Showing 94 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Capel Berea, Glanadda, Bangor
Print preview View:

Cofnodion ariannol

Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1856-2000, gan gynnwys cyfrifon, 1866-1901, llyfrau cyfraniadau at y weinidogaeth, 1886-1992, llyfrau cyfrifon dadansoddiadol, 1902-1998, llyfrau'r trysorydd, 1932-2000, llyfrau ardreth yr eisteddleoedd, 1933-1957, llyfrau ysgrifennydd yr ysgol sul, 1940-1982, a phapurau a dogfennau amrywiol, 1856-1958.

Codi arian i glirio'r ddyled

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1904-1907, yn ymwneud â nodachfa a gynhaliwyd er mwyn codi arian i geisio diddymu'r ddyled enfawr a fodolai ar y pryd, ynghyd â rhai gwahoddiadau ac atebion a chopi o'r gyfriflen derbyniadau a thaliadau'r nodachfa a gynhaliwyd ym 1902.

Gosod yr ysgoldy

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1955-1958, yn ymwneud â gosod a gwresogi'r festri ar gyfer clinig allanol Ysbyty Dewi Sant, rhai ohonynt yn cyfeirio at broblem gordwymo a'r niwed a achoswyd i'r organ. Ymhlith y gohebwyr mae swyddogion capel Berea, aelodau pwyllgor rheoli ysbyty'r Carnarvon and Denbigh a chwmni J. W. Walker & Sons, gwneuthurwyr organau. Ceir hefyd gopi o gytundeb, 3 Medi 1956, rhwng ymddiriedolwyr capel Berea a'r Gweinidog Iechyd ynghylch gosod yr ysgoldy.

Papurau amrywiol

Mae'r grŵp yn cynnwys siart, 1897, yn arddangos lluniau o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru; papurau'n ymdrin â throsglwyddo aelodaeth i gapel Berea oddi wrth gapeli eraill, 1964-1980; rhaglenni gwasanaethau dinesig a gynhaliwyd o fewn y capel, 1964-1999; a grŵp sylweddol o nodiadau pregethau a phapurau eraill, 1936-1976.

Results 41 to 60 of 94