Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 44 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Islwyn Ffowc Elis Ffeil Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Yr Unben'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif o ddrama o'r enw 'Yr Unben', ac o ddrama di-deitl am 'Syr Alwyn'. Ceir hefyd nodiadau ar gyfer drama dditectif radio, a nodiadau amrywiol eraill.

Yn ôl i Leifior (fersiwn 1989)

Mae'r ffeil yn cynnwys fersiwn teipysgrif o Yn ôl i Leifior: ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg (1989). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a dogfennau'n ymwneud â'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1987-1989.

Yn ôl i Leifior

Mae'r ffeil yn cynnwys wyth llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Yn ôl i Leifior (1956). Ni nodir y teitl ar y llyfrau nodiadau. Rhifwyd y dalennau gan yr awdur.

Tabyrddau'r Babongo

Mae'r ffeil yn cynnwys pum llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Tabyrddau'r Babongo (1961). 'Tabyrddau'r Babongo' neu 'T.B.' yw'r teitl ar bob llyfr nodiadau, ac maent wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.

Storïau byrion

Mae'r ffeil yn cynnwys storïau byrion di-deitl. Mae un stori yn anghyflawn a cheir pymtheg dalen rhydd yn ychwanegol at y llyfrau.

Stori a nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys stori anghyflawn, dyddiadur dychmygol, cerddoriaeth mewn nodiant sol-ffa, nodiadau ar grefyddau Groeg a Rhufain, ac erthygl ar 'Yr Ymerodraeth Olau, apologia'r mabinogiaid newydd'.

Sgriptiau radio

Mae'r ffeil yn cynnwys sgriptiau radio'r BBC, 1960-1963, a chopïau teipysgrif o sgyrsiau radio, erthyglau, a deunydd amrywiol.

Sgriptiau radio

Adysgrifiad o’r drafodaeth rhwng Eirian Davies ac Islwyn Ffowc Elis a recordiwyd yn 1971; tair sgript ‘Dylanwadau’, 1992 ar gyfer y gyfres o sgyrsiau radio ‘Sglein’, 1993 (y gyntaf yn eisiau) a 'Rhwng Gŵyl a Gwaith'.

Sgriptiau

Sgriptiau'r gyfres deledu ‘Rhai yn fugeiliaid’,1962; sgript radio ‘Y gôt fawr’ a droswyd o’r Eidaleg ganddo, 1963; ‘Gwanwyn diweddar’, drama gyfres ar gyfer y teledu, 1963; a 'Bwystfil y ddaear', 1965, ynghyd â sgript 'Y silff lyfrau' yn cynnwys adolygiad o Yn ôl i Leifior, 1957 a dwy ffars 'Gŵr Mrs Jones' a 'Y Golofn danllyd'.

'Salvator Jones'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif drama o'r enw 'Salvator Jones', (hanes yr hynod Salvator Jones, proffwyd y dyfodol). Ceir hefyd nodiant sol-ffa ar gyfer caneuon ac unawdau sy'n rhan o'r ddrama.

Printiedig

Copi o'r Arloeswr, Gaeaf 1959, yn cynnwys y gerdd 'Perthyn' ganddo a'i drosiad o Efengyl Mathew i Gymraeg diweddar (1961).

Pregethau

Pregethau a draddodwyd ganddo, [1964]-[1997]. Cofnodir enw'r eglwys ar y bregeth, yn arbennig Eglwys Shiloh, Llanbedr Pont Steffan.

Nodiadau darlithoedd

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau ar gyfer darlithoedd ar ysgrifennu creadigol, y nofel, y stori hir, ac 'Awduron at iws gwlad', yn ystod cyfnod Islwyn Ffowc Elis fel darlithydd a darllenydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Llythyrau Robin Williams

Mae'r ffeil yn cynnwys pum llythyr a deugain oddi wrth Robin Williams, cyfaill i Islwyn Ffowc Elis, a phum ffotograff o Islwyn Ffowc Elis, Robin Williams, Y Parch. Huw Jones (Bala) ac eraill. Mae'r awdur yn ysgrifennu llythyrau digrif ac yn defnyddio ffugenwau a chyfeiriadau dychmygol yn ei lythyrau.

Williams, Robin, 1924-

Llythyrau Kate Roberts

Mae'r ffeil yn cynnwys un ar ddeg llythyr oddi wrth Kate Roberts at Islwyn Ffowc Elis yn trafod Tywyll Heno, a beirniadaeth cystadleuaeth y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, ymhlith materion eraill.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau E. Tegla Davies

Mae'r ffeil yn cynnwys dau lythyr ar hugain oddi wrth E. Tegla Davies at Islwyn Ffowc Elis. Mae dau o'r llythyrau cynharaf, 1953, yn gopïau a wnaed gan Islwyn Ffowc Elis o'r llythyrau gwreiddiol.

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967

Canlyniadau 1 i 20 o 44