Showing 96 results

Archival description
Papurau Mathonwy Hughes
Advanced search options
Print preview View:

Cardiau coffa

Mae'r gyfres yn cynnwys cardiau coffa a thaflenni angladdau teulu a chyfeillion Mathonwy Hughes, [?1862]-1990.

Papurau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau ac eitemau amrywiol, yn bennaf mân greiriau megis meillion pedair deilen, a gasglwyd gan Mathonwy Hughes a'i deulu, [?1872]-[?1990].

Papurau llenyddol

Mae'r uned yn cynnwys llawysgrifau a theipysgrifau, [?1915]-[?1999], o farddoniaeth Mathonwy Hughes, cyfrolau cyhoeddedig, erthyglau, ysgrifau, a'i nofel anghyhoeddedig Y Pris, yn ogystal â chopïau o'i waith fel beirniad, beirniadaethau a dderbyniodd ef ar ei waith, a deunydd a baratowyd ar gyfer ymrysonau barddol.

Nodiadau ar ddarlithoedd

Nodiadau rhydd ar ddarlithoedd Mudiad Addysg y Gweithwyr, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar hanes a llenyddiaeth Cymru, a gymerwyd gan Mathonwy Hughes ac eraill tra buont yn fyfyrwyr.

Papurau teuluol

Mae'r uned yn cynnwys papurau aelodau amrywiol o deulu Mathonwy Hughes, [?1847]-[?1986].

Papurau perthnasau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau, [?1847]-[?1935], a gasglwyd gan hanner brodyr a chwiorydd mam Mathonwy Hughes, ynghyd â pherthnasau amrywiol eraill. Ymhlith y papurau ceir llyfrau rhent, llythyrau, llyfrau ysgol a phapurau personol.

Gohebiaeth

Llythyrau a dderbyniodd Mathonwy Hughes fel golygydd Y Faner ac yn ymwneud â'i ddiddordebau llenyddol, 1943-1993.

Cerddi

Englynion Mathonwy Hughes, gan gynnwys ‘Y Parch. Lewis Valentine yn 90 oed’, ‘Criw Y Faner’, ‘Y Babell Lên’, ynghyd â chopi o’i gerdd ‘Cwm Silyn (Hwyr Awst) [a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Corlannau a cherddi eraill (Llyfrau'r Faner, 1971), ac englyn Derwyn Jones i Mathonwy Hughes (ar ôl darllen ei gyfrol Corlannau). Ceir hefyd gopi o drefn gwasanaeth angladd Mathonwy Hughes, 8 Mai 1999, a gynhaliwyd yn y Capel Mawr, Dinbych.

'Dyddiadur gwyliau'

Torion yn ymwneud â theithiau Mathonwy Hughes i Sir Benfro, Yr Ynys Werdd, Yr Alban, Gwlad yr Haf, Cwm Rhondda, Cernyw a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1963-1972.

Results 81 to 96 of 96