Showing 2 results

Archival description
Archif Y Lolfa, Webb, Harri, 1920-
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol 1975-1979,

Ymhlith y gohebwyr mae Meg Ellis yn trafod cynnig Robat Gruffudd i wrthod siarad Saesneg a straeon ganddi, Eric Wyn Roberts, Judith Maro, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod a Marc Daniel, Bernard Knight yn trafod ei lyfr Lion Rampant, Meic Stephens ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod y cynllun newydd er cynorthwyo cyhoeddwyr i gyflogi staff gweinyddol neu olygyddol, John Jenkins o garchar Albany ynghylch cardiau celtaidd, Derrick K. Hearne ar y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru, datganoli, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith; Harri Webb ar gyfrifoldeb y llywodraeth i ariannu cyhoeddiadau Cymraeg; ac Emily Huws yn trafod ei nofelau diweddaraf. Hefyd ceir cerdd gan Alan Llwyd 'Awdl archebol i'r Lolfa'; llythyrau yn trafod Cymdeithas Emrys ap Iwan, y galw am bosteri a chardiau Cymraeg, disgo'r Llewod yn 1976, a chasglu deunydd i LOL ar ei newydd wedd. Yn y ffeil ceir hefyd bapurau yn ymwneud ag 'Ymgyrch Cymreigio Ysgol Penweddig yn cynnwys deiseb gan rieni a chopi o 'Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thechnoleg ein Colegau – y Ffordd Ymlaen', Adroddiad Gweithgor y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

Gohebiaeth gyffredinol 1983,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Eleri Llewelyn Morris yn trafod Pais, Teledu Twf a llyfr ffasiwn, John Morris ynghylch llun a brynwyd gan Robat Gruffudd a'r posibilrwydd o hysbysebu gwaith John Morris, Judith Maro, Catrin Stevens ynghylch Sgorio 1000, Dafydd Parri ynghylch Marc Daniel gan gynnwys sylwadau Dylan Williams o'r Cyngor Llyfrau. Ceir hefyd gerdyn post gan Harri Webb yn gwerthfawrogi LOL a chopïau o lythyrau at Angharad Tomos ynghylch cyfres Rala Rwdins.