwlad (Y Drenewydd, 1896) yn cynnwys llungopi o lythyr oddi wrth Nicholas Bennett at Syr Watkin [Williams Wynn] yn dweud iddo dreulio hanner can mlynedd yn ymchwilio. Noda Emrys Bennett Owen iddo dreulio amser yn y Llyfrgell Genedlaethol yn darllen llawysgrif Alawon fy ngwlad (NLW MS 1213E) a chasgliad Llewelyn Alaw (NLW MS 381D).

Cadrawd-O. M. Edwards

Papurau'n ymwneud â chysylltiad Cadrawd (Thomas Christopher Evans), Ceiriog, R. J. Derfel, Emlyn Evans ac O. M. Edwards, yn cynnwys adysgrifau o lythyrau.

Cinio Ffariars yng Nghaerdydd

Araith Llwyd o'r Bryn, 'Cinio mawr Caerdydd,' a draddodwyd mewn cinio a gynhaliwyd i ddathlu fod gwartheg Cymru yn glir o'r diciâu. Mae araith Llwyd o'r Bryn yn ei law ei hun, ynghyd â chopi teipiedig a chyfieithiad, 'The cattle of Wales are free of tuberculosis'.

Llwyd, o'r Bryn, 1888-1961

Cofnodion y gymdeithas

Papurau’n ymwneud â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 1956-1985. Bu Emrys Bennett Owen yn gadeirydd y gymdeithas. Ymhlith y papurau mae cofnodion cyfarfodydd a chyfansoddiad y gymdeithas. Ceir llythyrau oddi wrth Meredydd Evans, Kitty Idwal Jones ac Islwyn Ffowc Elis, ynghyd â ffotograffau o stondin y gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978 a thri ffotograff o gwrs preswyl a gynhaliwyd yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth yn 1978.

Corau ardal Llanuwchllyn

Ffotograffau o Gôr Plant Llanuwchllyn gyda Mrs Beryl Davies, Post, 1952-3; Côr Cymysg Llanuwchllyn, 1952; Eisteddfod y Llungwyn, Llanuwchllyn, 1953; parti deulais Llanuwchllyn, buddugol yn Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yn Y Bala, 1954, a hyfforddwyd gan Emrys a Hannah Bennett Owen; parti merched Aelwyd Llanuwchllyn, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caernarfon, 1956; Parti Aelwyd Llanuwchllyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Rhydaman, 1957, yr arweinydd oedd Emrys Bennett Owen; Côr Aelwyd Llanuwchllyn, 1958-9; a Pharti Merched Llanuwchllyn, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dolgellau, 1960.

Results 1 to 20 of 68