- 1/10
- Ffeil
- 1969-2002
Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth am weinidogaeth yr eglwys, yr aelodaeth, y plant, a derbyniadau a thaliadau, 1969-2002.
Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth am weinidogaeth yr eglwys, yr aelodaeth, y plant, a derbyniadau a thaliadau, 1969-2002.
Mae'r ffeil yn cynnwys tystysgrifau Sal Jenkins, 1908, am bresenoldeb da, ac am lwyddo mewn arholiad yr Ysgol Sul yn 1912; rhaglenni cyfarfodydd sefydlu'r Parchedigion T. P. Nicholas, 1934, R. Hugh Evans, 1944, T. Hywel Davies, 1950 ac Ieuan Jones, 1957; llungopïau o dorion yn adrodd hanes ailagor y capel yn 1935; ffeithiau am y gweinidogion a fu'n bugeilio'r eglwys a'r traddodiad cerddorol yno gyda nodyn bywgraffyddol am yr organydd a'r cyfansoddwr D. E. Williams; nodiadau am y ffenestri lliw o raglen 'Masterpieces in stained glass' a ddarlledwyd gan HTV, 1996; llungopi o hanes yr achos a ddarllenwyd i'r Henaduriaeth yn 1993; ynghyd â llythyrau, 2002, yn ymwneud â symud y ffenestri lliw a'r organ o'r eglwys.
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1995-1999, oddi wrth Alwyn Jones, pensaer ac ymgynghorwr ar adeiladau hanesyddol, yn ymwneud â chostau, ac amcangyfrifon am y gwaith atgywerio; llythyr, 1999, oddi wrth Heddlu De Cymru ynglŷn â fandaliaeth ar adeiladau'r eglwys; a llythyr, 2003, oddi wrth ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, ynghyd ag adroddiad blynyddol am 2002-2003.
Mae'r ffeil, 1875-[1890], yn cynnwys bonion llythyrau aelodau a drosglwyddodd eu haelodaeth o Philadelphia i gapeli eraill.
Mae'r ffeil, 1898-[1922], 1991, yn cynnwys bonion llythyrau aelodau a drosglwyddodd eu haelodaeth o Philadelphia i gapeli eraill.
Mae'r ffeil, 1944-1951, yn cofnodi ffeithiau megis enwau'r athrawon, nifer o adnodau a ddarllenwyd, ynghyd â phresenoldeb a chyfraniadau'r aelodau.
Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1913-1935.
Mae'r ffeil 'Cofrestr Eglwysig', ond sy'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd, yn cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1936-1939.
'Llyfr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau'
Mae'r ffeil, 1951-1990, yn cynnwys dyddiad geni a bedyddio'r plentyn, ei enw, ei rieni, galwedigaeth y tad a'r gweinidog a'i fedyddiodd. Mae adran y marwolaethau yn wag.
Mae'r ffeil yn dangos cyfrifon, 1960-1971, yr Ysgol Sul gyda'r South West Wales Savings Bank yn Nhreforus.
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau'r pregethwyr a wahoddwyd i bregethu fesul Sul, 1889-1933.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1917-1932, gan gynnwys y gronfa adeiladu a chronfa'r Weinidogaeth.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1957-1982, gan gynnwys y weinidogaeth, yr Ysgol Sul a chronfa atgyweirio'r eglwys, 1976.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1975-1987, gan gynnwys y weinidogaeth.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1983-1995, gan gynnwys y weinidogaeth, yr Ysgol Sul a'r Cwrdd Chwiorydd.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1933-1956, gan gynnwys y drysorfa adeiladu, y genhadaeth, yr Ysgol Sul, Urdd y bobl ifanc a chronfa'r Weinidogaeth.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1961-1974, gan gynnwys y weinidogaeth.
Mae'r ffeil yn cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1996-2003, gan gynnwys y weinidogaeth, yr Ysgol Sul a'r Cwrdd Chwiorydd.
Mae'r ffeil, 1899-1950, yn cynnwys manylion am dderbyn plant yn gyflawn aelodau, y ddyled, bedyddiadau, marwolaethau, cyrddau blaenoriaid a materion eraill.