Cofnodion Pwyllgor yr Adeiladau
- G3
- Series
- 1901-1907, 1947-1956
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrolau â chofnodion Pwyllgor Adeiladau'r capel.
Cofnodion Pwyllgor yr Adeiladau
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrolau â chofnodion Pwyllgor Adeiladau'r capel.
Mae'r gyfres yn cynnwys un cytundeb, 15 Awst 1942, rhwng ymddiriedolwyr Capel Berea, Bangor, a Chyngor Sir Gaernarfon yn ymwneud â thenantiaeth ysgoldy a darlithfa Capel Berea, Bangor, er mwyn eu defnyddio fel atodiad i ysbyty'r sir, Bangor, yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Llyfr Cofnodion Cyfarchion Llywydd y Mis
Mae'r gyfres yn cynnwys manylion am gyfarchion a anfonwyd gan lywydd y mis at aelodau'r capel ynghyd â nodiadau am amgylchiadau'r anfon.
Llyfrau casgliadau'r weinidogaeth
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrolau'n cofnodi cyfraniadau at y weinidogaeth, 1886-1992.
Llyfr cyfrifon: casgliadau amrywiol y capel
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr cyfrifon, 1902-1934, â manylion am gyfansymiau y casgliadau amrywiol a gynhaliwyd o fewn yr eglwys.
Mae'r gyfres yn cynnwys dwy gyfrol, 1932-2000, a gadwyd gan drysorydd y capel yn nodi manylion am dderbyniadau a thaliadau.
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, dogfennau a phapurau ariannol amrywiol, 1856-1958, yn ymdrin â materion amrywiol.
Cofnodion Pwyllgor yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrolau â chofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Ysgol Sul y capel.
Cofnodion Pwyllgor y Blaenoriaid
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion Pwyllgor Blaenoriaid y capel, 1904-1972.
Mae'r gyfres yn cynnwys amlen o ohebiaeth a phapurau amrywiol, 1967-1968, yn ymdrin â galwad y Parch. David Lloyd Williams i fugeilio capel Berea. Yn eu plith ceir cofnodion pwyllgor bugeiliol yr ofalaeth, Rhagfyr 1967-Mawrth 1968.
Mae'r gyfres yn cynnwys un gyfrol o gyfrifon cyffredinol y capel, sef derbyniadau a thaliadau, 1866-1901, ynghyd â mân gyfrifon eraill.
Llyfrau cyfrifon dadansoddiadol
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cyfrifon, 1901-1998, â manylion dyddiol am dderbyniadau a thaliadau o gronfa'r eglwys.
Mae'r gyfres yn cynnwys un gyfrol, 1955-1957, a gadwyd gan drysorydd y capel yn nodi'r cyfraniadau at wahanol gronfeydd sef yr Ysgol Sul, amlenni dyled, cyfarfodydd pregethu etc.
Mae'r gyfres yn cynnwys cofrestri, 1866-1974, sydd yn rhoi manylion am fedyddiadau, derbyniadau i gymundeb, rhestri aelodau a manylion am ymadawiadau a marwolaethau.
Mae'r gyfres yn cynnwys rhaglenni sefydlu gweinidogion Capel Berea, 1947, 1968 a 1989.
Mae'r gyfres yn cynnwys un gyfrol â chofnodion pwyllgor gwaith y capel, 1948-1954.
Llyfrau ardreth yr eisteddleoedd
Mae'r gyfres yn cynnwys dau lyfr ardreth yr eisteddleoedd.
Llyfrau ysgrifenyddion yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau ysgrifenyddion yr Ysgol Sul, 1940-1982, yn cofnodi'r nifer a oedd yn bresennol a'u cyfraniadau at y capel bob Sul.
'Llyfr Cofrestriad' yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres yn cynnwys un gyfrol sydd yn cofnodi aelodau o Ysgol Sul Berea, ynghyd â manylion am eu cyfeiriadau, eu dosbarthiadau a'u rhesymau dros ymadael.