- A7/2
- ffeil
- [1911x1963]
Mynegai i enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg.
Mynegai i enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg.
Mân nodiadau, gan fwyaf, ar unigolion a phynciau amrywiol (rhai gan eraill): Brut y Tywysogion, Thomas Wilkins, Antoni Powel, Awbreaid, Lewis Hopcyn, Rhys Morgan, Dafydd Nicolas, eisteddfodau, Edward Evan, Rhys Meurig, Rhyddiaith Morgannwg, Barry Island, copïwyr llawysgrifau a hanes Morgannwg, teulu'r Stradlings, Tomas ab Ieuan, Wil Hopcyn, llyfrgell y Bont-faen, ayyb.
Nodiadau amrywiol ar yr Hengerdd a'r Trioedd yn bennaf.
Papurau rhydd, digyswllt gan fwyaf, o blith y papurau ymchwil.
Bwndeli a llyfrau ysgrifennu'n cynnwys nodiadau ac adysgrifau, heb unrhyw drefn amlwg.
Nodiadau byr, gan fwyaf, ar unigolion megis Theophilus Evans, Edward Samuel, Silvan Evans, Thomas Richards, Edward Kyffin, John Walters (ynghyd ag amlen yn cynnwys 'John Walters a'i feibion, a Rhys Thomas, yr argraffydd'), aelodau teulu'r Myddleton, Ieuan Fardd, Angharad Llwyd, Thomas Edwards ('Twm o'r Nant'), Thomas Evans ('Tomos Glyn Cothi'), John Penri, Syr John Wynn o Wydir, Thomas Pennant, Goronwy Owen, Griffith Jones, Llanddowror, a Dr William Parry.
Bwndel o nodiadau, y tudalennau wedi eu rhifo E1-372, yn ymwneud â hanes y beirdd, yr Orsedd, ayyb.
Owain Myfyr a'r Dr William Owen Pughe
Darlithoedd ar Owain Myfyr a William Owen Pughe, gan gynnwys 'Cymry Llundain yng nghyfnod Owain Myfyr a'r Dr William Owen[-Pughe]' a 'Hanes Cyhoeddi'r Myvyrian Archaiology'; ynghyd â phapurau perthynol amrywiol.
Ychydig bapurau printiedig amrywiol, 1926-1965, yn ymwneud yn bennaf â rhai o gyfarfodydd cyhoeddus Plaid Cymru.
Bwndel o bapurau ariannol, 1923-1962; ynghyd â phapurau amrywiol eraill, 1918-1963.
Pasport, ffotograffau, cerdyn adnabod a thrwydded yrru G. J. Williams; ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947.
Bwndel o nodiadau yn dwyn y teitl 'Perchnogion Llawysgrifau'.
Pregeth yn dwyn y teitl 'Beth a rydd Dyn yn gyfnewid am ei Enaid', wedi ei dyddio '21 April [17]52'. Nodir lleoliad a dyddiad y cyfarfodydd lle traddodwyd y bregeth ar y dudalen olaf.
Nodiadau pregeth yn llaw G. J. Williams.
Tocynnau darllen a thocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd. Yn eu plith ceir rhaglen 'Cinio Croeso Cymru i Mr De Valera', Hydref 23, 1948, yn y Park Hotel, Caerdydd, dan nawdd Plaid Cymru, yn cynnwys llofnodion Eamon de Valera, Saunders Lewis, J. Kitchener Davies a Gwynfor Evans.
Darn o bapur yn cynnwys rhestr o enwau personol, ynghyd â thaliadau. Cyfeirir hefyd at rai enwau lleoedd ym Morgannwg.
Nodiadau a rhestri amrywiol o lythyrau a llawysgrifau Iolo Morganwg. Yn eu plith ceir 'Catalogue of Ab Iolo's Library' a chopi o restr llawysgrifau Llanover yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.