Dangos 81 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau J. Gwyn Griffiths,
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhydwen Williams,

Toriad o’r Cymro, 1970, yn nodi y dyfarnwyd ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau iddo, enwebiad ar gyfer gradd MA er anrhydedd, Y Brifysgol Agored, 1983, a Rhaglen deyrnged Barddas i'r Prifardd Rhydwen Williams (Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990) a luniwyd gan J. Gwyn Griffiths.

Pedwar canmlwyddiant cyfieithu'r Beibl, 1988,

Darlithoedd a nodiadau a baratowyd ganddo ar gyfer cyfres o 6 darlith (Adran Addysg Oedolion Coleg Prifysgol Abertawe), ynghyd â'r 'Cyfieithiad newydd o'r Testament Newydd', darlith flynyddol Coleg y Bedyddwyr, Bangor, 1975, a chopi o Seren Gomer, Gaeaf 1975, yn cynnwys ei erthygl 'Y cyfieithiad Cymraeg newydd o'r Testament Newydd II'.

Papurau personol,

Llythyrau, papurau'n ymwneud â'i yrfa yn y Brifysgol a phapurau'n adlewyrchu'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, 1933-[1999].

Papurau llenyddol,

Papurau llenyddol, 1948-2002, gan gynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a phroflenni rhai o'i gyhoeddiadau, 1970-1997, erthyglau, adolygiadau, beirniadaethau a phapurau'n ymwneud â'i gyfraniadau i'r Cydymaith.

Papurau J. Gwyn Griffiths,

  • GB 0210 JGWYNG
  • fonds
  • 1926, 1933-2001 /

Papurau personol, proffesiynol a llenyddol J. Gwyn Griffiths, 1926-2001, gan gynnwys llythyrau oddi wrth gyfeillion, ysgolheigion a llenorion. Ceir papurau'n ymwneud â'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac fel adolygydd llyfrau, ynghyd â rhai o bapurau ei wraig Kate Bosse-Griffiths a'i frawd D. R. Griffith.

Griffiths, John Gwyn.

Manion JGG,

Adolygiadau o lyfrau, sylwadau ar gynnyrch llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol, llythyrau at y wasg, [1942]-[1989], ynghyd â llythyrau a thorion yn ymwneud â'r carcharor gwleidyddol John Jenkins, 1972-1973.

Llythyrau,

Llythyrau, 1953-[1999], gan gynnwys rhai oddi wrth Bleddyn J. Roberts, Katrin [Kate Bosse-Griffiths], Iorwerth Jones, Prys Morgan, Aneirin Talfan Davies, Mathonwy Hughes, R. Brinley Jones, Gwilym R. Jones, Gwilym Rees Hughes, Gareth [Alban Davies] (2), D. Ellis Evans (2), Melfyn R. Williams, Bobi Jones (2), John Tudno Williams (2), Brinley Rees, Dafydd Orwig (3), [D.] Myrddin [Lloyd], Cyril Williams (4), Gwilym H. Jones (3), W. D. Davies (4), Marian Henry Jones (5), Euros [Bowen], Nigel Jenkins, Gwilym Ll[oyd] Edwards (2), Alan Llwyd, Telfryn [Pritchard] (5), W. Eifion Powell, Cedric Maby, Mari Ellis, Gerald Morgan, Dafydd Islwyn, Ned Thomas (2), Alun R. Jones (2), Simon Brooks, Rob[at] [Gruffudd], D. Densil Morgan, Pennar [Davies] (2) ac Aneirin [Talfan Davies]. Ceir drafftiau o rai o lythyrau J. Gwyn Griffiths ar ddiwedd y rhediad.

Roberts, Bleddyn J. (Bleddyn Jones)

Llythyrau,

Llythyrau, 1946-1997, gan gynnwys rhai oddi wrth Rhydwen [Williams], Gwynfor Evans, Kate Roberts (3), John Rowlands, John Emyr, Saunders Lewis, Densil Morgan, R. [Tudur Jones] (3), Derwyn Morris Jones (2), Ceri Davies (1) a D. J. Williams (3).

Williams, Rhydwen.

Llythyrau at y wasg,

Teipysgrifau gan mwyaf o lythyrau at olygyddion Y Cymro, Y Faner, Western Mail, Guardian ac eraill, ynghyd â rhai torion o'r wasg.

Llyfryddiaeth,

Rhestr deipysgrif o'i weithiau printiedig, 1944-1986, a'r cylchgronau a olygwyd ganddo, [1986], ynghyd â dau gytundeb cyhoeddi, 1970, 1981.

'Lle pyncid cerddi Homer',

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i erthygl a gyhoeddwyd yn Barn, Mawrth 1997, gan gynnwys llythyr oddi wrh Ceri Davies, 1996, a chopi o ddarlith John Ellis Jones, 'Lle pyncid cerddi Homer a Virgil', darlith a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ac a gyhoeddwyd yn [1996] .

Davies, Ceri.

Canlyniadau 21 i 40 o 81