Dangos 68 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau J. Gwyn Griffiths, ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Dail pren' : y cysodiad cyntaf,

Llythyrau, [1956]-[1965], oddi wrth Waldo Williams, [J. E.] Caerwyn [Williams], 1956-1991, llythyr oddi wrth Damian Walford Davies, 1998, a thorion o'r wasg, yn ymwneud â'i erthygl ar Waldo Williams a gyhoeddwyd yn Taliesin, 1998, ynghyd â chopi teipysgrif o'r erthygl.

Davies, Ceri.

Dürrenmatt,

Drafft anghyflawn o'i erthygl 'Argraffiadau o Dürrenmatt', ynghyd â chopi o'r Faner, 28 Hydref 1977, yn ei chynnwys, a'i erthygl 'Rhai o gampau Dürrenmatt' a gyhoeddwyd yn Barn, Mai 1992 fel 'Dürrenmatt y dychanwr'.

Etholiadau,

Llyfr cyfrifon Cangen Plaid Cymru, Abertawe, 1960-1964, a llyfrau nodiadau yn ymwneud â threfniadau etholiadau lleol yn ardal Abertawe, 1967-1972.

Etholiadau,

Anerchiadau etholiadol J. Gwyn Griffiths pan fu’n ymgeisydd ar ran Plaid Cymru yn etholiadau cyffredinol 1959 a 1964 (Etholaeth Gŵyr), etholiad trefol Abertawe, 1969, ac etholiad dinesig Abertawe, 1970, ynghyd â thorion o'r wasg.

Etholiadau,

Llythyrau at y wasg a ysgrifennwyd ganddo fel Swyddog y Wasg, Plaid Cymru, a thorion (Chwefror 1974) o'r South Wales Evening Post yn bennaf, 1973-1974, yn ymwneud ag etholaeth Gorllewin Abertawe yn y cyfnod yn arwain at Etholiad Cyffredinol 1974.

Gradd DLitt Euros Bowen,

Cais J. Gwyn Griffiths i anrhydeddu Euros Bowen gyda gradd er anrhydedd yn 1984 [fe'i derbyniodd yn 1986], gan gynnwys llythyrau oddi wrtho, Glanmor Williams, B. F. Roberts, Caerwyn Williams, Bedwyr [Lewis Jones] a Bobi Jones, ynghyd ag adolygiad J. Gwyn Griffiths, [1991], o gyfieithiad Euros Bowen o Philoctetes gan Sophocles.

Grahame Davies,

Llythyr oddi wrth Grahame Davies yn ymwneud â llunio The chosen people : Wales and the Jews (Pen-y-bont ar Ogwr, 2002) a olygwyd ganddo, ynghyd â rhestr o lenorion o Gymru a ysgrifennodd ar bynciau Iddewig ac awduron â chefndir Iddewig a ysgrifennodd ar bynciau Cymreig.

Davies, Grahame.

Hermann Hesse,

Drafft o'i gyfrol arfaethedig 'Hermann Hesse : Nofelydd a Bardd', ynghyd â llythyrau oddi wrth y Cyngor Llyfrau a Chyngor Celfyddydau Cymru, 1984, a Dafydd Glyn Jones, 1987, yn gwrthod y gwaith.

Jones, Dafydd Glyn.

Kate Bosse-Griffiths,

Erthyglau ac adolygiadau a luniwyd ganddi, mewn teipysgrif ac ar ffurf torion, ynghyd â darlith a draddodwyd gan Marion Löffler mewn cynhadledd yn Bonn, 1999, a'i chyhoeddi yn 2001.

Bosse-Griffiths, Kate, 1910-1998.

Leopold Kohr,

Cofnod a luniwyd am Leopold Kohr ar gyfer yr ail argraffiad o'r Cydymaith (Caerdydd, 1997) mewn llawysgrif a theipysgrif, ynghyd â phamffled An Austrian looks at Welsh Nationalism [c. 1960] ganddo, toriad o Barn, Rhagfyr 1970, yn cynnwys ei atgofion 'Y Nadolig yn Awstria' ac ysgrifau coffa, 1994.

Lewis Valentine,

Teyrnged 'Lewis Valentine fel llenor' ganddo a gyhoeddwyd yn Barn, Ebrill 1986, ynghyd â chopi drafft o ragymodrodd John Emyr (gol) i Dyddiadur Milwr (Llandysul, 1988) a llythyr oddi wrtho, 1987.

Emyr, John.

'Lle pyncid cerddi Homer',

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i erthygl a gyhoeddwyd yn Barn, Mawrth 1997, gan gynnwys llythyr oddi wrh Ceri Davies, 1996, a chopi o ddarlith John Ellis Jones, 'Lle pyncid cerddi Homer a Virgil', darlith a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ac a gyhoeddwyd yn [1996] .

Davies, Ceri.

Llyfryddiaeth,

Rhestr deipysgrif o'i weithiau printiedig, 1944-1986, a'r cylchgronau a olygwyd ganddo, [1986], ynghyd â dau gytundeb cyhoeddi, 1970, 1981.

Canlyniadau 21 i 40 o 68