Showing 38 results

Archival description
Papurau Angharad Tomos
Print preview View:

Gwaith anorffenedig - ysgoloriaeth 1989-1990

Mae'r gyfres yn cynnwys dau ddarn o waith anorffenedig, ynghyd â pheth gohebiaeth a rhai nodiadau perthynol, a luniodd Angharad Tomos ar ôl ennill Ysgoloriaeth Awdur, Cyngor Celfyddydau Cymru, i'w galluogi i gymryd chwe mis i ysgrifennu yn ystod 1989-1990.

Titrwm - llawysgrifau

Mae'r ffeil yn cynnwys dau lyfr nodiadau sy'n cynnwys drafftiau llawysgrif cynnar o Titrwm (1994), ynghyd â nodiadau a phytiau o ddyddiadur, 1992-1993.

Wele'n gwawrio

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a nodiadau, 1996-1997, yn ymwneud ag ysgrifennu Wele'n gwawrio (1997), a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997, i Angharad Tomos.

'Cyffes' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys amlen ac ynddi sgript deipysgrif a rhai nodiadau llawysgrif ar gyfer darn byr o ddeialog ar gyfer dwy ferch, yn dwyn y teitl 'Cyffes', a gomisiynwyd ym 1993 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994.

'Si Hei Lwli'

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif nofel anorffenedig yn dwyn y teitl 'Si Hei Lwli' a ysgrifennwyd yn ystod diwedd 1989 a dyddiau cynnar 1990. Er bod y gwaith hwn yn dwyn yr un teitl â gwaith diweddarach gan Angharad Tomos nid oes unrhyw berthynas rhwng y cynnwys.

'Fel paent yn sychu' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif sgript 'Fel paent yn sychu', drama lwyfan gyntaf Angharad Tomos, a ysgrifennwyd ganddi ar y cyd â Chwmni Theatr Crwban, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 1988.

'Diffinia' - sgript a phecyn addysg

Mae'r ffeil yn cynnwys copi o'r sgript a'r pecyn addysg a baratowyd i gyd-fynd â'r cynhyrchiad o 'Diffinia', sioe am Wlad y Basg, ynghyd â pheth gohebiaeth berthynol, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Cwmni'r Frân Wen.

'Tanddaearol' - sgript a deunydd perthynol

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o sgript 'Tanddaearol' sy'n cynnwys newidiadau sylweddol yn llaw'r awdur, ynghyd â nodiadau, syniadau am y set, copïau o adolygiadau a deunydd hysbysebu, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Cwmni Hwyl a Fflag.

'Dawns atgo' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif 'Dawns atgo', cyfieithiad Cymraeg Angharad Tomos o Brian Friel, Dancing at Lughnasa (Llundain, 1990); ynghyd â rhai nodiadau a dau gopi o'r rhaglen ar gyfer perfformiad Saesneg o'r ddrama yn yr Abbey Theatre, Dulyn, ym mis Ionawr 1991.

Areithiau ac erthyglau gan Angharad Tomos

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys torion o erthyglau Angharad Tomos i Y Faner, copïau teipysgrif a rhai torion o'i cholofn olygyddol a'i cholofn fel Cadeirydd yn Nhafod y Ddraig, ynghyd â nodiadau ar gyfer rhai o'i hareithiau ac ambell erthygl amdani hi, 1979-1983.

Untitled

Llyfr nodiadau

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys nodiadau gwersi a baratowyd ganddi ar gyfer ysgolion cynraddd Bro Dysynni, gwanwyn 1993.

Untitled

Results 1 to 20 of 38