Dangos 90 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Rhydwen Williams,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau, 1940-95 a heb ddyddiad; mae nifer helaeth ohonynt yn deillio o'r cyfnod y bu Rhydwen Williams yn olygydd Barn ....

Llythyrau, 1940-95 a heb ddyddiad; mae nifer helaeth ohonynt yn deillio o'r cyfnod y bu Rhydwen Williams yn olygydd Barn. Ymhlith y gohebwyr y mae Cliff Bere, 1986 (1/8); Geraint Bowen, 1984 a heb ddyddiad (1/14-15); Stuart Burrows, heb ddyddiad (1/24); Philip H. Burton, 1984 (1/25); Hafina Clwyd, 1986 (1/26-8); Syr Goronwy Daniel, 1984 a heb ddyddiad (1/31-2); Syr Alun Talfan Davies, 1983 (1/36-8); Bryan Martin Davies, 1983-6 (1/39-51); Ithel Davies, 1983 (1/64-7); y Parch. J. Eirian Davies, 1986 (1/68); Jennie Eirian Davies, 1978-9 a heb ddyddiad (1/69-73); Marion Eames, 1970 a heb ddyddiad (1/85-6); Hywel Teifi Edwards, 1983 (1/95); Owen Edwards, 1983 (1/96); Menna Elfyn, 1983, 1986 a heb ddyddiad (1/102-4); Islwyn Ffowc Elis, 1983 (1/105); John Elwyn, 1984 (1/107); Dewi Emrys, 1950 (1/109); Gwynfor Evans, 1982-3 (1/127-9); Meredydd Evans, 1982-3 (1/134-5); R. Alun Evans, 1985 (1/136); W. R. P. George, 1984 (1/147); J. Gwyn Griffiths, 1969-85 (1/159-65); Emyr Humphreys, 1973 (1/199); Norah Isaac, 1984 (1/210); Dafydd Iwan, heb ddyddiad (1/214); Bobi Jones, 1982-8 (1/230-8); Dic Jones, 1983 (1/243); Dr Emyr Wyn Jones, 1986 (1/244); Gwilym R. Jones, 1981 a heb ddyddiad (1/252-4); John Owen Jones ('Owen Bryngwyn'), 1959 (1/259); Nesta Wyn Jones, heb ddyddiad (1/262); D. Tecwyn Lloyd, 1983-5 (1/287-90); Alan Llwyd, 1977-89 a heb ddyddiad (1/295-307); yr Esgob Cledan Mears, 1983 (1/313); Leila Megane, 1959 (1/314); Derec Llwyd Morgan, heb ddyddiad (1/316); James Nicholas, 1983 (at Syr Alun Talfan Davies) (1/320); y Parch. W. Rhys Nicholas, 1976, 1989 (1/321-2); Gwenlyn Parry, heb ddyddiad (1/337); Tom Parry, 1982-3 (1/340-2); Alwyn D. Rees, 1966, 1969 (1/360-1); Eigra Lewis Roberts, 1983-4 (1/371-2); Hywel D. Roberts, 1983, 1989 (1/378-80); Kate Roberts, 1958-81 (1/385-91); Syr Wyn Roberts (1964, at Hugh Griffith), 1991 (1/397-8); Dafydd Rowlands, 1985 (1/402); Meic Stephens, 1974-86 a heb ddyddiad (1/416-22); John [Stoddart], 1984-5 a heb ddyddiad (1/424-8); Gwyn Thomas, 1983-5 (1/439-42); Lewis Valentine, heb ddyddiad (1/471); Harri Webb, 1975 (1/478); y Fonesig Amy Parry-Williams, 1981 (1/480); D. J. Williams, 1966 a heb ddyddiad (1/482-4); Emlyn Williams, 1961-82 (1/485-8); Euryn Ogwen Williams, 1984, 1995 (1/492-3); Glanmor Williams, 1984, 1989 (1/498-9); Kyffin Williams, 1983 (1/502-4); a T. H. Parry-Williams, 1958 (1/510-11).

Llythyrau, 1941-3 a heb ddyddiad, oddi wrth Thomas Eifion Williams (1921-92), brawd Rhydwen Williams, tra'n beiriannydd yn y llynges; ynghyd ....

