Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 123 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau D-E

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae J. E. Daniel (3), W. Ll. Davies (7), T. Charles Edwards (7), D. Simon Evans (9), E. Lewis Evans (10), E. Vincent Evans (5), Gwynfor Evans (3) a Robert Evans ('Cybi').

Llythyrau F-I

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Syr Idris Foster (3), Francis Gourvil, Richard Griffith ('Carneddog') (2), R. Geraint Gruffydd (3), W. J. Gruffydd (2) a D. B. Hague (4).

Llythyrau P

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae R. Williams Parry (65, gan gynnwys teipysgrif o'r soned 'Y Dieithryn (John Saunders Lewis)', ac un cerdyn post, 1951, at Saunders Lewis), Syr Thomas Parry (25), Syr T.H. Parry-Williams (7), Ffransis G. Payne (20), Iorwerth C. Peate (17), a W. W. Price (7, un at R. T. Jenkins).

Darlithoedd ac erthyglau

Darlithoedd ac erthyglau'n ymwneud â hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn eu plith ceir y canlynol: 'Llenyddiaeth Gymraeg yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg', 'Y Ddeunawfed Ganrif', 'Llenyddiaeth Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Rhyddiaith y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Adfywiad Llenyddol yn y Ddeunawfed Ganrif', 'Traddodiad Llenyddol Sir Ddinbych', 'Traddodiadau Llenyddol Sir Aberteifi', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'Y Ddysg Farddol a'r Dadeni Cymraeg yn yr 16G', 'Dafydd ap Gwilym', 'Telynegwyr y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Anterliwt Cymraeg II', 'Beirniadaeth Lenyddol', 'Llyfrau Prin', 'Diwylliant Cymreig', a 'Cyhoeddi Llyfrau'.

Llythyrau L (Saunders Lewis)

Yn eu plith ceir rhai'n ymwneud â sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â'r llythyrau, ceir copi teipysgrif o 'Cywydd Marwnad T. Gwynn Jones' gan, ac wedi ei arwyddo gan, Saunders Lewis; a 'Golygfa Mewn Caffe neu, Y Terfyn yng Nghymru', gan ac yn llaw Saunders Lewis. Hefyd, ceir un llythyr, dyddiedig 1931, at Saunders Lewis.

Lewis, Saunders, 1893-1985

'Beirdd a Barddoniaeth Morgannwg'

Llawysgrifau darlithoedd yn bennaf, yn ymwneud â beirdd a barddoniaeth Morgannwg, gan gynnwys 'Beirdd Morgannwg', 'Beirdd a Barddoniaeth Morgannwg', 'The Welsh Bards and the Homes of the Gentry in the Vale of Glamorgan', 'Y Beirdd Cymraeg ac Abaty Margam' (ynghyd â fersiwn Saesneg), a 'Cerddi i Biwritaniaid Gwent a Morgannwg'.

Cyfieithiadau Mary Catherine Llewelyn

Llawysgrif yn cynnwys casgliad o gyfieithiadau Saesneg, [?1839]-1876, gan, ac yn llaw, Mary Catherine Llewelyn, gwraig y Parch. R. Pendrill Llewelyn, ficer Llangynwyd, Morgannwg, 1841-1891, o farddoniaeth gan Lewis Glyn Cothi, William Hopkin, Llangynwyd, a Thaliesin; ynghyd â chyfieithiadau o gerddi eraill a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology, ac emynau gan William Williams, Pantycelyn. Ceir hefyd torion yn cynnwys cerddi Cymraeg, gyda chyfieithiadau Saesneg, a godwyd o The Cambrian, Central Glamorgan Gazette, y Western Mail a Notes and Queries.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys englynion a cherddi rhydd gan Rhys Jones, Blaenau, David Evans, Rhagat, John Pritchard o'r Garth, Dewi Wnion (David Thomas), William Jones, Cefn Creuan Isaf, a Jonathan Hughes, 'Y Deuddeg Arwydd', 'Nodau y Planedau, y Tremiadau', a chyfrifon ariannol. Roedd y gyfrol yn eiddo ar un adeg i Hugh Lloyd, 'Rose and Crown', Goswell Street, Llundain, ac i Evan Lloyd, 1 Mawrth 1836.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys carolau, cerddi rhydd a 'Gramadeg Cerddoriaeth'; ynghyd â thraethawd diwinyddol. Roedd y gyfrol yn eiddo i Joseph Thomas yn 1845.

Barddoniaeth

Llawysgrif yn cynnwys cerddi rhydd gan Evan Griffiths, T. Thomas, Huw Morus, John Jenkins, Evan Thomas Rees a Francis Thomas. Roedd y gyfrol yn eiddo i John Jones, Pantmochbach, Llandysul, Ceredigion, yn 1817, ac i Sylvanus Jones, Criborfach, Llandysul, yn 1847.

Morys, Huw

Torion papur

Torion papur, [1920x1963], yn ymwneud â Iolo Morganwg, llenyddiaeth Gymraeg, crefydd, diwylliant ac addysg yng Nghymru. Yn eu plith ceir un bwndel o dorion, 1954-1956, o ysgrifau 'Cartrefi Cymru' gan Bob Owen, Croesor, yn Y Cymro.

Owen, Bob, 1885-1962

Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg

Copi llawysgrif o'r memorandwm a luniodd G. J. Williams, [c. 1950], ynglŷn â sefydlu Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg. Mae'r memorandwm, a oedd i'w drafod ym Mhwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol, yn cynnwys ei weledigaeth o'r modd y dylid hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd gopi teipysgrif o'r cyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd y memorandwm yn Aneirin Lewis (gol.), Agweddau ar hanes dysg Gymraeg (Caerdydd, 1985).

Llên Cymru

Ffolder yn dwyn y teitl Llên Cymru yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf o erthyglau ac adolygiadau a ymddangosodd yn ystod y cyfnod y bu G. J. Williams yn olygydd ar y cylchgrawn.

Canlyniadau 1 i 20 o 123