Showing 94 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Capel Berea, Glanadda, Bangor Welsh
Print preview View:

Gosod yr ysgoldy

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1955-1958, yn ymwneud â gosod a gwresogi'r festri ar gyfer clinig allanol Ysbyty Dewi Sant, rhai ohonynt yn cyfeirio at broblem gordwymo a'r niwed a achoswyd i'r organ. Ymhlith y gohebwyr mae swyddogion capel Berea, aelodau pwyllgor rheoli ysbyty'r Carnarvon and Denbigh a chwmni J. W. Walker & Sons, gwneuthurwyr organau. Ceir hefyd gopi o gytundeb, 3 Medi 1956, rhwng ymddiriedolwyr capel Berea a'r Gweinidog Iechyd ynghylch gosod yr ysgoldy.

Cytundeb cyfreithiol

Mae'r gyfres yn cynnwys un cytundeb, 15 Awst 1942, rhwng ymddiriedolwyr Capel Berea, Bangor, a Chyngor Sir Gaernarfon yn ymwneud â thenantiaeth ysgoldy a darlithfa Capel Berea, Bangor, er mwyn eu defnyddio fel atodiad i ysbyty'r sir, Bangor, yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Results 41 to 60 of 94