Mae'r gyfres yn cynnwys copïau o lythyrau gan Ben Bowen, gwaith 'anghyhoeddiedig' Ben Bowen yn Seren yr Ysgol Sul, nodiadau bywgraffyddol a luniwyd gan David Bowen a deunydd gweinyddol yn ymwneud â chyhoeddi a gwerthu llyfrau gan Ben Bowen ac amdano.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a rhyddiaith gan awduron amrywiol, nifer ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer Seren yr Ysgol Sul a chyhoeddiadau eraill ar bynciau crefyddol neu ddiwylliannol.
Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau Ben Bowen tra roedd yn dilyn cyrsiau yn Academi Pontypridd, [1897]-[1899], Prifysgol Caergrawnt, [1898]-[1899], a Choleg Prifysgol Caerdydd, 1899-1900.
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Myfyr Hefin yn bennaf, gan gynnwys cyfres ganddo 'Mamau Cymru a'r Beibl' a'i fwletinau i Urdd y Seren Fore. Ceir hefyd dysteb i Myfyr Hefin, 1936, rhai toriadau personol a thoriadau yn ymwneud â'r Cymdeithasau Cymreig. Daw'r toriadau fwy na heb o Seren yr Ysgol Sul, Seren Cymru a'r Llanelli Mercury.
Welsh Baptist Union. Welsh Baptist Young People's Union. Urdd y Seren Fore
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau a ysgrifennwyd ac a olygwyd gan David Bowen yn ystod ei amser fel golygydd tudalen Gymraeg y Llanelly Mercury, [1920]-[1945].
Mae'r gyfres yn cynnwys 'Dyddlyfr David Bowen', gyda thoriadau papur newydd amdano ef a'i deulu. Sonnir am ddigwyddiadau personol ynghyd â'r cyfarfodydd crefyddol a diwylliannol a fynychai.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o gerddi David Bowen a gopïwyd ganddo ynghyd â rhestr o'r cerddi. Ceir hefyd restr o aelodau 'Cylch awen a chân' ardal Llanelli, 1952-1953.
Mae'r ffeil yn cynnwys emyn-donau gan gyfansoddwyr amrywiol, yn cynnwys John Hughes, T. J. Morgan a Rhyddid Williams, a gasglwyd gan David Bowen er mwyn eu cyhoeddi yn Llawlyfr Urdd y Seren Fore.
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau, pregethau a nodiadau llawysgrif gan David Hopkin ar bynciau megis 'Pabyddiaeth', 'Dirwest' a 'Y Bedyddwyr a'r gwaith cenhadol'. Yr oedd David Hopkin a David Bowen yn gyd-olygyddion 'Cyfres cedyrn canrif' a 'Chyfres y Bedyddwyr Ieuanc'.