- E2
- cyfres
- [c.1930]-1958
Papurau yn ymwneud ag achosion arbennig roedd y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymgymryd â hwynt, [c.1930]-1958.
Papurau yn ymwneud ag achosion arbennig roedd y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymgymryd â hwynt, [c.1930]-1958.
Papurau yn ymwneud â diddordeb Dr Iorwerth Hughes Jones mewn celfyddyd, 1926-1972; llythyrau, darluniau a gwahoddiadau i arddangosfeydd, yn ymwneud â'r arlunwyr Evan Walters a Ceri Richards.
Papurau'n ymwneud ag ymgyrchoedd etholiadol y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ward Sgeti, 1947-1955.
Papurau yn ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus Dr Iorwerth Hughes Jones, 1930-1960.
Papurau yn ymwneud â gwahanol feysydd hanesyddol yr oedd y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymddiddori ynddynt, 1823, [1919]-[1972], sef hanes lleol, enwau lleoedd, hanes gwrthrychau, hanes Lady Barham a hanes meddygon a meddyginiaeth. Mae yma gymysgedd o ddeunydd megis llythyrau, nodiadau ymchwil, torion papur newydd, llawysgrifau, llyfrynnau a lluniau.
Papurau yn ymwneud â diddordebau llenyddol y Dr Iorwerth Hughes Jones, 1941-1970, yn bennaf papurau yn ymwneud â Vernon Watkins.
Llythyrau, 1924-1972, oddi wrth nifer o ohebwyr gwahanol at Dr Iorwerth Hughes Jones yn bennaf (ceir rhai llythyrau at ei wraig a'i dad). Mae'r llythyrau hyn yn trafod amrywiol bynciau megis materion celfyddydol a llenyddol; pynciau hanesyddol ac archaeolegol; enwau lleoedd; materion meddygol; gwleidyddiaeth, ac yn arbennig, gwleidyddiaeth Gymreig, gan gynnwys yr ymgyrch dros Senedd i Gymru, materion Plaid Cymru a llwyddiant etholaethol Dr Iorwerth Hughes Jones; materion cyhoeddus yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwy, megis ymgyrchoedd lleol, a'i aelodaeth ag amrywiol cymdeithasau a mudiadau; ceir cyfeiriadau at yr Ail Ryfel Byd mewn rhai llythyrau; ac yn ogystal â hyn oll fe geir llythyrau sydd yn fwy personol eu naws.
Llythyrau oddi wrth sefydliadau
Llythyrau oddi wrth sefydliadau Cymreig, 1943-1972, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Werin Cymru, Coleg Prifysgol Abertawe, Adran Llyfrgelloedd Cyhoeddus Bwrdeistref Sir Abertawe, Ysbyty Morriston, ac E. D. Jones a David Jenkins, cyn-lyfrgellwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r llythyrau hyn yn bennaf yn diolch i Dr Iorwerth Hughes Jones am ei gyfraniadau i'r sefydliadau hyn, er bod naws lled-bersonol i rai o'r llythyrau hefyd.
Jones, E. D. (Evan David)
Llythyrau Saunders Lewis a David Bell
Llythyrau oddi wrth David Bell, arlunydd a bardd a wnaethpwyd yn guradur Oriel Gelfyddyd Glyn Vivian, Abertawe, yn 1951, a llythyrau yn trafod Saunders Lewis, [1935]-1959.
Llythyrau yn ymwneud â Phlaid Cymru, 1926-1945.
Plaid Cymru lctgm -- Meetings
Papurau yn ymwneud â dathliadau jiwbili Coleg y Brifysgol, Abertawe, 1970.
Papurau yn ymwneud â'r amrywiol ymgyrchoedd gwleidyddol yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwynt, [c.1937]-1964, megis yr ymgyrch dros Senedd i Gymru; yr ymgyrch dirprwyaeth teledu a oedd yn ymgyrchu i gael rhagor o raglenni Cymraeg ar y teledu; a'r Ddeiseb Genedlaethol, oedd yn ymgyrch dros gael statws cyfartal i'r Gymraeg mewn llysoedd.
Llythyrau yn trafod materion Cymreig a'r Urdd yn bennaf, ynghyd â phapurau'n ymwneud â mordeithiau'r Urdd, 1933-1962.
Urdd Gobaith Cymru