Showing 27 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb series
Print preview View:

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron Ambrose Bebb, yn bennaf o'r cyfnod yr oedd yn byw ym Mangor ac yn ddarlithydd ar staff y Coleg Normal. Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel, a'i gyfnodau yn Ffrainc a Llydaw, gyda sylwadau ar ddigwyddiadau cyfoes, yr Ail Ryfel Byd, a dyddiau cynnar Plaid Cymru. Ar y cyfan, mae'r cofnodion yn y dyddiaduron yn eithaf llawn, ac eithrio o 1930 hyd 1936. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg o Ionawr hyd Ragfyr oni nodir yn wahanol.

'Y March Gwyn'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a sgriptiau terfynol o gyfieithiad Cymraeg Ambrose Bebb o 'The White Steed', drama gan Paul Vincent Caroll a gyhoeddwyd gan Macmillan ym 1944, [1944]-[1945].

Caroll, Paul Vincent,

'Y Beibl'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau diwygiedig a theipysgrifau terfynol o sgript radio ar y Beibl, 1948.

'Y Stâr Fach'

Llawysgrif erthygl hunangofiannol yn dwyn y teitl 'Y Stâr Fach' a gyhoeddwyd yn Blodau'r Ffair ym 1954.

Yr Argyfwng

Llawysgrifau a phroflenni yn ymwneud â chyhoeddi Yr Argyfwng a gyhoeddwyd yn Llandybïe ym 1956.

Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn.

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd wedi ei grynhoi gan Ambrose Bebb ar gyfer 'Hanes yr Achos' ym Melinbyrhedyn ynghyd â chopi llawysgrif o'r gwaith. Er i Ambrose Bebb ysgrifennu hanes y Methodistiaid ym Melinbyrhedyn a Darowen ar achlysur canmlwyddiant yr achos yno yn 1954, oherwydd amgylchiadau ar y pryd ni chyhoeddwyd mo'r gwaith. Ymddangosodd detholiad ohono yn Y Drysorfa ym 1965-1966 wedi ei olygu gan y Parchedig Ieuan Lloyd, Rhosllannerchrugog, dan y teitl 'Beerseba (Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn)'.

'Y Diwygiad Protestannaidd'

Mae'r gyfres hon yn cynnwys proflenni 'Achosion Cyffredinol', sef y rhan gyntaf o erthygl a ymddangosodd mewn dwy ran dan y teitl 'Y Diwygiad Protestannaidd' yn Y Llenor, 1941.

'John ap John'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif y ddwy erthygl olaf (gyda'r tudalen cyntaf yn eisiau) mewn cyfres o erthyglau byr ar fywyd a gwaith John ap John, y Crynwr a gyhoeddwyd yn Cymru, 61-63 (1921-1922), sef yng nghyfrol 63 (1922), 46-8, 74-5.

John ap John, 1625?-1697

'Canada ac Awstralia ym Marddoniaeth Cymru'

Mae'r gyfres yn cynnwys proflenni yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru', sef y rhan gyntaf o erthygl mewn dwy ran a gyhoeddwyd yn y Y Genhinen, 1922 a 1924, yn dwyn y teitl 'Yr Ymerodraeth Brydeinig ym Marddoniaeth Cymru'. Mae peth gwahaniaeth rhwng y paragraff cyntaf a'r fersiwn cyhoeddedig, ond ac eithrio hynny maent yr un fath â'i gilydd. Fe all yr erthygl fod yn seiliedig ar ran o'i draethawd ymchwil, tt. 323-420 yn A1/2.

Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru 1485-1603

Copïau llawysgrif a theipysgrif o Cyfnod y Tuduriaid 1485-1603. Ymddengys o wynebddalen y copi teipiedig (LH2/5) fod Bebb wedi cynnig, neu yn bwriadu cynnig, y gwaith mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Fe gyhoeddwyd y gwaith yn Wrecsam yn 1939.

Cyfieithiadau o gerddi

Cyfieithiadau Cymraeg o gerddi gan y bardd Llydaweg Yann-Ber Kalloc'h wedi eu dyddio rhwng 1910 a 1914; 'Ar ein deulin', 'Yn Llydaw mae fy Nghalon', 'Barn Fi' (2), 'Priod y Bardd' a 'Gweddi Mewn Lleoedd Tywyll'.

Calloc'h, Yan Ber, 1888-1917

Torion papur newydd

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llungopïau o dorion papur newydd yn cynnwys adolygiadau o'i gyhoeddiadau yn bennaf, 1919-1949.

Results 1 to 20 of 27