Showing 38 results

Archival description
Papurau Angharad Tomos Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Wele'n gwawrio

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a nodiadau, 1996-1997, yn ymwneud ag ysgrifennu Wele'n gwawrio (1997), a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997, i Angharad Tomos.

Titrwm - nodiadau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau yn llaw Angharad Tomos a'i thad, Ariel Thomas, ynghyd â gohebiaeth gyda Gwasg y Lolfa ynglŷn â chyhoeddi'r gwaith ym 1994.

Titrwm - llawysgrifau

Mae'r ffeil yn cynnwys dau lyfr nodiadau sy'n cynnwys drafftiau llawysgrif cynnar o Titrwm (1994), ynghyd â nodiadau a phytiau o ddyddiadur, 1992-1993.

Titrwm

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau, nodiadau a pheth gohebiaeth berthynol, 1992-1994, yn ymwneud ag ysgrifennu a chyhoeddi Titrwm (1994), a gyflwynwyd i gystadleuaeth Medal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, 1993.

'Tanddaearol' - sgript a deunydd perthynol

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o sgript 'Tanddaearol' sy'n cynnwys newidiadau sylweddol yn llaw'r awdur, ynghyd â nodiadau, syniadau am y set, copïau o adolygiadau a deunydd hysbysebu, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Cwmni Hwyl a Fflag.

'Si Hei Lwli'

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif nofel anorffenedig yn dwyn y teitl 'Si Hei Lwli' a ysgrifennwyd yn ystod diwedd 1989 a dyddiau cynnar 1990. Er bod y gwaith hwn yn dwyn yr un teitl â gwaith diweddarach gan Angharad Tomos nid oes unrhyw berthynas rhwng y cynnwys.

Si hei lwli

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif gyntaf y nofel a theipysgrif yn cynnwys newidiadau yn llaw yr awdur, ynghyd â pheth gohebiaeth a rhai nodiadau perthynol yn ymwneud ag ysgrifennu a chyhoeddi'r gwaith a enillodd Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn, 1991, i Angharad Tomos.

Papurau Angharad Tomos

  • GB 0210 ATOMOS
  • Fonds
  • 1979-1998

Mae'r fonds yn cynnwys nodiadau a drafftiau llawysgrif a theipysgrif o rai o gyfrolau a sgriptiau Angharad Tomos, 1986-1997, gan gynnwys dau ddarn sylweddol o waith anghyflawn ac anghyhoeddedig. Ceir un ffolder o'i herthyglau ar gyfer Y Faner a Tafod y Ddraig, 1979-1983, ac un ffolder yn cynnwys ei darlithoedd a'i hareithiau cyhoeddus, 1996-1998. Mae'r llawysgrifau, ar brydiau, yn cynnwys nodiadau ar y broses o greu a sylwadau rhai aelodau o'i theulu ar ei gwaith, ynghyd ag ychydig o ohebiaeth berthynol. Nid yw'r archif yn gyflawn. Gwerthwyd llawysgrifau llawer o'i llyfrau cynharaf yn arwerthiannau blynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy'n golygu eu bod bellach mewn dwylo preifat. Ffeiliau unigol o gyfnodau penodol sydd yma o'i herthyglau i'r wasg, a'i hareithiau a'i darlithoedd, ac un llyfr nodiadau ar gyfer cyfnod yn awdur preswyl mewn ysgolion cynradd ym Mro Dysynni. Nid yw'r archif yn cynnwys unrhyw ohebiaeth bersonol. Gall yr archif hon fod o ddiddordeb neilltuol i ysgolheigion sy'n astudio gwaith Angharad Tomos a'r mudiad iaith yng Nghymru yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.

Tri chopi draft o'r nofel 'Rhagom' gan Angharad Tomos, 2004-05. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol y rhoddwr, yn cynnwys gwaith ymchwil ar gyfer ei nofelau 'Wrth fy Nagrau i' (Hydref 2007) a 'Rhagom'; papurau yn ymwneud â rhaglen radio i blant, a thair drama, hefyd i blant, gan gynnwys Pasiant y Plant, 2005; a phapurau a deunyddiau yn ymwneud â Rwdlan, gan gynnwys copïau o gyfieithiadau o'r gwaith i Aeleg yr Alban a Gwyddeleg. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.

Pecyn o bapurau ychwanegol yn ymwneud gan mwyaf â gweithiau Angharad Tomos, 'Rhagom', 2002, ac 'Wrth fy Nagrau', 2006. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol Angharad Tomos, gan gynnwys nodiadau ar gyfer Pan Rodiwn Rhyw Fore Ddydd - ar gyfer cystadleuaeth Daniel Owen, 2008 (nofel nas cyhoeddwyd), ac erthyglau'r rhoddwr o'r Herald, 1993-1999 a 2002-2007. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol o waith, a phapurau wedi eu casglu ynghyd gan Angharad Tomos, gan gynnwys dyddiaduron; gohebiaeth; torion o'r wasg; gweithiau cynnar, 1972-1990 (a gyhoeddwyd mewn cylchgronau) ;storiau i'r BBC; papurau yn ymwneud â Rala Rwdins; a gweithiau gwreiddiol. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol a roddwyd Mai 2022: gweler y disgrifiad o dan y Gyfres a ychwanegwyd.

Tomos, Angharad, 1958-

Results 1 to 20 of 38