Showing 96 results

Archival description
Papurau Mathonwy Hughes
Print preview View:

Awen Gwilym R.

Y mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau ymchwil a theipysgrif o gyfrol Mathonwy Hughes, Awen Gwilym R., (Dinbych: Gwasg Gee, 1980).

Jones, Gwilym R. (Gwilym Richard), 1903-1993

Cofrestr

Mae'r ffeil yn cynnwys cofrestr yn enwi aelodau o ddosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr a gymerwyd gan Mathonwy Hughes, 1977-85.

Papurau R. Silyn Roberts a'i deulu

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'r Prifardd R. Silyn Roberts, ynghyd â phapurau ei wraig Mary Silyn Roberts, ac ychydig o bapurau eu plant, Glyn ap Silyn, Meilir ap Silyn a Rhiannon Silyn Roberts, [?1898]-[?1940]. Ymysg y papurau ceir ychydig o lawysgrifau cerddi R. Silyn Roberts, a llythyrau oddi wrtho at aelodau eraill ei deulu.

Roberts, R. Silyn (Robert Silyn), 1871-1930

Deunydd personol

Mae'r ffeil yn cynnwys yn bennaf llythyrau a phapurau'n ymwneud â gwaith Mair Hughes fel nyrs yn Ysbyty Dinbych, [?1926]-[?1986].

North Wales Hospital

Rhodd Medi 2021

Papurau ychwanegol Mathonwy Hughes, [1850]-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.

Gwilym Pari Huws

Teipysgrifau o englynion a chywyddau gan Gwilym Pari Huws a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Awen y meddyg (Gwasg Gwynedd, 1983).

Llawysgrifau barddoniaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau o gerddi Mathonwy Hughes, copïau o gerddi gan feirdd eraill yn ei law ef ac yn eu llawysgrif eu hunain, a chopïau o'i gynigion ar gyfer cystadlaethau barddonol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, [?1915]-[?1999].

Drafftiau o gyfrolau

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a chopïau terfynol o rai o gyfrolau cyhoeddedig Mathonwy Hughes, [?1974]-[?1991].

Y Pryf yn y Pren

Copi terfynol o gyfrol o farddoniaeth gan Mathonwy Hughes, sef Y Prif yn y Pren (Dinbych : Gwasg Gee, 1991), ynghyd â drafft teipysgrif.

Results 41 to 60 of 96