Dangos 96 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Mathonwy Hughes
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth

Llythyrau a dderbyniodd Mathonwy Hughes fel golygydd Y Faner ac yn ymwneud â'i ddiddordebau llenyddol, 1943-1993.

Gwilym Pari Huws

Teipysgrifau o englynion a chywyddau gan Gwilym Pari Huws a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Awen y meddyg (Gwasg Gwynedd, 1983).

Llawysgrifau barddoniaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau o gerddi Mathonwy Hughes, copïau o gerddi gan feirdd eraill yn ei law ef ac yn eu llawysgrif eu hunain, a chopïau o'i gynigion ar gyfer cystadlaethau barddonol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, [?1915]-[?1999].

Llyfrau llofnodion

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau o lofnodion enwogion Cymru, ac enwogion byd-eang, a gasglwyd gan Mathonwy Hughes a'i wraig Mair, [?1956]-[?1969].

Llythyrau oddi wrth lenorion amlwg

Llythyrau oddi wrth lenorion yn bennaf, 1943-1992, gan gynnwys John Roderick Rees; [R.] Bryn Williams; Gwynfor [Evans]; Gwilym R. Tilsley; [R.] Tudur [Jones]; Bedwyr Lewis Jones; John [Gwilym Jones]; T. E. Nicholas; Kate Roberts; Waldo Williams; Lewis Valentine; Angharad Tomos; E. Prosser Rhys; D. J. Williams; T. H. Parry-Williams; W. R. P. George; a T. Llew Jones.

Llythyrau personol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau personol, [?1903]-1992, a llythyrau yn llongyfarch Mathonwy Hughes ar ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1956.

Canlyniadau 41 i 60 o 96