- 1/2
- File
- 1884-1982
Mae'r ffeil, 1884-1982, yn cynnwys enw'r plentyn, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd, ynghyd â llythyr, 1899, yn rhoi amcangyfrif o bris codi cofadail ym mynwent Capel Philadelphia.
Mae'r ffeil, 1884-1982, yn cynnwys enw'r plentyn, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd, ynghyd â llythyr, 1899, yn rhoi amcangyfrif o bris codi cofadail ym mynwent Capel Philadelphia.
'Llyfr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau'
Mae'r ffeil, 1951-1990, yn cynnwys dyddiad geni a bedyddio'r plentyn, ei enw, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd. Mae adran y marwolaethau yn wag.
Mae'r ffeil, 1875-[1890], yn cynnwys bonion llythyrau aelodau a drosglwyddodd eu haelodaeth o Philadelphia i gapeli eraill.
Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth am weinidogaeth yr eglwys, yr aelodaeth, y plant, a derbyniadau a thaliadau, 1969-2002.
Mae'r ffeil yn cynnwys ffurflen adroddiad eiddo, 1988, arolwg, 1996, Alwyn Jones, Pensaer, Caerdydd, ac arolwg Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 1999, yn ymwneud â chyflwr yr adeilad a iechyd a diogelwch, ynghyd â nodiadau cyffredinol, 2000, am gapeli'n cau ac yn uno.
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau, 1916-1930.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1917-1932, gan gynnwys y gronfa adeiladu a chronfa'r Weinidogaeth.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1957-1982, gan gynnwys y weinidogaeth, yr Ysgol Sul a chronfa atgyweirio'r eglwys, 1976.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1975-1987, gan gynnwys y weinidogaeth.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1983-1995, gan gynnwys y weinidogaeth, yr Ysgol Sul a'r Cwrdd Chwiorydd.
Mae'r ffeil, [1881]-[1886], yn cofnodi presenoldeb disgyblion ac athrawon yr Ysgol Sul.
Mae'r ffeil, [?1890]-[?1900], yn rhestru enw'r athro ac aelodau'r dosbarth.
Mae'r ffeil, 1904-1908, yn rhestru aelodau'r dosbarth ac yng nghefn y gyfrol ceir ystadegau megis nifer adnodau, penillion a chasgliadau, 1907-1908.
Cofrestr aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau a chyfeiriadau'r oedolion oedd yn cefnogi dirwest, 1899-1914.
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1995-1999, oddi wrth Alwyn Jones, pensaer ac ymgynghorwr ar adeiladau hanesyddol, yn ymwneud â chostau, ac amcangyfrifon am y gwaith atgywerio; llythyr, 1999, oddi wrth Heddlu De Cymru ynglŷn â fandaliaeth ar adeiladau'r eglwys; a llythyr, 2003, oddi wrth ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, ynghyd ag adroddiad blynyddol am 2002-2003.
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyr, 1993, oddi wrth CADW yn nodi fod yr adeilad wedi'i restru fel un o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol; llungopïau o ddeunydd ym meddiant Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn ymwneud â hanes pensaernïol Eglwys Philadelphia ac o ffynonellau printiedig eraill; torion o'r wasg, [1998]-2002, yn ymwneud ag argyfwng capeli yn gyffredinol; llungopïau o ffotograffau o'r capel; ynghyd â llythyr, 2003, oddi wrth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Cadw (Organization : Great Britain)
Costau cynnal a chadw'r adeiladau
Mae'r ffeil yn cynnwys amcangyfrifon, cynlluniau a llythyrau, 1932-1933, yn ymwneud â gosod system wres canolog yng Nghapel Philadelphia, ynghyd â llythyrau, 1949-1957, yn trafod gwelliannau i'r Mans ac adeiladau eraill.
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau, 1973-2000.
Mae'r ffeil, 1944-1951, yn cofnodi ffeithiau megis enwau'r athrawon, nifer o adnodau a ddarllenwyd, ynghyd â phresenoldeb a chyfraniadau'r aelodau.