Dangos 43 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Eunice Bryn Williams,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau amryw, 1930au-80au, yn ymwneud ag eisteddfodau, gan gynnwys tystysgrif enillydd, Eisteddfod y Golomen Wen, [Penbedw], 1936; ffotograffau a dynnwyd ...,

Papurau amryw, 1930au-80au, yn ymwneud ag eisteddfodau, gan gynnwys tystysgrif enillydd, Eisteddfod y Golomen Wen, [Penbedw], 1936; ffotograffau a dynnwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Machynlleth, 1937; rhaglenni Eisteddfodau Cadeiriol Ystrad Fflur a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, 1970; lluniau o Eisteddfod Llangollen, [?1980au]; a phapurau yn ymwneud â Gorsedd y Beirdd, 1987.

Papurau Eunice Bryn Williams,

  • GB 0210 EUNAMS
  • fonds
  • 1838-[1991] /

Papurau, 1838-[1991], yn bennaf papurau personol a theuluol Eunice Bryn Williams, 1838-[1991], yn cynnwys darnau cerddoriaeth yn llaw Eunice Bryn Williams, 1954-[1980au]; nodiadau darlithoedd ar gerddoriaeth, [1940au-1980au]; papurau'n ymwneud â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru, [1950au-1980au], ac eisteddfodau, yn arbennig Eisteddfod yr Urdd, [1930au-1980au]; rhaglenni cyngherddau o gerddoriaeth Cymreig, 1939-1961; a gohebiaeth deuluol,1888-1961. = Papers, 1838-[1991], mainly personal and family papers of Eunice Bryn Williams, 1838-[1991], including music pieces in the handwriting of Eunice Bryn Williams, 1954-[1980s]; lecture notes on music, [1940s-1980s]; papers relating to Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru and Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, [1950s-1980s], and to eisteddfodau, especially Eisteddfod yr Urdd, [1930s-1980s]; concert programmes of Welsh music, 1939-1961; and family correspondence, 1888-1961.

Williams, Eunice Bryn, 1919-1991.

Papurau ychwanegol (2009),

Darnau cerddoriaeth yn llaw Eunice Bryn Williams, 1954-[1980au], mewn hen nodiant a sol-ffa; yn eu plith mae gosodiadau cerdd dant, 1940-[1969], gan ei thad, Hugh Thomas Davies. Yn ogystal, mae nodiadau yn llaw EBW, [1970au-1980au], rhai ohonynt ar gyfer cyflwyniadau; papurau HTD, 1908-1964, yn cynnwys llyfrau tonau, 1908-1955, a llythyr, 1964, gan 'Idwal' (Idwal Jones); Caniadau Seion (Llanidloes, 1840), yn perthyn i W. G. Williams, Llansantffraid [Glan Conwy]; llyfr tonau Edwin Williams, Tŷ Du, Llansantffraid [Glan Conwy], 1855; a dwy gyfrol o nodiadau gan Sydney J. Davies, 1907 a 1912, ar hanes 'Cychwyniad Methodistiaeth yn Llansantffraid Glan Conwy'.

Papurau, 1950au-80au, yn ymwneud â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gan gynnwys rhaglenni cyfarfodydd, adroddiadau, manylion cystadlaethau, a nodiadau gan Eunice ...,

Papurau, 1950au-80au, yn ymwneud â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gan gynnwys rhaglenni cyfarfodydd, adroddiadau, manylion cystadlaethau, a nodiadau gan Eunice Bryn Williams ar hanes y Gymdeithas, ynghyd â theyrnged ganddi i'r Parchedig Emrys Cleaver (m. 1985).

Canlyniadau 21 i 40 o 43