Showing 90 results

Archival description
Papurau Rhydwen Williams,
Print preview View:

Cerddi, rhai ar ffurf torion o'r wasg, gan gynnwys 'Senghennydd'; 'Nadolig 1968'; emynau; cerddi coffa fel 'In memory of Waldo ....

Cerddi, rhai ar ffurf torion o'r wasg, gan gynnwys 'Senghennydd'; 'Nadolig 1968'; emynau; cerddi coffa fel 'In memory of Waldo Williams' ac 'Er cof am Waldo Williams'; 'Streic '82'; 'Y Picedwyr'; 'Euryn Ogwen'; 'Owen (i gyfarch fy nghyfaill Owen Edwards ar ei ymddeoliad fel Pennaeth S4C)', Mehefin 1989; 'Cyfri'r gost (ar ôl gwylio cyfweliad penigamp Angharad Thomas ag Owen Edwards)'; 'Pan gwsg y nef'; englyn 'Yr actores (Rachel Thomas - 1905-1995)'; 'Poem (for my son Huw)'; 'Gwynfor'; 'Y gwr o Gwm Cynon'; a chyfieithiadau ganddo i'r Saesneg o gerddi fel 'Ave Maria' a 'Dei Gratia', heb ddyddiadau.

Papurau'n ymwneud yn bennaf â marwolaeth Richard Burton yn 1984, gan gynnwys torion o'r wasg o deyrngedau a threfn yr ....

Papurau'n ymwneud yn bennaf â marwolaeth Richard Burton yn 1984, gan gynnwys torion o'r wasg o deyrngedau a threfn yr oedfa yn y gwasanaeth coffa ym Mhont-rhyd-y-fen pan roddwyd darlleniad gan Rhydwen Williams; ynghyd â'r nofel fywgraffyddol, heb ddyddiad, 'As I was young and easy. The boyhood of Richard Burton'/'The young Mr Burton' gan Rhydwen Williams yn seiliedig ar fywyd yr actor, a luniwyd ar gyfer 'Rich', cynhyrchiad 'Ffilm Cymru'; 'Birthday greetings (for Richard Burton)'; a chopi teipysgrif o deyrnged Emlyn Williams iddo yn y gwasanaeth yn St Martin's in the Fields, 1984.

Papurau gan gynnwys cyfweliad am sut aeth Rhydwen Williams ati i lunio 'Yr Arloeswr', pryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar 1946 ....

Papurau gan gynnwys cyfweliad am sut aeth Rhydwen Williams ati i lunio 'Yr Arloeswr', pryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar 1946; adroddiad am sefydlu gwasanaeth 'Granada' ym Manceinion yn y 1950au; ei anerchiad, heb ddyddiad, adeg dadorchuddio cofeb i Dafydd ap Gwilym yn Nhalyllychau; dwy ysgrif 'Chwarae pêl-droed' a 'Thing', heb ddyddiad; 'Enfys henaint', myfyrdod ar ddechrau blwyddyn, heb ddyddiad; a 'Best-seller' gan Robert Williams, Caer.

Results 21 to 40 of 90