Dangos 25 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Y Lolfa, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol 1960au,

Llythyrau yn dyddio o'r blynyddoedd cyn i'r wasg gael ei sefydlu a'r blynyddoedd cynnar. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Ifor Puw, Gwynfor Evans, Islwyn Ffowc Elis, a Ruth Stephens. Trafodir yr angen am rywle i gyhoeddi gweithiau Cymraeg, y broses o gyhoeddi'r cylchgrawn LOL a'r llyfryn 'Hyfryd Iawn', Enwau Cymraeg i blant/ Welsh names for children a chyhoeddiadau Plaid Cymru. Hefyd ceir llythyrau yn trafod gwahanol brisiau ac offer cynhyrchu a chyhoeddi, a'r adeilad yn Nhal-y-bont, ynghyd â nifer o bamffledi yn hysbysebu LOL a'r Lolfa, a deiseb yn galw am neuadd breswyl Gymraeg yn Aberystwyth.

Gohebiaeth gyffredinol 1986,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis a Judith Maro yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Angharad Thomas yn trafod Plaid Cymru, y posibilrwydd o symud i Lundain a phynciau eraill, a Ioan M. Richard yn ateb cyhuddiadau yn LOL yn ymwneud â Phlaid Cymru a Meibion Glyndŵr. Yn ogystal ceir llun-gopïau o'r llythyrau a anfonwyd allan yn galw am ddinistrio hysbysebion Police conspiracy, copi o'r 'Arolwg o'r Cylchgronau a noddir gan Gyngor y Celfyddydau' gan Rhodri Williams, a phapurau yn ymwneud â'r angen am wythnosolion, a llythyrau yn ymwneud ag Y Llosgi gan Robat Gruffudd.

Gohebiaeth gyffredinol 1987,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis yn trafod ei lyfr caneuon, Judith Maro, Bobby Freeman a Dafydd Parri yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Royston James yn trafod llyfr ar hiwmor rygbi, a Huw Vaughan Jones gan gynnwys copïau o'i waith: stribed gomic 'Mot Mellten'. Ceir hefyd lythyrau yn trafod y llyfr Trwy Ogof Arthur.

Gohebiaeth gyffredinol 1988,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr amrywiol yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis yn trafod llyfr o ganeuon a'r posibilrwydd o recordio gyda Sain, Ieuan Rhys yn trafod Hwyl a Hafoc, Gwynfor Evans yn trafod llyfr ar genhedloedd bach megis Estonia a Latfia a Chymru, Royston James ar Clwb i'r Campau, Judith Maro yn trafod Y Carlwm a'r Anthology. Ceir hefyd drafodaeth ar lyfr Dafydd Parri, Doethion Aberdwli.

Gohebiaeth gyffredinol 1989,

Llythyrau, ymhlith pynciau eraill, yn ymwneud â sefydlu cwmni 'Cyfathrebau Pow Wow', dirwy oddi wrth Llys yr ynadon yng Nghaerdydd, llyfr Rhiannon Ifans Chwedlau Arthur; Cwrt y Gŵr Drwg; a llyfr Colin Palfrey The Unofficial Guide to Wales.

Gohebiaeth gyffredinol 1990-1992,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Dafydd Parri yn trafod Cailo 5 a llythyrau yn trafod Gwobr Goffa Daniel Owen, 1990, Leopold Kohr, Angharad Tomos a Bobby Freeman ac ymateb Robat Gruffudd i Strategaeth Genedlaethol y Celfyddydau, 1991-1992. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys ail-gyhoeddi cyfrol Gwynfor Evans, Land of my Fathers, cyflwyno gwaith ar ddisg yn electronig, cytundeb gyda Cwmni Ffilmiau Elidir i wneud rhaglen deledu o Rala Rwdins a'i marchnata, a phenblwydd y Lolfa yn 25 mlwydd oed, 1992. Ceir copïau o lythyrau oddi wrth Robat Gruffudd yn ymwneud â chael cystadleuaeth i ddewis pwy fydd yn cyhoeddi cyfrol y Fedal Ryddiaith.

