- 3/8
- File
- 1960-1971
Mae'r ffeil yn dangos cyfrifon, 1960-1971, yr Ysgol Sul gyda'r South West Wales Savings Bank yn Nhreforus.
Mae'r ffeil yn dangos cyfrifon, 1960-1971, yr Ysgol Sul gyda'r South West Wales Savings Bank yn Nhreforus.
Mae'r ffeil yn cynnwys hanes yr achos a ysgrifennwyd, [?1958x1968], gan ddibynnu'n helaeth ar [waith W. Samlet Williams, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Morgannwg (Caernarfon, 1916)], rhan o lythyr, [1952x1954], oddi wrth yr Athro T. A. Levi, Aberystwyth, yn nodi ffeithiau am hanes Eglwys Philadelphia; ynghyd â thonau gan D. E. Williams, Treforus.
Levi, T. A. (Thomas Arthur), b. 1874
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau'r pregethwyr a wahoddwyd i bregethu fesul Sul, 1889-1933.
Mae'r ffeil, 1899-1950, yn cynnwys manylion am dderbyn plant yn gyflawn aelodau, y ddyled, bedyddiadau, marwolaethau, cyrddau blaenoriaid a materion eraill.
Mae'r ffeil, 1898-[1922], 1991, yn cynnwys bonion llythyrau aelodau a drosglwyddodd eu haelodaeth o Philadelphia i gapeli eraill.
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau, 1905-1915.
Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1913-1935.
Mae'r ffeil 'Cofrestr Eglwysig', ond sy'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd, yn cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1936-1939.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1933-1956, gan gynnwys y drysorfa adeiladu, y genhadaeth, yr Ysgol Sul, Urdd y bobl ifanc a chronfa'r Weinidogaeth.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1961-1974, gan gynnwys y weinidogaeth.
Mae'r ffeil, 1901, yn rhestru enw'r athro ac aelodau'r dosbarth.
Mae'r ffeil yn cynnwys tystysgrifau Sal Jenkins, 1908, am bresenoldeb da, ac am lwyddo mewn arholiad yr Ysgol Sul yn 1912; rhaglenni cyfarfodydd sefydlu'r Parchedigion T. P. Nicholas, 1934, R. Hugh Evans, 1944, T. Hywel Davies, 1950 ac Ieuan Jones, 1957; llungopïau o dorion yn adrodd hanes ailagor y capel yn 1935; ffeithiau am y gweinidogion a fu'n bugeilio'r eglwys a'r traddodiad cerddorol yno gyda nodyn bywgraffyddol am yr organydd a'r cyfansoddwr D. E. Williams; nodiadau am y ffenestri lliw o raglen 'Masterpieces in stained glass' a ddarlledwyd gan HTV, 1996; llungopi o hanes yr achos a ddarllenwyd i'r Henaduriaeth yn 1993; ynghyd â llythyrau, 2002, yn ymwneud â symud y ffenestri lliw a'r organ o'r eglwys.
Mae'r ffeil, 1859-1884, yn cynnwys enw'r plentyn, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd.
Cofrestr aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau a chyfeiriadau'r plant oedd yn cefnogi dirwest, 1899-1913, a'u hoedran.
Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd Eglwys a Chynulleidfa Philadelphia Treforus
Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1956, 1964, 1987-1995, yn ymwneud â cheisiadau ariannol ar gyfer gwelliannau i adeiladau'r capel, gwerthu'r Tŷ Capel, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, CADW, Ymddiriedolaeth Catherine a'r Fonesig Grace James a Chyngor Dinas Abertawe, ynghyd â nodiadau o weithredoedd y capel, 1813-1956, a gedwir gan Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, a llungopi o drosglwyddeb, 1871, am brynu tir i godi festri.
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau, 1953-1972.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1996-2003, gan gynnwys y weinidogaeth, yr Ysgol Sul a'r Cwrdd Chwiorydd.
Mae'r ffeil, [1925x1930]-1952, yn rhestru aelodau'r dosbarth a'u hathrawon.