Showing 22 results

Archival description
Papurau David Bowen a Ben Bowen, series
Advanced search options
Print preview View:

Pregethau

Mae'r gyfres yn cynnwys pregethau Cymraeg a Saesneg, ynghyd â rhestr o'i bregethau, pregethau i'r Chwiorydd, i'r plant ac ar gyfer angladdau, 1905-1954.

Cofnodion a chyfrifon amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cofnodion a chyfrifon Pwyllgor y Pregethwyr Ieuanc, Urdd y Seren Fore, Undeb y Cymdeithasau Cymreig, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru a'r 'Aged and Infirm Ministers', 1919-1941.

Deunydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Bethel, Aberhonddu, 1854-[c.1945], a Chapel Horeb, Pum-hewl, Llanelli, [1910]-[1939], ynghyd â phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru, Seren y Plant a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.

Emynau

Mae'r gyfres yn cynnwys emynau David Bowen a geiriau ac alawon a gasglwyd ganddo ar gyfer ei gyhoeddiadau. Cyhoeddwyd rhai o'r emynau yn Pictwr a Phennill, Emynau Pen y Mynydd, Salmau'r Plant ac yn Llawlyfr Urdd y Seren Fore.

Golygu Ben Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys copïau o lythyrau gan Ben Bowen, gwaith 'anghyhoeddiedig' Ben Bowen yn Seren yr Ysgol Sul, nodiadau bywgraffyddol a luniwyd gan David Bowen a deunydd gweinyddol yn ymwneud â chyhoeddi a gwerthu llyfrau gan Ben Bowen ac amdano.

Bowen, Ben, 1878-1903

Toriadau papur newydd

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrolau o doriadau papur newydd ar bynciau yn cynnwys Ben Bowen, llenyddiaeth Myfyr Hefin a Chapel Horeb, Pump Heol, Llanelli. Y mae yma hefyd fwndel o doriadau amrywiol. Mae'r toriadau papurau newydd yn cynnwys y Llanelly Mercury, lle bu'n olygydd y golofn Gymraeg, Seren Cymru a Seren yr Ysgol Sul, papur a fu'n golygu am 35 mlynedd. Ceir yma hefyd rhai llythyrau, rhaglenni a deunydd amrywiol wedi eu cwmpasu yn y cyfrolau.

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys 'Dyddlyfr David Bowen', gyda thoriadau papur newydd amdano ef a'i deulu. Sonnir am ddigwyddiadau personol ynghyd â'r cyfarfodydd crefyddol a diwylliannol a fynychai.

Llythyrau at David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at David Bowen, 1890-1955, sy'n ymwneud yn bennaf â'i waith fel awdur colofn papur newydd, a golygydd cylchgronau amrywiol a chyhoeddiadau o waith Ben Bowen.

Llythyrau teuluol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau personol oddi wrth Lizzie Bowen, gwraig David Bowen, a'i ferched Rhiannon, Enid a Myfanwy, tra roedd Lizzie yn yr ysbyty, ac ambell lythyr ar bynciau amrywiol gan eraill, yn cynnwys David Hopkin.

Hopkin, David, d. 1948

Results 1 to 20 of 22