Gohebiaeth gyffredinol 1993,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Cynog Dafis ar y Mesur Iaith ac Angharad Tomos ynghylch animeiddio cyfres Rwdlan. Mae pynciau eraill a drafodir yn cynnwys problemau ariannol y Lolfa a'r angen i bobl dalu eu ffioedd yn fuan, colli cytundeb cylchgronau Urdd Gobaith Cymru, y posibilrwydd o ailddechrau calendr Cymru Fydd, a'r nofel Genod Neis.

Gohebiaeth gyffredinol 1994,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys John Rowlands ar ei nofel enllibus, ac Angharad Tomos yn trafod ei nofel, Titrwm. Mae pynicau eraill a drafodir yn cynnwys cyhoeddi cyfrolau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol a diffyg ymateb y BBC i achos llys saith person a niweidiodd sedd barnwr. Ceir hefyd ohebiaeth gyda Cantref ynghylch torri cysylltiadau dŵr a charffosiaeth pan gafodd gwaith adeiladu ei wneud.

Gohebiaeth gyffredinol 1995,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Arwel Vittle a'i ymateb i feirniadaethau negyddol o'i lyfr Post Mortem. Mae'r pynciau a drafodir yn y ffeil yn cynnwys defnydd o'r iaith Gymraeg a chwynion Robat Gruffudd ynglŷn â dyfarniadau y Cyngor Llyfrau ynglŷn â grantiau i lyfrau, y llyfr Sbectol Inc, a phroblemau gyda'r Emporium, Tal-y-bont o ran ail gysylltu pibau dŵr a charffosiaeth.

Gohebiaeth gyffredinol 1996,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Emrys Roberts ac Arwel Vittle. Ceir trafodaeth yn ogystal ar nofel gan Robat Gruffudd gyda Rhiannon Ifans yn ei olygu iddo.

Gohebiaeth gyffredinol 1997,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Richard Booth yn trafod ei hunan-fywgraffiad, ac Eileen Beasley. Ceir trafodaethau ar ben-blwydd y Lolfa yn 30 mlwydd oed, yn cynnwys llythyrau yn diolch am wahoddiadau i'r parti a thrafodaeth ar brynu Capel Tabernacl, Tal-y-bont (yn cynnwys allbrintiau o e-byst).

Gohebiaeth gyffredinol 1970-1974,

Ymhlith y gohebwyr mae Bernard Picton (Knight), Dafydd Iwan, John Jenkins o garchar Albany yn cynnig syniad am gardiau i garcharorion 'gwleidyddol', Judith Maro yn trafod ei nofelau, Gareth Miles yn trafod ei gyfraniad at LOL a gweithiau eraill, Islwyn Ffowc Elis, Derrick K. Hearne ar ei gyfrol The Rise of the Welsh Republic, a Watcyn Owen ar ran John Jenkins. Hefyd ceir llythyrau yn trafod ymgyrch Dwynwen, gwaith Cymdeithas yr Iaith, posteri ar gyfer Plaid Cymru, safiad Robat Gruffudd yn mynnu ffurflenni Cymraeg, ac adeilad y Lolfa.

Gohebiaeth gyffredinol 1998,

Llythyrau gan nifer o ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis, copïau o atebion Robat Gruffudd, a chopïau o lythyrau ganddo at Heini Gruffudd, ei frawd, ac at yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.

Gohebiaeth gyffredinol 1999,

Llythyrau, copïau o atebion Robat Gruffudd a phapurau ynghylch cynnig Ralph Maud am lyfr ar hanes gweledol Cymru, Llyfr y Ganrif a'r lawnsiad. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Tom Davies ynglŷn â'r Celtic Alliance, Siân Ifan yn trafod coffáu Owain Glyndwr, a Marian Delyth. Ceir hefyd gopi o lythyr Robat Gruffudd at, ac ateb oddi wrth, Dafydd Wigley yn trafod dewis ymgeisyddion ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2003, rhai papurau yn ymwneud â Richard Booth (yn Almaeneg), a nifer o lythyron oddi wrth Robat Gruffudd at ei dad a'i frawd.

