Dangos 150 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau amrywiol

Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.

Papurau amrywiol

Darlithoedd amrywiol, [1919x1963]; deunydd yn ymwneud ag apêl Sain Ffagan, 1958; pregeth yn llaw G. J. Williams, [1911x1963]; a llythyrau, 1962, yn ymwneud â hanes y Cob Cymreig.

Papurau'r Athro Griffith John Williams

  • GB 0210 GJWILL
  • fonds
  • [16 gan., hwyr]-1979, gyda bylchau (crynhowyd 1911-1979)

Papurau'r Athro Griffith John Williams (1892-1963), Athro'r Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Yn eu plith ceir ei ohebiaeth, 1911-1962, papurau personol, 1868-1963, cyhoeddiadau a phapurau ymchwil, [1911x1979], ynghyd â chasgliad bach o lawysgrifau a gasglwyd ganddo, [16 gan., hwyr]-[?1939]. Ceir hefyd grŵp bach o bapurau ei wraig, Elizabeth, 1875-1978.

Williams, G. J. (Griffith John)

Pasport

Pasport, ffotograffau, cerdyn adnabod a thrwydded yrru G. J. Williams; ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947.

Personalia

Papurau personol G. J. Williams, yn cynnwys ei basport a phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947; tocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd, 1916-1962; ceisiadau am swyddi, 1914-1958; a phapurau ariannol ac amrywiol, 1918-1963.

Personalia

Papurau personol amrywiol, gan gynnwys tystysgrif ac adroddiadau ysgol, 1904-1909; tystysgrif gradd a thyslythyrau'n ymwneud â'i gyrfa, 1914-1922; dyddiadur mis mêl, 1922, a rhestr anrhegion priodas; llyfr llofnodion, 1907-1910; llyfrau ysgrifennu (3) yn cynnwys 'Pert-ddywediadau hen gymeriadau yn ardal Ffestiniog a'r cylch', a ysgrifenwyd ar gyfer Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi, o bosibl gan Elizabeth Williams pan yn yr ysgol; a chardiau coffa, taflenni angladdol a thorion papur yn ymwneud ag aelodau'r teulu.

Plaid Cymru

Darlithoedd a phapurau'n ymwneud â hanes Plaid Cymru, 1924-1967, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid yn ne Cymru, 1924; papurau'n ymwneud â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio, 1936-1943; cofnodion cangen Dinas Caerdydd o Blaid Cymru, 1932-1936; a deunydd printiedig amrywiol, 1926-1965.

Pregeth

Pregeth yn dwyn y teitl 'Beth a rydd Dyn yn gyfnewid am ei Enaid', wedi ei dyddio '21 April [17]52'. Nodir lleoliad a dyddiad y cyfarfodydd lle traddodwyd y bregeth ar y dudalen olaf.

Rhaglenni a thocynnau

Tocynnau darllen a thocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd. Yn eu plith ceir rhaglen 'Cinio Croeso Cymru i Mr De Valera', Hydref 23, 1948, yn y Park Hotel, Caerdydd, dan nawdd Plaid Cymru, yn cynnwys llofnodion Eamon de Valera, Saunders Lewis, J. Kitchener Davies a Gwynfor Evans.

Rhestri

Nodiadau a rhestri amrywiol o lythyrau a llawysgrifau Iolo Morganwg. Yn eu plith ceir 'Catalogue of Ab Iolo's Library' a chopi o restr llawysgrifau Llanover yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Canlyniadau 101 i 120 o 150