Print preview Close

Showing 15 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon series
Print preview View:

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Mark Lane

Papurau, 1917-1983, yn ymwneud ag Ysgol Sul Mark Lane, gan gynnwys llyfr cyfrifon a llafur, 1917-1926, a llyfr cofnodion, 1953-1973.

Ysgol Sabothol Mark Lane (Caernarfon, Wales)

Cyfarfod Cystadleuol Engedi

Llyfr cofnodion Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Engedi, Caernarfon, 1884-1885, ynghyd â thraethawd 'Hanes yr achos, a'r hen gymeriadau yn Engedi er adeg ei gychwyniad' gan David Jones ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Ysgol Sabathol Engedi 1896.

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.