Gohebiaeth gyffredinol 2000,

Llythyrau a chopïau o atebion oddi wrth Robat Gruffudd yn cynnwys llythyrau oddi wrth Marion Löffler yn trafod posibiliadau cyhoeddi, llythyrau yn trafod llyfr ar Owain Glyndwr i gyd-fynd â'r dathliadau coffáu, a phapurau yn ymwneud ag adroddiad Grant Thornton ar y Cyngor Llyfrau a'r grant cyhoeddi.

Gohebiaeth gyffredinol 1975-1979,

Ymhlith y gohebwyr mae Meg Ellis yn trafod cynnig Robat Gruffudd i wrthod siarad Saesneg a straeon ganddi, Eric Wyn Roberts, Judith Maro, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod a Marc Daniel, Bernard Knight yn trafod ei lyfr Lion Rampant, Meic Stephens ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod y cynllun newydd er cynorthwyo cyhoeddwyr i gyflogi staff gweinyddol neu olygyddol, John Jenkins o garchar Albany ynghylch cardiau celtaidd, Derrick K. Hearne ar y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru, datganoli, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith; Harri Webb ar gyfrifoldeb y llywodraeth i ariannu cyhoeddiadau Cymraeg; ac Emily Huws yn trafod ei nofelau diweddaraf. Hefyd ceir cerdd gan Alan Llwyd 'Awdl archebol i'r Lolfa'; llythyrau yn trafod Cymdeithas Emrys ap Iwan, y galw am bosteri a chardiau Cymraeg, disgo'r Llewod yn 1976, a chasglu deunydd i LOL ar ei newydd wedd. Yn y ffeil ceir hefyd bapurau yn ymwneud ag 'Ymgyrch Cymreigio Ysgol Penweddig yn cynnwys deiseb gan rieni a chopi o 'Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thechnoleg ein Colegau – y Ffordd Ymlaen', Adroddiad Gweithgor y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

Gohebiaeth gyffredinol 1980,

Ymhlith y gohebwyr mae Dyfed Thomas, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod, Derrick K. Hearne, Eleri Llewelyn Morris yn trafod Pais a bod Robat Gruffudd yn tynnu lluniau ar gyfer y cylchgrawn, a Catrin Stevens. Trafodir hefyd Y Camau Cyntaf: Dwylo ar y Piano a threfniadau Te Parti'r Taeogion, sef noson LOL yn Abertawe yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1980. Ceir hefyd restr, 1982, a luniwyd gan staff Archifdy Dyfed (Ceredigion), o gofnodion yr heddlu yn Nhalybont a roddwyd i'r archifdy gan Robat Gruffudd.

Gohebiaeth gyffredinol 1981,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Dyfed Thomas, Dafydd Parri, a Nia Rhosier, ac Ifan Wyn Williams sy'n trafod erthyglau yn LOL. Ceir trafodaethau ynghylch cyhoeddiadau posibl a digwyddiadau LOL.

Gohebiaeth gyffredinol 1982,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Dafydd Parri yn trafod ei lyfrau a materion eraill. Yn ogystal trafodir llyfrau Cadwgan a llyfrau hyfforddi mewn chwaraeon.

Parri, Dafydd.

Gohebiaeth gyffredinol 1983,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Eleri Llewelyn Morris yn trafod Pais, Teledu Twf a llyfr ffasiwn, John Morris ynghylch llun a brynwyd gan Robat Gruffudd a'r posibilrwydd o hysbysebu gwaith John Morris, Judith Maro, Catrin Stevens ynghylch Sgorio 1000, Dafydd Parri ynghylch Marc Daniel gan gynnwys sylwadau Dylan Williams o'r Cyngor Llyfrau. Ceir hefyd gerdyn post gan Harri Webb yn gwerthfawrogi LOL a chopïau o lythyrau at Angharad Tomos ynghylch cyfres Rala Rwdins.

Canlyniadau 1 i 20 o 25