Llythyrau, 1941-3 a heb ddyddiad, oddi wrth Thomas Eifion Williams (1921-92), brawd Rhydwen Williams, tra'n beiriannydd yn y llynges; ynghyd â thaflen ei angladd a gynhaliwyd yn Townstal, Dyfnaint, a thoriad o deyrnged Rhydwen Williams a ymddangosodd yn Seren Cymru (trwy gwrteisi Taliesin).

Papurau gan gynnwys cyfweliad am sut aeth Rhydwen Williams ati i lunio 'Yr Arloeswr', pryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar 1946 ....

Papurau gan gynnwys cyfweliad am sut aeth Rhydwen Williams ati i lunio 'Yr Arloeswr', pryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar 1946; adroddiad am sefydlu gwasanaeth 'Granada' ym Manceinion yn y 1950au; ei anerchiad, heb ddyddiad, adeg dadorchuddio cofeb i Dafydd ap Gwilym yn Nhalyllychau; dwy ysgrif 'Chwarae pêl-droed' a 'Thing', heb ddyddiad; 'Enfys henaint', myfyrdod ar ddechrau blwyddyn, heb ddyddiad; a 'Best-seller' gan Robert Williams, Caer.

Papurau Rhydwen Williams,

  • GB 0210 RHYDWEN
  • fonds
  • 1907-1995 /

Mae'r casgliad yn cynnwys: llythyrau, 1940-1995, anfonwyd at Rhydwen Williams, llawer ohonynt yn dyddio o'r cyfnod pan oedd yn olygydd Barn; llythyrau teuluol,1941-1976; papurau personol a theuluol,1932-1995, gan gynnwys rhai dyddiaduron, rhaglenni, taflenni angladdau, tystysgrifau etc.; cerddi Rhydwen Williams, heb eu dyddio gan mwyaf; pregethau Rhydwen Williams, 1930-1984; sgriptiau radio,1950-1976, a sgriptiau eraill,1966-1984, Rhydwen Williams; papurau'n ymwneud â Jubilee Young (1887-1962) ac â marwolaeth Richard Burton yn 1984; llyfrau nodiadau a gadwyd gan Rhydwen Williams; papurau amrywiol; papurau'n ymwneud ag unigolion eraill,1920au-1983, barddoniaeth, rhyddiaith a sgriptiau amrywiol gan awduron eraill yn bennaf; deunydd printiedig amrywiol, 1943-1994. Ychwanegwyd at y papurau hyn casgliad o ohebiaeth a phapurau amrywiol a dderbyniwyd yn rhodd gan Rhydwen Williams yn 1989. = The collection comprises: letters, 1940-1995, addressed to Rhydwen Williams, many dating from the period when he was the editor of Barn; family letters, 1941-1976; personal and family papers, 1932-1995, including a few diaries, programmes, funeral service sheets, certificates etc.; poems by Rhydwen Williams, mainly undated; sermons, 1930-1984, by Rhydwen Williams; radio scripts, 1950-1976, and other scripts, 1966-1984, by Rhydwen Williams; papers relating to Jubilee Young (1887-1962) and to the death of Richard Burton in 1984; notebooks kept by Rhydwen Williams; miscellaneous papers; papers concerning other individuals, 1920s-1983, mainly poetry, prose writings and various scripts written by other authors; miscellaneous printed matter, 1943-1994. A group of correspondence and miscellaneous papers donated by Rhydwen Williams in 1989 has been added to these papers.

Williams, Rhydwen

Papurau'n ymwneud yn bennaf â marwolaeth Richard Burton yn 1984, gan gynnwys torion o'r wasg o deyrngedau a threfn yr ....

Papurau'n ymwneud yn bennaf â marwolaeth Richard Burton yn 1984, gan gynnwys torion o'r wasg o deyrngedau a threfn yr oedfa yn y gwasanaeth coffa ym Mhont-rhyd-y-fen pan roddwyd darlleniad gan Rhydwen Williams; ynghyd â'r nofel fywgraffyddol, heb ddyddiad, 'As I was young and easy. The boyhood of Richard Burton'/'The young Mr Burton' gan Rhydwen Williams yn seiliedig ar fywyd yr actor, a luniwyd ar gyfer 'Rich', cynhyrchiad 'Ffilm Cymru'; 'Birthday greetings (for Richard Burton)'; a chopi teipysgrif o deyrnged Emlyn Williams iddo yn y gwasanaeth yn St Martin's in the Fields, 1984.

Canlyniadau 41 i 60 o 90