Showing 81 results

Archival description
Archif Y Faner
Print preview View:

Canolfan dechnolegol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau a llythyrau yn bennaf yn ymwneud â sefydlu canolfan dechnolegol yng Nghymru, 1986-1989.

Twristiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau a datganiadau i'r wasg yn ymwneud â thwristiaeth yng Nghymru, 1986-1989.

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau, llythyrau, erthyglau, torion papur newydd, darnau cerddoriaeth, a thaflenni yn ymwneud ag amrywiol bethau, gan gynnwys erthyglau'r Faner, rhaglenni teledu, Cyngor y Celfyddydau, Cymdeithas Cynghorau Iechyd Cymru a'r sîn roc Gymraeg, 1986-1992.

Logos

Mae'r ffeil yn cynnwys logos amrywiol gyrff, cwmnïau a chymdeithasau, 1986-1992.

Cerddi

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a anfonwyd fel cyfraniadau i'r Faner gan amryw o feirdd, 1988-1991.

Trwyddedu sianel 3

Mae'r ffeil yn cynnwys datganiadau i'r wasg, taflenni, llythyrau, adroddiadau a thorion papur newydd yn ymwneud â thrwyddedu sianel tri yn 1991.

Papurau gweinyddol a mynegeion

Mae'r adran hon yn cynnwys llyfrau nodiadau a chymhorthion golygyddol, gohebiaeth a chofnodion gweithgor Y Faner; ystadegau, taflenni, ynghyd ag ôl rifynnau, 1986-1992; mynegeion i'r llythyrau a dderbyniodd y golygydd ac i'r pynciau a drafodwyd yn y Faner, 1987-1990; yn ogystal â llyfrau cyfrifon, papurau ariannol, gohebiaeth ariannol a rhoddion i apêl Y Faner, 1988-1992.

Papurau gweinyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys cymhorthion golygyddol a llyfrau nodiadau, 1986-1992; gohebiaeth a chofnodion gweithgor Y Faner, 1987-1992; cwestiynau ac ystadegau o ganlyniad i holiadur 1987; deunyddiau papur Y Faner, [c.1990], yn ogystal â bwndel o ôl rifynnau, 1985-1992.

Deunyddiau papur

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau parod, posteri, taflenni a slipiau cyfarch Y Faner.

Mynegeion Y Faner

Mae'r gyfres hon yn cynnwys mynegai i gyfranwyr Y Faner a mynegai i'r pynciau a drafodwyd yn nhudalennau'r Faner, 1987-1990.

Results 41 to 60 of 81