Showing 50 results

Archival description
Papurau John Ellis Williams
Print preview View:

Hedd Wyn

Mae'r ffeil yn cynnwys ffotograff o Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn), a cherdd ganddo, a thri toriad papur newydd, 1912-1945.

Hedd Wyn, 1887-1917

'Byd y Ddrama'

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrol wedi ei defnyddio fel llyfr lloffion sy'n cynnwys toriadau papur newydd, 1927-1930, yn enwedig ei gyfres yn Y Brython, 'Byd y Ddrama', 1927; ffotograffau, 1927-1930; rhaglenni, 1929; llythyrau oddi wrth J. Gwili Jenkins, 1927, National Union of Teachers: Festiniog & District Association, 1928, E. O. Roberts, 1929, ac un oddi wrth Dan Williams at E. O. Roberts ynghylch Llyfr y Dyn Du, 1929; a beirniadaeth gan J. Gwili Jenkins ar y gerdd 'Y Pwyllgorddyn'.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 1, 1923-24' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd o'r golofn ''Sten 'Stiniog', y golofn 'Llên Gwerin' yn Cymru a'r ddrama gyfres 'Tu Hwnt i'r Llen', 1923-1925.

Y Gloch

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 3, 1926 (Y Gloch)' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd o'r golofn ''Sten 'Stiniog' a ymddangosodd yn Y Gloch, 1926.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 4, 1926-7', sef toriadau o bapurau newyddion a chyfnodolion amrywiol, 1919-1934. Mae'n cynnwys llythyrau a chardiau oddi wrth R. Silyn Roberts, A. E. Jones (Cynan), E. Tegla Davies, 1927, T. Hudson Williams, 1927, Arthur Mee, 1925, Howard de Walden, ac W. Talog Williams, 1926. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys dau lun pensil o John Ellis Williams a'i wraig; Y Crwt, cylchgrawn ysgol Llanfrothen, 1924; tystysgrifau eisteddfodol, 1919-1926; ffotograffau o'r dramâu 'Ceidwad y Porth' a 'Ffon Dafl'; ffotograffau o ddisgyblion ysgol Glanypwll a ffotograffau personol ac amrywiol; a cherdd gan R. Silyn Roberts.

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 5, 1932-36', sef toriadau papur newydd 1932-1936. Mae'n cynnwys hefyd ffotograffau a rhai rhaglenni dramâu.

Taith y Pererin

Mae'r gyfres yn cynnwys toriadau papur newydd yn ymwneud â chynhyrchiad cwmni drama John Ellis Williams ym Mlaenau Ffestiniog o Taith y Pererin, 1933-1934. Ceir hefyd raglen y cynhyrchiad a phoster hysbysebu, [1934].

Yr Herald Cymraeg

Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau o doriadau papur newydd o'i golofnau a'i erthyglau yn Yr Herald Cymraeg, o 1946 hyd at ei farwolaeth ar 7 Ionawr 1975.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 2, 1922-23' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd 1922-1927. Mae'n cynnwys llythyrau a chardiau oddi wrth E. Tegla Davies, 1922, Owen Edwards, 1918, Ifan ab Owen Edwards, 1922, Ifor Williams, Ernest Evans, 1916, W. J. Gruffydd, R. D. Rowland (Anthropos), 1919, T. Gwynn Jones, 1922, D. Tecwyn Evans, 1918, ac Arthur Henderson, [c. 1922]

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 5(b), 1937-9' sydd yn cynnwys toriadau papur newydd amrywiol, 1937-1939. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau personol, amrywiol raglenni, a llythyr oddi wrth y Parch. John Harper ynglŷn â chynhyrchiad o'r ddrama 'The Sheep of William Morgan' yn Mahanoy City, Pennsylvania, 1939.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 8, 1959-61', sef toriadau papur newydd 1958-1961. Mae'n cynnwys toriad allan o'r London District Orders, 1945, llythyrau ar ymddiswyddiad John Ellis Williams o'r 'Welsh Services Club', 1945, llythyrau oddi wrth Thomas Parry, 1956, a Chynan, 1957, rhaglenni, 1959-1960, ffotograffau o'r fyddin a ffotograffau personol yn cynnwys un yn 1942.

Cynan, 1895-1970

Results 21 to 40 of 50