Print preview Close

Showing 113 results

Archival description
Papurau Pennar Davies, file
Print preview View:

Llyfr cofnodion,

Llyfr cofnodion, 1960-1982, yn cynnwys cofnodion amrywiol pwyllgorau Coleg Coffa, Abertawe. ynghyd â llungopïau [gan Densil Morgan o Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1961-1980 (gyda bylchau)] yn rhestru staff a myfyrwyr yn Abertawe].

'Gweddi a myfyrdod',

Dyddiadur a ddefnyddiwyd i gofnodi gweddïau a myfyrdodau, [1958]-[1959], gan gynnwys gweddïau a draddododd fel Prifathro [Coleg Coffa Aberhonddu] yn 1959 yn rhydd yn y gyfrol.

Cylchlythyrau,

Papurau, 1956-1979, gan gynnwys cylchlythyrau Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Chymdeithas Annibynnol Gydwladol (International Congregational Council).

Cyfnod Aberhonddu,

Papurau, 1949-1959, gan gynnwys llythyr oddi wrth Alun Oldfield-Davies, 1957, yn ei wahodd i fod yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Crefyddol y BBC yng Nghymru; llythyr oddi wrth Keidrych Rhys, 1957; llythyrau oddi wrth Nath[anie]l Micklem, Pennaeth Coleg Mansfield, Rhydychen; papurau'n ymwneud â'i rôl fel tiwtor i oedolion (Cwrs Llenyddiaeth Gymraeg, Aberhonddu, 1953; emynau o'i waith; enghreifftiau o'i bregethau; holiadur swyddogol Prifysgol Cymru am y Coleg, [1954] ac ychwanegiadau, [1958], ynghyd â llungopïau gan [Densil Morgan] o’i ddyddiadur taith ef a'i wraig Rosemarie i'r cyfandir ('yr ail fis mêl'), 1959 ac o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1951-1959], yn cynnwys rhestri o'r myfyrwyr. -- Ceir hefyd ysgrif, [1975], a luniodd am John Evans, Athro yn y Coleg Coffa, a gyhoeddwyd yn [Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970, (Llundain, 1997)], ac ysgrif goffa a luniodd amdano ar gyfer y Times, 1959.

Davies, Alun Oldfield.

Papurau arholiad,

Enghreifftiau o bapurau arholiad Diploma mewn Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru, 1948-1973, yn deillio o'i gyfnod fel darlithydd ym Mangor, Aberhonddu ac Abertawe.

Uno Colegau Aberhonddu a Chaerfyrddin,

Papurau, 1948-[1982], yn ymwneud ag uno Coleg Coffa Aberhonddu a Choleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, a ffurfio coleg unedig yn Abertawe. Ceir torion hefyd o'r Tyst a The Christian World yn trafod y penderfyniad hwn, a thaflen dathlu daucanmlwyddiant Coleg Coffa Aberhonddu yn Eglwys Gynulleidfaol Ebenezer, Abertawe, 1957.

Darlithiau,

Darlithiau diwinyddol, [1968]-[1976], gan gynnwys ‘Gwenallt, bardd y ffydd’, [1968] a ‘The God of the living’ (Drew Lecture on Immorality 1976).

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys ei anerchiad 'Y pethau nid ydynt' fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn Rhosllanerchrugog, 1973, gyda'i nodiadau; copi o'r Tyst, 26 Hydref 1978, yn cynnwys ei erthygl tudalen flaen 'Dyfodol y Coleg Coffa'; a 'Y Coleg Coffa ar hyn o bryd', [1981].

Darlledu gwasanaeth,

Papurau, 1945, y'n ymwneud â threfnu darllediad gan y BBC o wasanaeth yn yr Eglwys ar gyfer cynulleidfa yn Awstralia a Seland Newydd gan gynnwys trefn y gwasanaeth, 9 Medi 1945, llythyrau a'r sgript.

Pregethau amrywiol,

Pregethau Saesneg, [1943]-[1980], yn bennaf. Ceir 'Pregethau'r Adfent' gan gynnwys ei bregeth 'Yr allwedd i hanes' a ddarlledwyd ar 'Oedfa'r Bore' yn 1980. Mae rhestr o'r pregethau yn yr amlen leiaf.

Taflenni,

Taflen ei wasanaeth ordeinio, 21 Gorffennaf 1943, i ofalaeth yr Eglwys, ynghyd â thaflenni a gyhoeddwyd yn wythnosol ganddo yn nodi trefn y gwasanaethau a llythyr bugeiliol oddi wrtho.

Papurau amrywiol,

Llythyr, 1942, yn ei wahodd i fod yn Weinidog ar Eglwys Minster Road, llythyrau, 1944-1946, oddi wrth aelodau ac eraill a oedd mewn cysylltiad â'r eglwys ac yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn diolch am rodd adeg y Nadolig. Ceir hefyd ddau fersiwn o'i araith 'Cardiff & Glamorgan in the future of Wales', 1945, a noddwyd gan Blaid Genedlaethol Cymru

'Mab y Wawrddydd',

Drafftiau teipysgrif y stori fer hir a gyhoeddwyd yn Islwyn Jones a Gwilym Rees Hughes (golygyddion), Storïau '72 (Llandysul, 1972), ynghyd â chopi cyflawn wedi'i gywiro.

Results 1 to 20 of 113