Print preview Close

Showing 163 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon file
Print preview View:

'Dyddlyfr' Goleufryn

Llyfr nodiadau yn cynnwys 'dyddlyfr' y Parchedig William Richard Jones ('Goleufryn', 1840-1898), gweinidog yn Eglwys Engedi, 1894-1898, ar gyfer 1863-1865; ynghyd ag adysgrifau o'i ddyddiaduron, 1867-1898, ac adysgrifau eraill, [1853]-1877; a theyrnged iddo gan ?, [1898]. Ceir hefyd 'anerchiad cenhadol' ganddo, [1879].

Goleufryn, 1840-1898

Papurau William Roberts

Papurau a gasglwyd gan William Roberts, Bod Gwilym, yn rhinwedd ei swydd fel blaenor yn Eglwys Engedi ac fel ysgrifennydd ystadegol. Ymhlith y papurau ceir anerchiad J. W. Jones 'Pentwthill-Adgofion a Golygfeydd' ar gyfer Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1902, a thorion o'r wasg a ffotograffau'n ymwneud â dathlu canmlwyddiant yr Eglwys yn 1942. Ceir papurau rhai blaenoriaid a'i ragflaenodd hefyd.

Papurau cymysg

Manylion am hanes codi Eglwys Beulah, ynghyd â llythyrau, 1884-1886, yn ymwneud â'r gwaith hwn a thocyn aelodaeth aelod yn Eglwys Moriah, 1844, a phenderfyniadau cyfarfod o swyddogion Eglwysig Moriah ac Engedi, 1849. Ceir hefyd ymdriniaeth 'Cipdrem ar Fywyd Ysbrydol Engedi Ddeugain Mlynedd yn ol' a gyflwynwyd yn 1936, taflen Dathlu Canmlwyddiant a Hanner 1842-1992 Eglwys Engedi, a thaflenni gwasanaethau Nadolig, 1992-1996.

Capel Moriah (Caernarfon, Wales)

Cymdeithas Lenyddol Engedi

Yn cynnwys cofrestr o bresenoldeb yr aelodau; cofnodion am weithgareddau'r Gymdeithas; ac enghreifftiau o raglenni'r tymor, 1883-1886, gyda rheolau'r Gymdeithas. Ceir llyfr nodiadau hefyd yn cynnwys dyfyniadau o anerchiad Ellis Jones, yr ysgrifennydd, 'Adgofion am Enwogion y Ffydd yng nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yng Nghaernarfon', 1879, a gopïwyd gan R. O. Roberts yn 1894, a'i gyflwyno i'r Eglwys yn 1927.

Cymdeithas Lenyddol Engedi, Caernarfon

Results 1 to 20 of 163