Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 53 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Meic Povey, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pobol y Cwm,

Llyfr nodiadau Pobol y Cwm, 1989, gan gynnwys nodiadau a sgriptio bras ar gyfer penodau 60 a 79: cyfres 16.

Nel,

Drafft llawysgrif a chopi teipysgrif o'r ffilm deledu Nel, [1991], ynghyd â nodiadau ar leoliadau set.

Llyfr nodiadau,

Llyfr nodiadau, 1988-1989, gan gynnwys nodiadau bras ar Glas y Dorlan, cyfres VI: Ewyllys Da, a Pobol y Cwm, cyfres 15: pennod 179.

Llyfr nodiadau,

Llyfr nodiadau, 1988, gan gynnwys peth sgriptio bras ar gyfer 'Deryn 'Dolig a The Dragon and the Rose, ynghyd â nodiadau ar gymeriadau.

Hen Bobl Mewn Ceir,

Llyfr nodiadau y ddrama lwyfan Hen Bobl Mewn Ceir, 2004-2005, gan gynnwys syniadau amlinellol ar natur y set a'r cymeriadau, a drafft cynnar o'r sgript.

Gwaed Oer,

Teipysgrif o'r ddrama lwyfan Gwaed Oer, 1991, gan gynnwys nodiadau.

Gohebiaeth yn ymwneud â'i waith,

Gohebiaeth, 1968-2008, yn ymwneud â gwaith Meic Povey fel dramodydd, gan gynnwys llythyron ac e-byst oddi wrth cwmnïau theatr a theledu yn trafod prosiectau; llythyron o longyfarch ar lwyddiant dramâu megis Nel a Sul-y-Blodau; ynghyd â pheth gohebiaeth gyffredinol yn cyffwrdd ar ei waith. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyr, dyddiedig 1994, gan Emyr Llywelyn Jones a chopi atodol o araith a fwriadodd ei roi o'r doc pan gafodd ei ddedfrydu yn 1963 am ei weithredoedd yn dilyn boddi Cwm Tryweryn.

Llywelyn, Emyr

Gohebiaeth yn trafod Life of Ryan...and Ronnie,

Gohebiaeth yn benodol ar y ddrama lwyfan Life of Ryan...and Ronnie, 2000-2007, gan gynnwys trafodaethau rhwng Meic Povey a'r tîm cynhyrchu ynglŷn â'r sgript, a llythyron o longyfarch ar lwyddiant y cynhyrchiad.

Gohebiaeth bersonol,

Llythyron personol a dderbyniwyd gan Meic Povey, 1987-2006, gan gynnwys llythyron o ddiolch a llythyron o gydymdeimlad ar brofedigaethau.

Glas y Dorlan,

Llyfrau nodiadau Glas y Dorlan, cyfres VI: 'Ewyllys Da', 1988, gan gynnwys nodiadau a drafft cynnar o'r bennod.

For Real,

Drafft llawysgrif a chopi teipysgrif o'r ddrama radio For Real, 1993.

Canlyniadau 21 i 40 o 53