Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 67 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Islwyn Ffowc Elis Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfrau nodiadau cymysg

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o ysgrifau a gyhoeddwyd yn Cyn Oeri'r Gwaed (1952), storïau, nodiadau ar bynciau crefyddol, erthyglau gwleidyddol a chaneuon.

Llyfrau nodiadau crefyddol

Mae'r ffeil yn cynnwys chwech llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau ar bynciau crefyddol yn gyffredinol, nodiadau ar Fwdïaeth ac Islam, nodiadau pregethau, ac erthyglau ar faterion Eglwysig.

Llyfrau brasluniau

Mae'r ffeil yn cynnwys lluniau o gymeriadau a golygfeydd, ac un llyfr o fapiau o Ogledd Cymru. Ceir hefyd tri darn o gerdd a darn o ryddiaith.

'Huws & Co.'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi teipysgrif o ddrama gan Islwyn Ffowc Elis o'r enw 'Huws & Co.' a ddarlledwyd gan BBC Cymru ar 19eg Mehefin 1954. Mae'r dudalen glawr yn rhestri enwau'r actorion a'r cantorion.

Gohebiaeth Gwasg Gomer, 1985-1987

Mae'r ffeil yn cynnwys wyth llythyr, yn bennaf gohebiaeth rhwng Islwyn Ffowc Elis a Gwasg Gomer. Ceir hefyd nodiant sol-ffa ar gyfer 'Awdl Goffa R.Williams Parry ar Pennant'.

Gomer Llandysul Printer

Gohebiaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, sef llythyrau yn bennaf oddi wrth Robin Williams, Kate Roberts, E. Tegla Davies, Dyddgu Owen, a D. Tecwyn Lloyd at Islwyn Ffowc Elis, 1949-1994.

Gohebiaeth

Llythrau, 1964-1995, oddi wrth lenorion amlwg a llythyrau'n ei longyfarch ar ei anrhydeddau academaidd.

Ffenestri Tua'r Gwyll

Mae'r ffeil yn cynnwys naw llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Ffenestri Tua'r Gwyll (1955). 'Y Tŵr Ifori' yw teitl y nofel yn y llyfrau nodiadau. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur, 1-8, ac mae llyfr ychwanegol yn cynnwys nodiadau ar gynllun y nofel. Ceir hefyd broflenni o benodau 52 a 53, lle mae'r testun yn wahanol i'r fersiwn gyhoeddedig, a llythyr yn llaw'r awdur at y cyhoeddwr yn trafod cynnwys penodau olaf y nofel.

Etholiadau Plaid Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1966-1969, yn ymwneud ag ymgyrchoedd etholiadol Plaid Cymru, yn cynnwys taflenni etholiadol, gohebiaeth, a phapurau'r grŵp ymchwil.

Erthyglau printiedig

Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau gan Islwyn Ffowc Elis, ar faterion Cristnogol a chenedlaetholaidd, a ymddangosodd yn y cylchgronau Y Wawr (Cangen Prifysgol Cymru Aberystwyth o'r Blaid Genedlaethol), Y Greal (Coleg Diwinyddol Aberystwyth), Yr Efrydydd (Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr), Y Crynhoad, a'r Drysorfa (Methodistiaid Calfinaidd), 1949-1955, a dim dyddiad.

Plaid Cymru lctgm -- Meetings

Erthyglau

Drafftiau o erthyglau ar gyfer cylchgronau, dyddiadur, 31 Rhagfyr 1965-7 Mawrth 1966, mewn teipysgrif, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans, 1979.

Dramâu amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a nifer o ddalennau rhydd, yn cynnwys drafft llawysgrif o ddarnau o ddramâu o'r enw 'Doctor Wyn', 'Yr Anhygoel Huws' ac eraill di-deitl. Ceir hefyd feirniadaeth ar gystadleuaeth y bryddest yn Eisteddfod Trefeglwys, caneuon gyda nodiant sol-ffa, a nodiadau amrywiol eraill.

Dramâu

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau cymysg yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu yn bennaf, ynghyd â rhai caneuon, storïau a beirniadaethau.

Drafftiau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad ar sasiwn Unedig Aberystwyth ar gyfer Y Goleuad, geiriau'r gân 'Mae gen i long o arian', erthygl am Gymru, a beirniadaethau.

Dogfennau personol

Mae'r gyfres yn cynnwys tystysgrif ordeinio Islwyn Ffowc Elis yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1950; dau dystysgrif am ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ar gystadleuaeth y ddrama, 1945-1946; pedwar ffotograff a dogfennau eraill.

Cysgod y Cryman

Mae'r ffeil yn cynnwys ugain llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Cysgod y Cryman (1953). 'Lle oeda'r Cryman' yw teitl y nofel yn y tri llyfr nodiadau cyntaf, ond mae'r teitl yn newid i 'Cysgod y Cryman' yn y pedwerydd llyfr. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.

'Cyn Oeri'r Gwaed'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o ysgrifau a gyhoeddwyd yn Cyn Oeri'r Gwaed (1952), sef 'Sut i Yrru Modur', 'Dyn yw Dyn', 'Mynd i'r Lleuad', 'Pe Bawn i'n Wybedyn', 'Tai', a 'Cyn Mynd'. Ceir hefyd nodiadau ar bynciau crefyddol a gwleidyddol.

Canlyniadau 41 i 60 o 67