Showing 2 results

Archival description
Archif Y Lolfa, Evans, Gwynfor file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol 1988,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr amrywiol yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis yn trafod llyfr o ganeuon a'r posibilrwydd o recordio gyda Sain, Ieuan Rhys yn trafod Hwyl a Hafoc, Gwynfor Evans yn trafod llyfr ar genhedloedd bach megis Estonia a Latfia a Chymru, Royston James ar Clwb i'r Campau, Judith Maro yn trafod Y Carlwm a'r Anthology. Ceir hefyd drafodaeth ar lyfr Dafydd Parri, Doethion Aberdwli.

Gohebiaeth gyffredinol 1960au,

Llythyrau yn dyddio o'r blynyddoedd cyn i'r wasg gael ei sefydlu a'r blynyddoedd cynnar. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Ifor Puw, Gwynfor Evans, Islwyn Ffowc Elis, a Ruth Stephens. Trafodir yr angen am rywle i gyhoeddi gweithiau Cymraeg, y broses o gyhoeddi'r cylchgrawn LOL a'r llyfryn 'Hyfryd Iawn', Enwau Cymraeg i blant/ Welsh names for children a chyhoeddiadau Plaid Cymru. Hefyd ceir llythyrau yn trafod gwahanol brisiau ac offer cynhyrchu a chyhoeddi, a'r adeilad yn Nhal-y-bont, ynghyd รข nifer o bamffledi yn hysbysebu LOL a'r Lolfa, a deiseb yn galw am neuadd breswyl Gymraeg yn Aberystwyth.