Dangos 84 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Glyn M. Ashton, Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth W. Ambrose Bebb, Gomer Roberts, Prys Morgan, T. H. Parry Williams, yr Athro Gwyn Jones, Cynan a G. J. Williams.

Llyfrau nodiadau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys map o ardal Pontypridd a'r Barri; llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth, gan gynnwys nodiadau ar fesurau'r canu rhydd, yn ogystal â nodiadau ar gynnwys llawysgrifau LlGC, a llawysgrifau eraill. Mae amryw o'r nodiadau ar gefnau llythyrau a nodiadau eraill sydd hefyd yn ymwneud yn bennaf â llawysgrifau.

Llenyddiaeth genhadol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o erthygl yn ymwneud â llenyddiaeth genhadol, 1801-1825, a ysgrifennwyd ar gefnau llungopïau o lyfr o esboniadau beiblaidd.

'Gemau Hwngaria'

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o'r llyfr Gemau Hwngaria a baratowyd ar y cyd rhwng Glyn M. Ashton a Tamâs Kabdebo. Ceir drafft o'r rhagymadrodd i'r llyfr a chyfieithiadau i'r Gymraeg o straeon gwerin Hwngari.

Esboniadau Beiblaidd

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau ac esboniadau beiblaidd yn bennaf, gan gynnwys rhai ar Lyfr y Datguddiad, Marc, Luc, Ioan, Llyfr y Pregethwr a Llyfr Jôb. Yn y ffeil hefyd mae copïau llaw o emynau o ffynhonnell lawysgrif ynghyd â llungopïau o 'Y Garreg Wen' gan Timothy Evans.

'"Ego sum qui sum": Volume Three. A Dissertation on the Genealogy of the Edwards Family of Spotsylvania County, Virginia, 425 ...,

'"Ego sum qui sum": Volume Three. A Dissertation on the Genealogy of the Edwards Family of Spotsylvania County, Virginia, 425 A.D. in Wales to date in America...Ancient Welsh History Researched by Doctor G.M. Ashton, MA....Written and Compiled by James Eldon Edwards...', 1963 [2 gyfrol]; ynghyd â phapurau perthnasol.

'Drych yr amseroedd'

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o ragymadrodd Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhos-lan, a olygwyd gan Glyn M. Ashton yn ogystal â nodiadau cyffredinol ar Robert Jones. Ar gefn y rhagymadrodd mae hefyd erthygl neu ddarlith ar lenyddiaeth Cymru yn dwyn y teitl 'Pupur a Halen'.

Canlyniadau 41 i 60 o 84