- C1/1
- file
- 1986
Part of Papurau Angharad Tomos
Part of Papurau Angharad Tomos
Gwaith anorffenedig - ysgoloriaeth 1989-1990
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r gyfres yn cynnwys dau ddarn o waith anorffenedig, ynghyd â pheth gohebiaeth a rhai nodiadau perthynol, a luniodd Angharad Tomos ar ôl ennill Ysgoloriaeth Awdur, Cyngor Celfyddydau Cymru, i'w galluogi i gymryd chwe mis i ysgrifennu yn ystod 1989-1990.
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys dau lyfr nodiadau sy'n cynnwys drafftiau llawysgrif cynnar o Titrwm (1994), ynghyd â nodiadau a phytiau o ddyddiadur, 1992-1993.
Sothach a Sglyfath - fersiwn cynnar
Part of Papurau Angharad Tomos
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a nodiadau, 1996-1997, yn ymwneud ag ysgrifennu Wele'n gwawrio (1997), a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997, i Angharad Tomos.
Sgriptiau llwyfan ar gyfer oedolion a phlant
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys wyth o wahanol sgriptiau ar gyfer plant ac oedolion, yn waith gwreiddiol ac yn gyfieithiadau, 1988-1994.
Untitled
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys amlen ac ynddi sgript deipysgrif a rhai nodiadau llawysgrif ar gyfer darn byr o ddeialog ar gyfer dwy ferch, yn dwyn y teitl 'Cyffes', a gomisiynwyd ym 1993 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994.
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif nofel anorffenedig yn dwyn y teitl 'Si Hei Lwli' a ysgrifennwyd yn ystod diwedd 1989 a dyddiau cynnar 1990. Er bod y gwaith hwn yn dwyn yr un teitl â gwaith diweddarach gan Angharad Tomos nid oes unrhyw berthynas rhwng y cynnwys.
Part of Papurau Angharad Tomos
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o'r nofel ac o waith celf sy'n gysylltiedig â hi, 1990-1993.
Untitled
Sothach a Sglyfath - gwaith celf a nodiadau
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth am y cyfnod a dreuliodd ym Mharc Glynllifon ac enghreifftiau o waith celf Angharad Tomos a Marc Vyvyan-Jones gogyfer â Sothach a Sglyfath (1993), 1990-1993.
Part of Papurau Angharad Tomos
'Fel paent yn sychu' - teipysgrif
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif sgript 'Fel paent yn sychu', drama lwyfan gyntaf Angharad Tomos, a ysgrifennwyd ganddi ar y cyd â Chwmni Theatr Crwban, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 1988.
'Diffinia' - sgript a phecyn addysg
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys copi o'r sgript a'r pecyn addysg a baratowyd i gyd-fynd â'r cynhyrchiad o 'Diffinia', sioe am Wlad y Basg, ynghyd â pheth gohebiaeth berthynol, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Cwmni'r Frân Wen.
'Tanddaearol' - sgript a deunydd perthynol
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o sgript 'Tanddaearol' sy'n cynnwys newidiadau sylweddol yn llaw'r awdur, ynghyd â nodiadau, syniadau am y set, copïau o adolygiadau a deunydd hysbysebu, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Cwmni Hwyl a Fflag.
'Cerdyn Post o Wlad y Rwla' - sgript derfynol
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif derfynol o sgript y sioe 'Cerdyn post o Wlad y Rwla', 1994.
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif 'Dawns atgo', cyfieithiad Cymraeg Angharad Tomos o Brian Friel, Dancing at Lughnasa (Llundain, 1990); ynghyd â rhai nodiadau a dau gopi o'r rhaglen ar gyfer perfformiad Saesneg o'r ddrama yn yr Abbey Theatre, Dulyn, ym mis Ionawr 1991.
Areithiau ac erthyglau gan Angharad Tomos
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys torion o erthyglau Angharad Tomos i Y Faner, copïau teipysgrif a rhai torion o'i cholofn olygyddol a'i cholofn fel Cadeirydd yn Nhafod y Ddraig, ynghyd â nodiadau ar gyfer rhai o'i hareithiau ac ambell erthygl amdani hi, 1979-1983.
Untitled
Part of Papurau Angharad Tomos
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys nodiadau gwersi a baratowyd ganddi ar gyfer ysgolion cynraddd Bro Dysynni, gwanwyn 1993.
Untitled
Mae'r fonds yn cynnwys nodiadau a drafftiau llawysgrif a theipysgrif o rai o gyfrolau a sgriptiau Angharad Tomos, 1986-1997, gan gynnwys dau ddarn sylweddol o waith anghyflawn ac anghyhoeddedig. Ceir un ffolder o'i herthyglau ar gyfer Y Faner a Tafod y Ddraig, 1979-1983, ac un ffolder yn cynnwys ei darlithoedd a'i hareithiau cyhoeddus, 1996-1998. Mae'r llawysgrifau, ar brydiau, yn cynnwys nodiadau ar y broses o greu a sylwadau rhai aelodau o'i theulu ar ei gwaith, ynghyd ag ychydig o ohebiaeth berthynol. Nid yw'r archif yn gyflawn. Gwerthwyd llawysgrifau llawer o'i llyfrau cynharaf yn arwerthiannau blynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy'n golygu eu bod bellach mewn dwylo preifat. Ffeiliau unigol o gyfnodau penodol sydd yma o'i herthyglau i'r wasg, a'i hareithiau a'i darlithoedd, ac un llyfr nodiadau ar gyfer cyfnod yn awdur preswyl mewn ysgolion cynradd ym Mro Dysynni. Nid yw'r archif yn cynnwys unrhyw ohebiaeth bersonol. Gall yr archif hon fod o ddiddordeb neilltuol i ysgolheigion sy'n astudio gwaith Angharad Tomos a'r mudiad iaith yng Nghymru yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.
Tri chopi draft o'r nofel 'Rhagom' gan Angharad Tomos, 2004-05. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.
Papurau ychwanegol y rhoddwr, yn cynnwys gwaith ymchwil ar gyfer ei nofelau 'Wrth fy Nagrau i' (Hydref 2007) a 'Rhagom'; papurau yn ymwneud â rhaglen radio i blant, a thair drama, hefyd i blant, gan gynnwys Pasiant y Plant, 2005; a phapurau a deunyddiau yn ymwneud â Rwdlan, gan gynnwys copïau o gyfieithiadau o'r gwaith i Aeleg yr Alban a Gwyddeleg. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.
Pecyn o bapurau ychwanegol yn ymwneud gan mwyaf â gweithiau Angharad Tomos, 'Rhagom', 2002, ac 'Wrth fy Nagrau', 2006. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.
Papurau ychwanegol Angharad Tomos, gan gynnwys nodiadau ar gyfer Pan Rodiwn Rhyw Fore Ddydd - ar gyfer cystadleuaeth Daniel Owen, 2008 (nofel nas cyhoeddwyd), ac erthyglau'r rhoddwr o'r Herald, 1993-1999 a 2002-2007. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.
Papurau ychwanegol o waith, a phapurau wedi eu casglu ynghyd gan Angharad Tomos, gan gynnwys dyddiaduron; gohebiaeth; torion o'r wasg; gweithiau cynnar, 1972-1990 (a gyhoeddwyd mewn cylchgronau) ;storiau i'r BBC; papurau yn ymwneud â Rala Rwdins; a gweithiau gwreiddiol. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto.
Papurau ychwanegol a roddwyd Mai 2022: gweler y disgrifiad o dan y Gyfres a ychwanegwyd.
Tomos, Angharad, 1958-