Showing 113 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Pennar Davies, file
Advanced search options
Print preview View:

Cyfnod Aberhonddu,

Papurau, 1949-1959, gan gynnwys llythyr oddi wrth Alun Oldfield-Davies, 1957, yn ei wahodd i fod yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Crefyddol y BBC yng Nghymru; llythyr oddi wrth Keidrych Rhys, 1957; llythyrau oddi wrth Nath[anie]l Micklem, Pennaeth Coleg Mansfield, Rhydychen; papurau'n ymwneud â'i rôl fel tiwtor i oedolion (Cwrs Llenyddiaeth Gymraeg, Aberhonddu, 1953; emynau o'i waith; enghreifftiau o'i bregethau; holiadur swyddogol Prifysgol Cymru am y Coleg, [1954] ac ychwanegiadau, [1958], ynghyd â llungopïau gan [Densil Morgan] o’i ddyddiadur taith ef a'i wraig Rosemarie i'r cyfandir ('yr ail fis mêl'), 1959 ac o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1951-1959], yn cynnwys rhestri o'r myfyrwyr. -- Ceir hefyd ysgrif, [1975], a luniodd am John Evans, Athro yn y Coleg Coffa, a gyhoeddwyd yn [Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970, (Llundain, 1997)], ac ysgrif goffa a luniodd amdano ar gyfer y Times, 1959.

Davies, Alun Oldfield.

'Gweddi a myfyrdod',

Dyddiadur a ddefnyddiwyd i gofnodi gweddïau a myfyrdodau, [1958]-[1959], gan gynnwys gweddïau a draddododd fel Prifathro [Coleg Coffa Aberhonddu] yn 1959 yn rhydd yn y gyfrol.

Cylch Cadwgan,

Llungopïau o'r erthyglau 'Dylanwad Cylch Cadwgan adeg y Rhyfel' ac 'Aduniad Cylch Cadwgan', Y Gwrandawr, Mehefin 1969 a Mawrth 1971, 'Gwilym Rees Hughes yn holi Pennar Davies', Barn 1973, a 'Cynnyrch aelodau Cylch Cadwgan a ymddangosodd mewn detholiad o gylchgronau rhwng 1935 ac 1945' gan Nia Mai Williams, Ysgrifau Beirniadol XXV (1999), ynghyd â'i deyrnged i 'Kate Bosse-Griffiths a J. Gwyn Griffiths' [1979].

Cerddi,

Cerddi Cymraeg a Saesneg, [1930]-[1990], gan gynnwys 'Dieithriaid. I Rosemarie', 1944; ei gyfieithiad 'I ble?' o 'Wohin?' gan Schubert ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1965; 'Adduned. I Gwynfor Evans'; cyfieithiad i'r Saesneg o'i gerdd 'Creiddylad' gan Richard Jeffrey; ei gyfieithiad o'i gerdd 'Llanddwyn' i'r Saesneg; a cherdd 'I gyfarch Rhydwen', Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990. Ceir cerddi hefyd o'r cyfnod cynnar, [1931]-[1939], rhai mewn llawysgrif.

Adolygiadau,

Adolygiadau, [1948]-[1987], o'i weithiau a rhai a luniwyd ganddo ef o lyfrau gan eraill ar ffurf torion a theipysgrifau.

'Mab y Wawrddydd',

Drafftiau teipysgrif y stori fer hir a gyhoeddwyd yn Islwyn Jones a Gwilym Rees Hughes (golygyddion), Storïau '72 (Llandysul, 1972), ynghyd â chopi cyflawn wedi'i gywiro.

Llythyrau,

Llythyrau, gan gynnwys rhai oddi wrth Bobi [Jones] (3), S[imon] B. Jones, E. Tegla Davies, Iorwerth C. Peate, T. J. Morgan a Meredydd [Evans]. Mae rhai o'r llythyrau yn ymateb i'w gyfraniad 'Episodes in the History of Brecknockshire Dissent' yn y cyfnodolyn Brycheiniog, 1957.

Jones, Bobi, 1929-2017

Llythyrau,

Llythyrau, [1936]-[1946], 1992, oddi wrth Aneirin [Talfan Davies] (10), Keidrych [Rhys] (6), ynghyd â'i ddatganiad yn nodi'i safiad yn erbyn y rhyfel ac mae'n gwrthod ymladd 'under the present conditions', [1941]-[1945] ac Alun Llywelyn-Williams (2) ac eraill. Yn eu plith hefyd mae llythyrau oddi wrth ei noddwraig Mrs Fitzgerald. Ceir Cylchlythyr yr Academi, Haf 1992, yn cyfeirio at Arddangosfa o fywyd a gwaith Pennar Davies a gynhaliwyd ym Mhrifiysgol Abertawe.

Davies, Aneirin Talfan

Llythyrau,

Llythyrau, 1960-1965, gan gynnwys rhai oddi wrth Gareth Alban Davies ac Aneirin Talfan Davies.

Davies, Gareth Alban.

Results 101 to 113 of 113