- L3/3
- Ffeil
- [c. 1945]-[c. 1960]
Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif o ddrama o'r enw 'Yr Unben', ac o ddrama di-deitl am 'Syr Alwyn'. Ceir hefyd nodiadau ar gyfer drama dditectif radio, a nodiadau amrywiol eraill.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif o ddrama o'r enw 'Yr Unben', ac o ddrama di-deitl am 'Syr Alwyn'. Ceir hefyd nodiadau ar gyfer drama dditectif radio, a nodiadau amrywiol eraill.
Yn ôl i Leifior (fersiwn 1989)
Mae'r ffeil yn cynnwys fersiwn teipysgrif o Yn ôl i Leifior: ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg (1989). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a dogfennau'n ymwneud â'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1987-1989.
Mae'r ffeil yn cynnwys wyth llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Yn ôl i Leifior (1956). Ni nodir y teitl ar y llyfrau nodiadau. Rhifwyd y dalennau gan yr awdur.
Traethawd ar Wythnos yng Nghymru fydd
Traethawd ymchwil Johan Schimanski, 'A Poetics of the Border'. Nation and genre in Wythnos yng Nghymru Fydd and other texts by Islwyn Ffowc Elis' (Prifysgol Oslo, 1996).
Schimanski, Johan
The Montgomeryshire by election
Llyfr lloffion yn ymwneud ag isetholiad Maldwyn 1962. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn ymgeisydd ar ran Plaid Cymru.
Taflen briodas a phapurau eraill
Taflen briodas Eirlys Rees Owen a'r Parchedig Islwyn Foulkes Ellis, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Rhoslefain, Towyn, 28 Hydref 1950; llungopïau o bortreadau pensil ganddo o’i gefnder R. Glynne Lloyd; taflen gyfrannu at apêl Cronfa Gŵyl Ddewi Plaid Cymru un [1969] a'r neges gan Islwyn Ffowc Elis - 'Dyma’r amser ... '; rholyn: 'The ancient history of the distinguished surname Kenrick', [1993]; a thoriad o’r Tyst yn cynnwys adroddiad am ddadorchuddio plac ar ei gartref Pengwern yn 2010.
Mae'r ffeil yn cynnwys pum llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Tabyrddau'r Babongo (1961). 'Tabyrddau'r Babongo' neu 'T.B.' yw'r teitl ar bob llyfr nodiadau, ac maent wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.
Mae'r ffeil yn cynnwys storïau byrion di-deitl. Mae un stori yn anghyflawn a cheir pymtheg dalen rhydd yn ychwanegol at y llyfrau.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o stori di-deitl.
Mae'r ffeil yn cynnwys stori anghyflawn, dyddiadur dychmygol, cerddoriaeth mewn nodiant sol-ffa, nodiadau ar grefyddau Groeg a Rhufain, ac erthygl ar 'Yr Ymerodraeth Olau, apologia'r mabinogiaid newydd'.
Mae'r ffeil yn cynnwys sgriptiau radio'r BBC, 1960-1963, a chopïau teipysgrif o sgyrsiau radio, erthyglau, a deunydd amrywiol.
Adysgrifiad o’r drafodaeth rhwng Eirian Davies ac Islwyn Ffowc Elis a recordiwyd yn 1971; tair sgript ‘Dylanwadau’, 1992 ar gyfer y gyfres o sgyrsiau radio ‘Sglein’, 1993 (y gyntaf yn eisiau) a 'Rhwng Gŵyl a Gwaith'.
Sgriptiau'r gyfres deledu ‘Rhai yn fugeiliaid’,1962; sgript radio ‘Y gôt fawr’ a droswyd o’r Eidaleg ganddo, 1963; ‘Gwanwyn diweddar’, drama gyfres ar gyfer y teledu, 1963; a 'Bwystfil y ddaear', 1965, ynghyd â sgript 'Y silff lyfrau' yn cynnwys adolygiad o Yn ôl i Leifior, 1957 a dwy ffars 'Gŵr Mrs Jones' a 'Y Golofn danllyd'.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif drama o'r enw 'Salvator Jones', (hanes yr hynod Salvator Jones, proffwyd y dyfodol). Ceir hefyd nodiant sol-ffa ar gyfer caneuon ac unawdau sy'n rhan o'r ddrama.
Mae'r gyfres yn cynnwys rhyddiaith gan Islwyn Ffowc Elis, megis drafftiau anghyflawn o dair stori, a chopïau teipysgrif o sgyrsiau radio.
Papurau ychwanegol, 1937-2010, gan gynnwys gohebiaeth, sgriptiau a phregethau.
Copi o'r Arloeswr, Gaeaf 1959, yn cynnwys y gerdd 'Perthyn' ganddo a'i drosiad o Efengyl Mathew i Gymraeg diweddar (1961).
Pregethau a draddodwyd ganddo, [1964]-[1997]. Cofnodir enw'r eglwys ar y bregeth, yn arbennig Eglwys Shiloh, Llanbedr Pont Steffan.
Mae'r grŵp yn cynnwys papurau personol Islwyn Ffowc Elis, 1945-1994.