Dangos 84 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Glyn M. Ashton, Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Dehongli breuddwydion

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llyfr nodiadau a nodiadau eraill mewn Cymraeg, Almaeneg, a Saesneg yn ymdrin â dehongli breuddwydion, ynghyd â chopïau o destunau llawysgrif a rhestrau o fotifau breuddwydion. Yn rhan o'r ffeil ceir llyfr Almaeneg Sonderabruck aus dem..., 1910. Darlledodd Glyn M. Ashton sgwrs radio o'r enw 'Dehongli Breuddwydion', Rhagfyr 1954.

Cynnyrch creadigol

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o nofelau, straeon byrion a dramâu, ynghyd â rhyddiaith a cherddi amrywiol.

'Cyfeillion'

Mae'r ffeil hon yn cynnwys sgript drama deledu wedi'i hamgáu wrth lythyr oddi wrth y BBC yn gwrthod ei chomisiynu.

Clywais...

Mae'r ffeil hon yn cynnwys penodau ynglŷn ag areithwyr neu siaradwyr cyhoeddus Cymru, megis Gunstone Jones, T.J. Morgan, Harri Gwynn a G.J. Williams.

Carolau a rhestr ddarllen

Mae'r ffeil hon yn cynnwys copïau llaw o lawysgrifau NLW a llawysgrifau eraill, yn cynnwys carolau. Yn rhan o'r ffeil hefyd mae bwndel o gardiau mynegai yn dwyn y teitl 'Darllen Cyffredinol'.

Canlyniadau 61 i 80 o 84