
Dangos 106 canlyniad
Disgrifiad archifol- 42.
- Ffeil
- 1956-1990.
Tystysgrifau WRN am ennill mewn Eisteddfodau Cenedlaethol, 1956-69; ac am ennill ar y salm gyfoes yng Ngwyl Gerdd Dant Pwllheli a'r Cylch 1988; a'r salm foliant i'r dysgwyr, Gly Gerdd Dant Bangor 1990; ynghyd â thystysgrif wedi iddo gael ei dderbyn i Urdd Derwydd yn 1969.
- 186.
- Ffeil
- 1914-1998.
Tystysgrif geni W. Rhys Nicholas, 1914, tystysgrif priodas William Rhys Nicholas ac Elizabeth Dilys Evans, 1946, a thystysgrif ei farwolaeth, 1996; llythyr, 1952, yn galw arno i fod yn weinidog ar eglwysi Horeb a Bwlchygroes, Llandysul; tystysgrif am fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth 'chwech o emynau gwreiddiol' yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 1950; tystysgrif a gyflwynwyd iddo yn [1978] pan ddyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Goleg y Brifysgol, Abertawe; darlun ohono, [?1964x1996]; tudalen o Barddas, [121, 1987], yn cynnwys ei erthygl ar Crwys, 'Bardd wrth ei waith'; llungopi o Y Llan, Tachwedd 1996, yn cynnwys llythyr o werthfawrogiad 'Cofio'r Parchg. W. Rhys Nicholas' gan Enid Roberts; llungopi o 'Cofio W. Rhys Nicholas' a ymddangosodd ym mhapur bro Y Cardi bach, 1996; llungopïau o Dawn, Cylchgrawn Myfyrwyr Coleg y Brifysgol, Abertawe, Ebrill 1942, yn cynnwys cerddi a darn o ryddiaith 'Pysgota' ganddo; ynghyd â thaflen Oedfa'r Bore, Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr, 1998, pan ganwyd emyn W. Rhys Nicholas, 'Fy enaid gogonedda'.
- 51.
- Ffeil
- 1970-1972.
Torion papur newydd, 1932-96 a heb ddyddiad,
- 46.
- Ffeil
- [1932]-[1996].
Torion o'r wasg a llyfrau lloffion,
- 46-54.
- Cyfres
- 1932-[1996].
- 90.
- Ffeil
- 187.
- Ffeil
- 1996-1999.
Teyrngedau i W. Rhys Nicholas o'r wasg gan gynnwys teyrnged Derwyn Morris Jones a gyhoeddwyd ym mhapur bro Yr Hogwr, Rhagfyr 1996 (yn seiliedig ar yr hyn a draddodwyd ganddo yn yr angladd); taflen y gwasanaeth angladd, 2 Hydref 1996, a'r gwasanaeth coffa, 23 Tachwedd [1996]; adroddiad am ddadorchuddio cofeb iddo yng Nghapel y Tabernacl, Porth-cawl, 1997; a chopïau o Mae'n wir (Caernarfon, 1996) a Rhown foliant i'r goruchaf Dduw (Caernarfon, 1999), y geiriau Cymraeg gan W. Rhys Nicholas.
- 89.
- Ffeil
- [1991].
Teipysgrif yn ymdrin â hanes tlodi yn sir Forgannwg gan Dr J. H. Thomas, ynghyd â chrynodeb o'i sgwrs 'The Workhouse and its background' wrth Glwb Probus, Porth-cawl, Mai 1991, a llungopi o'i erthygl 'Yr Haearn yn Ein Cyfansoddiad', heb ddyddiad.
- 19.
- Ffeil
- 1995.
Teipysgrif darlith WRN 'Canmlwyddiant y Caniedydd Cynulleidfaol (1895-1995)' a draddodwyd yng nghapel Heol Awst, Caerfyrddin, Mehefin 1995, ac i'r Cylch Llenyddol, Llyfrgell Porth-cawl, Tachwedd 1995, ynghyd â phoster yr achlysur olaf.
- 81.
- Ffeil
- [1939x1963].
Teipysgrif 'Cyfrol Goffa i weinidogion yr Annibynwyr Cymraeg a fu'n gwasanaethu yng nghyfundeb De Morgannwg hyd 1939' (teipiwyd gan J. Seymour Rees).
- 57.
- Ffeil
- [1961]-[1978].
Sgriptiau radio oedfaon a ddarlledwyd o Horeb, Llandysul, Awst 1961, Tabernacl, Porth-cawl, Awst 1978, ac o Landysul, heb ddyddiad, o dan arweiniad WRN.
Sgript deledu 'Dilyn Afon Taf', 1973, yng nghwmni WRN,
- 59.
- Ffeil
- 1973.
- 187.
- Is-fonds
- [1996]-1999.