- C6
- cyfres
- 1903-1921, 1941-1977
Mae'r gyfres hon yn cynnwys cyfrolau ag ynddynt gofnod o rifau'r seddi, enwau a chyfeiriadau eu cymerwyr, yn ogystal â chofnod o'u tâl amdanynt.
Mae'r gyfres hon yn cynnwys cyfrolau ag ynddynt gofnod o rifau'r seddi, enwau a chyfeiriadau eu cymerwyr, yn ogystal â chofnod o'u tâl amdanynt.
Llyfrau ysgrifennydd yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi enwau disgyblion yr amrywiol ddosbarthiadau, ynghyd â manylion ynglŷn â phresenoldeb a dysgu adnodau, [1943].
Llyfrau derbyniadau a thaliadau'r weinidogaeth
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr derbynaidau a thaliadau sydd hefyd yn nodi enwau a chyfeiriadau'r gweinidogion a wasanaethodd yng nghapel Moreia, 1882-1908.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi fanylion am waith yr Ysgol Sul a gyflwynwyd gerbron cyfarfod misol Llŷn ac Eifionydd, 1904-1911.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi fanylion am dderbyniadau a thaliadau'r Eglwys, 1940-1950.
Llyfrau cyfrifon banc pwyllgor y Capel
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr cyfrifon banc pwyllgor y Capel ag ynddo gofnod o daliadau a derbynion wedi eu rhestru fesul blwyddyn, 1880-1910.
Llyfrau cyfrifon a llafur yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres hon yn cynnwys cyfrolau ag ynddynt gofnod o enwau disgyblion yr amrywiol ddosbarthiadau, yn ogystal â manylion presenoldeb a'r adnodau a ddysgwyd, 1887-1913.
Llyfrau cyfraniadau eglwysig y plant
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi gofnod o enwau a chyfeiriadau'r plant a'r swm a gyfrannwyd ganddynt tuag at yr Eglwys, 1924-1959.
Mae'r gyfres yn cynnwys enw, cyfeiriad a chyfraniad yr aelodau fesul chwarter tuag at gronfa yr adeiladau, 1968-1977.
Llyfrau cofnodion yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd yr athrawon, 1905-1930.
Llyfrau cofnodion y Gymdeithas Feiblaidd
Mae'r ffeil hon yn cynnwys cofnodion cangen Morfa Nefyn, Boduan a Cheidio o'r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor, 1956-1982.
Llyfrau cofnodion cyfarfodydd y swyddogion
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cofnodion cyfarfodydd swyddogion yr Eglwys, 1931-1994.
Llyfrau cofnodion cyfarfodydd bugeiliol
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi enwau a chyfeiriadau'r cyfranwyr tuag at gwahanol gasgliadau, 1938-1949.
Llyfrau casgliad y weinidogaeth
Mae'r gyfres hon yn cynnwys cyfrolau ag ynddynt enwau a chyfeiriadau'r aelodau yn ogystal â'r swm a gyfrannwyd ganddynt yn fisol tuag at gasgliad y weinidogaeth.
Llyfrau casgliad y gronfa ganolog
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau i'r gronfa ganolog, 1943-1953.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau i gasgliadau diolchgarwch, 1967-1975.
Llyfrau casgliad cyfundebol a chofnodion cyfarfodydd y brodyr
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol ag ynddi gofnod o'r achosion y casglwyd tuag atynt, ac enwau'r cyfranwyr, 1904-1914, yn ogystal â chofnodion cyfarfodydd y brodyr, 1915-1930.
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr bedyddiadau, 1859-1882, ag ynddo gofnod o'r dyddiad, enw bedydd y plentyn, enwau bedydd a theulu'r rhieni, enw'r cartref, gwaith y tad, yn ogystal â chan bwy y'i bedyddiwyd.
Llyfr cofnodion a chyfrifon y Capel Coed a'r Capel Newydd
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr ag ynddo gofnod o wariant cynnal a chadw'r Capel Coed, o'r arian a fenthycwyd ac a gasglwyd tuag at adeiladu'r Capel Newydd, o fân gostau, o ardrethi'r eisteddleoedd, ac o'r sefyllfa ariannol flynyddol, 1881-1909.