Copi wedi'i gyflwyno i Syr Ifan ab Owen Edwards gan yr awdur 'Carneddog' (Richard Griffith) o'i gyfrol Blodau'r Gynghanedd: Gemau'r Awen Gymreig - Llyfr 1, (Caernarfon, 1920).
Showing 39 results
Archival description- 26.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr dyddiedig 20 Rhag. 1926 o 21 New Road, Rhydaman, yng nghyfrol Nantlais (William Nantlais Williams), Murmuron Newydd [Rhydaman, 1926]. Y mae'n gofyn i'r derbynnydd roi sylw i'r gyfrol yn Cymru neu Cymru'r Plant. Cydnabod fod un gerdd wedi ymddangos yn Cymru. Cyfarchion tymhorol.
- 31.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Nodyn oddi wrth D. Rhys Phillips, 1910, mewn copi o'i Adroddiad Cymdeithas Lyfryddol Cymru, 1909 (Rhydychen) yn atgoffa O. M. Edwards fod ei danysgrifiad i'r Welsh Biographical Society am 1909 yn hwyr.
'Gyda dymuniadau gorau Cymdeithas Plant Derfel. Hyd. 1897' wedi'i ysgrifennu ar gopi o Dewi Havhesp, Oriau'r Awen, (Y Bala, 1897). Yr oedd Cymdeithas Plant Derfel yn noddi'r llyfr.
Cerdyn dyddiedig, [20 Rhag. 1913], oddi wrth Francis Edwards, awdur Translations from the Welsh ([Llundain], 1913), yn nodi dau gamgymeriad argraffu yn y llyfr. Cyfarchion tymhorol.
Nodyn dyddiedig 23 Gorff. [19]29 o Goleg yr Iesu, Rhydychen. 'Sut hwyl sydd ar y Bibliography?' oddi wrth J. Goronwy Edwards yn ei lyfryn Hywel Dda and the Welsh Lawbooks (Bangor, 1929) a draddodwyd yn wreiddiol fel darlith ym Mhrifysgol Bangor, 1928.
- 17.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr dyddiedig 20 Mawrth 1908 o Llywel, Aberystwyth, oddi wrth y cyfansoddwr David Jenkins Mus. Bac. (Cantab.) mewn copi o'i waith Llyn y Morwynion (The Maiden's Lake - Dramatic Cantata (Aberystwyth, [1908]). Y cyfansoddwr yn anfon copi o'i waith newydd sydd i'w berfformio yn Eisteddfod Llangollen [Y Genedlaethol, 1908]. Testun wedi ei seilio ar eiriau gan 'Glasynys' a [J. T.] Job. Cred y cyfansoddwr mai hwn yw ei waith mwyaf Cymreig eto a byddai'n fraint ganddo weld y derbynnydd yn y perfformiad cyntaf.
- 18.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
I 'Mr O. M. Edwards with kind regards' mewn copi o J. A. Jenkins, The History of Early Nonconformists of Cardiff (Cardiff, 1891).
- 20.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Copi o Safonau y Ffydd (Llandysul, 1938) wedi'i gyflwyno i Syr Ifan ab Owen Edwards gan yr awdur William John Jones.
- 21.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Copi o E. A. Lewis, 'The Development of Industry and Commerce in Wales during the Middle Ages', Transactions of the Royal Historical Society (gwahanlith) wedi'i gyflwyno gan yr awdur. 'Read April 23rd 1903'.
- 22.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Detholiad o adolygiad O. M. Edwards o Caniadau Moelwyn (Cyfres 1) ar ddiwedd cyfrol John Gruffydd Hughes ('Moelwyn'), Caniadau, (Llanuwchllyn, 1893).
- 24.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr dyddiedig 7 Tach. [19]11 o Caer Hirfryn, Edward St., Alltwen, Pontardawe oddi wrth yr awdur J. E. Morgan (Hirfryn) mewn copi o'i gyfrol Hanes Hen Frodorion Gellinudd (Abertawe, d.d.). Yn y llythyr mae'n holi am wybodaeth ieithegol ynglyn â'r ddau air 'Tragwyddoldeb' a 'Gwybodaeth'.
- 36.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Nodyn gan yr awdur T. Mardy Rees, 1906, mewn copi o'i lyfr Breezes from the Welsh Hills (Carnarvon, 1906) yn diolch am gael hysbysebu yn Cymru.
- 37.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Copi o Edward Thomas (gol.), The Poems of John Dyer (London, 1903), a gyhoeddwyd yn y gyfres The Welsh Library ac a olygwyd gan O. M. Edwards.
- 38.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Copi a gyflwynwyd i O. M. Edwards gan yr awdur John E. Thomas o'i gyfrol A geographical and Geological Description of Carnarvonshire (London, d.d.).
Nodyn 'I Bennaeth Yr Urdd i gofio am ei dad, cyfaill hoff Myrddin a chymwynaswr yr Awdur. Mawrth 1945' mewn copi o 'Cybi' (Robert Evans), John Jones (Myrddin Fardd) 1837-1921 (Llandysul, 1945).
Llythyr dyddiedig 8 Medi 1905 oddi wrth J. D. Davies (Harlech) mewn copi o'i waith Emynwyr Gwynedd - Traethawd Buddugol yn Eisteddfod Y Bala, Llungwyn 1904 (Bala, 1905). Bydd yr awdur yn ddiolchgar pe ceid adolygiad ar y llyfryn yn Cymru neu Cymru'r Plant neu'r ddau.
- 10.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Nodyn 'Mr Ifan ab Owen Edwards: with the author's best wishes. 27. 9. 20' yn llyfr Hugh John Evans, Llangollen Poems (Llangollen, 1920).
- 14.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr dyddiedig 27 Gorff. [19]17 oddi wrth y Parch. Edward Griffith (Meifod) wedi'i ludo mewn copi o'i gyfrol Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf (Caernarfon, 1914). Y mae'n llawen o glywed am adferiad iechyd y derbynnydd. Y gohebydd, sydd ar drothwy 80 oed, yn dioddef â'i galon. Ymddiheuro am beidio cyfrannu erthygl ar John Hughes Pontrobert i Cymru.