Showing 33 results

Archival description
Papurau Glyn M. Ashton, file
Print preview View:

Nodiadau ar lawysgrifau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llyfr nodiadau ar lawysgrifau LlGC 7541-5, 'Bibliography of Monmouthshire' gan William Haines. Yn darllen o'r cefn i'r blaen yn yr un llyfr nodiadau mae copi llaw o feirniadaeth S.H. Davies ar gystadleuaeth yn ymwneud â llyfryddiaeth Cymru. Yn y ffeil hefyd, mae copïau llaw o lawysgrifau LLGC o lythyrau Charles Ashton, ac erthygl yn dwyn y teitl 'Englyn gan R. Williams-Parry'.

Clywais...

Mae'r ffeil hon yn cynnwys penodau ynglŷn ag areithwyr neu siaradwyr cyhoeddus Cymru, megis Gunstone Jones, T.J. Morgan, Harri Gwynn a G.J. Williams.

'Gemau Hwngaria'

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o'r llyfr Gemau Hwngaria a baratowyd ar y cyd rhwng Glyn M. Ashton a Tamâs Kabdebo. Ceir drafft o'r rhagymadrodd i'r llyfr a chyfieithiadau i'r Gymraeg o straeon gwerin Hwngari.

Nodiadau ar lenorion

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau ar Gwallter Mechain, Thomas Price (Carnhuanawc), William Owen Pughe, Iolo Morganwg, John Jones, Glan-y-gors, Dafydd Ddu Eryri, Robert Jones, Rhos-lan, a William Ellis Jones 'Y Bardd neu y meudwy Cymreig'. Yma hefyd mae nodiadau ar draethawd M.A. Richard Griffith Owen 'Brwydr y ddau gyfansoddiad' ac adolygiad o 'Barn ar Egwyddorion Llywodraeth', Emyr Wyn Jones, yn ogystal â dalennau llyfryddiaethol.

Nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys ffotogopi a dau gopi llaw o ddogfen Ladin o ganol y ddeuddegfed ganrif a deitlwyd 'Unde ffloreum Illiricum' ac sydd yn sôn am Galfridus; nodiadau ynglŷn â Maredydd ap Rhys; erthygl yn dwyn y teitl 'Religious Dissent in Wales on the eve of the Methodist revival' gan y Parch. Noel Evans; esboniadau beiblaidd; nodiadau yn ymwneud â Peter Williams, 1723-1796, nodiadau ieithyddol; ac erthygl yn dwyn y teitl 'Deng Mlynedd' yn ymwneud â'r Methodistiaid Wesleaidd rhwng 1811 ac 1820.

Nodiadau ar y Beibl

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Esboniadau beiblaidd 1801-25', nodiadau ar Feibl Thomas Charles, 1799, a nodiadau pellach, yn bennaf ar gyhoeddi beiblau. Yn y ffeil hefyd mae nodiadau ar englynion y misoedd, ar Gymraeg Canol, ac ar 'Blodau Arfon', Dewi Wyn o Arfon.

Llyfrau nodiadau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys map o ardal Pontypridd a'r Barri; llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth, gan gynnwys nodiadau ar fesurau'r canu rhydd, yn ogystal â nodiadau ar gynnwys llawysgrifau LlGC, a llawysgrifau eraill. Mae amryw o'r nodiadau ar gefnau llythyrau a nodiadau eraill sydd hefyd yn ymwneud yn bennaf â llawysgrifau.

Nodiadau llenyddol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys deg llyfr ateb arholiad ag ynddynt nodiadau ar William Richards, Lynn (1749-1818). Yn darllen i'r cyfeiriad arall mae nodiadau ar 'Gerdd-dafod Pantycelyn'.

Esboniadau Beiblaidd

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau ac esboniadau beiblaidd yn bennaf, gan gynnwys rhai ar Lyfr y Datguddiad, Marc, Luc, Ioan, Llyfr y Pregethwr a Llyfr Jôb. Yn y ffeil hefyd mae copïau llaw o emynau o ffynhonnell lawysgrif ynghyd â llungopïau o 'Y Garreg Wen' gan Timothy Evans.

Rhyddiaith amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys storïau yn dwyn y teitlau 'Trip Ysgol Sul' a 'Datgelu', ynghyd â phytiau amrywiol o ryddiaith.

Rhigymu

Mae'r ffeil hon yn cynnwys ffolder o gerddi amrywiol ac ambell ddarn creadigol o ryddiaith yn eu mysg.

Dehongli breuddwydion

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llyfr nodiadau a nodiadau eraill mewn Cymraeg, Almaeneg, a Saesneg yn ymdrin â dehongli breuddwydion, ynghyd â chopïau o destunau llawysgrif a rhestrau o fotifau breuddwydion. Yn rhan o'r ffeil ceir llyfr Almaeneg Sonderabruck aus dem..., 1910. Darlledodd Glyn M. Ashton sgwrs radio o'r enw 'Dehongli Breuddwydion', Rhagfyr 1954.

Results 1 to 20 of 33