Llythyr dyddiedig 5 Tach. [19]09 o Capel Seion, Glais, oddi wrth T. E. Nicholas mewn cyfrol o'i Salmau'r Werin (Ystalyfera, 1909). Y mae'n gofyn am sylw i'r gyfrol yn Cymru a nodi bod llawer ohonynt eisoes wedi ymddangos yn y cylchgrawn hwnnw. Yr awdur yn ceisio 'dysgu Llafur i siarad Cymraeg' yn Y Glais trwy adrodd rhai o'r cerddi iddynt.
Dangos 39 canlyniad
Disgrifiad archifolLlythyr dyddiedig 7 Tach. [19]11 o Caer Hirfryn, Edward St., Alltwen, Pontardawe oddi wrth yr awdur J. E. Morgan (Hirfryn) mewn copi o'i gyfrol Hanes Hen Frodorion Gellinudd (Abertawe, d.d.). Yn y llythyr mae'n holi am wybodaeth ieithegol ynglyn â'r ddau air 'Tragwyddoldeb' a 'Gwybodaeth'.
Llythyr dyddiedig 8 Chwef. [1909] o 51 Hamilton Street, Cardiff, yn 'Eluned', (Eluned Morgan), Gwymon y Môr (Y Fenni, 1909). Dywed fod y llyfr wedi ei gyhoeddi ar waethaf llawer o ddarlithio a diffyg hamdden. Hydera fynd i Lundain yn ystod pythefnos olaf Mawrth. Addawodd annerch plant Bethesda yn eisteddfod fawr Rhys J. Huws. Diolch am ailargraffiad O'r Bala i Geneva, awgrymu yr un peth gyda Tro yn Llydaw.
Llythyr dyddiedig 8 Medi 1905 oddi wrth J. D. Davies (Harlech) mewn copi o'i waith Emynwyr Gwynedd - Traethawd Buddugol yn Eisteddfod Y Bala, Llungwyn 1904 (Bala, 1905). Bydd yr awdur yn ddiolchgar pe ceid adolygiad ar y llyfryn yn Cymru neu Cymru'r Plant neu'r ddau.
Llythyr oddi wrth D. Rhys Phillips at O. M. Edwards, dyddiedig 22 Hyd. 1908, o 78 Rhondda St, Abertawe. Gwahoddiad i ymuno â Chymdeithas Lyfryddol Cymru.
Llythyr yn Saesneg, dyddiedig 5 Tach. [19]10, oddi wrth J. Kyrle Fletcher mewn copi o'i lyfr The Gwentian Poems of Dafydd Benwyn (Cardiff, 1909). Y mae'n cyflwyno'r llyfr. Mae ymgais ar droed yng Nghasnewydd i gael dysgu Cymraeg yn yr ysgolion elfennol fel pwnc dewisol. Y gohebydd wedi dysgu darllen Cymraeg mewn dosbarthiadau ac yn gofyn cyngor ar sut i gyflwyno'i achos gerbron yr awdurdod addysg. Mynegodd holl gynghorwyr yr awdurdod eu cefnogaeth i'r Gymraeg yn ystod yr etholiadau diweddar.
Nodyn dyddiedig 23 Gorff. [19]29 o Goleg yr Iesu, Rhydychen. 'Sut hwyl sydd ar y Bibliography?' oddi wrth J. Goronwy Edwards yn ei lyfryn Hywel Dda and the Welsh Lawbooks (Bangor, 1929) a draddodwyd yn wreiddiol fel darlith ym Mhrifysgol Bangor, 1928.
Nodyn dyddiedig 5 Rhag. [19]16. Esboniad paham fod y gwaith yn ymddangos ar ganol cyfnod o ryfel mewn copi o D. Rhys Phillips, A Forgotten Welsh Historian - (William Davies, Cringell, Neath, 1756-1823) ... (Swansea, 1916) a gyflwynwyd i O. M. Edwards gan yr awdur.
Nodyn gan 'Morien y Gwyddon' (Owen Morgan) yn cyflwyno'i lyfr Guide to the Gorsedd or Round Table and the Order of the Garter (Cardiff, d.d., ?1899) i Syr O. M. Edwards.
Nodyn gan yr awdur T. Mardy Rees, 1906, mewn copi o'i lyfr Breezes from the Welsh Hills (Carnarvon, 1906) yn diolch am gael hysbysebu yn Cymru.
Nodyn 'I Bennaeth Yr Urdd i gofio am ei dad, cyfaill hoff Myrddin a chymwynaswr yr Awdur. Mawrth 1945' mewn copi o 'Cybi' (Robert Evans), John Jones (Myrddin Fardd) 1837-1921 (Llandysul, 1945).
Nodyn 'Mr Ifan ab Owen Edwards: with the author's best wishes. 27. 9. 20' yn llyfr Hugh John Evans, Llangollen Poems (Llangollen, 1920).
Nodyn oddi wrth D. Rhys Phillips, 1910, mewn copi o'i Adroddiad Cymdeithas Lyfryddol Cymru, 1909 (Rhydychen) yn atgoffa O. M. Edwards fod ei danysgrifiad i'r Welsh Biographical Society am 1909 yn hwyr.
- « Blaenorol
- 1
- 2